Caerau Energy Efficiency Project
Nod Cynllun Inswleiddio Waliau Caerau yw mynd i’r afael â gwaith inswleiddio waliau mewnol ac allanol annigonol a wnaed mewn cartrefi penodol yng Nghaerau, yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dros ddegawd yn ôl.
Bydd y prosiect yn darparu ateb hirdymor, cynaliadwy ac effeithlon o ran y defnydd o ynni ar gyfer cartrefi a effeithiwyd gan y cynlluniau gwreiddiol.
Cefndir
Yn 2012-2013, cymerodd llawer o drigolion ardal Caerau ran mewn cynllun effeithlonrwydd ynni a oedd yn ceisio dapraru insiwleiddio waliau mewnol ac allanol gwell ar gyfer cartrefi lleol, lleihau allyriadau carbon, a lleihau biliau tanwydd ac ynni cartrefi.
Cyflwynwyd y gwaith hwn o dan ddau gynllun - y Rhaglen Arbed Egni Cymunedol (CESP), a noddwyd gan Lywodraeth y DU ac a ddefnyddiodd gyllid gan y prif gyflenwyr ynni, ac Arbed, a noddwyd ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
Er nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymwneud ag unrhyw ran o’r gwaith o dan y cynllun CESP, gwnaethom benodi contractwyr a goruchwylio cyllid ar gyfer menter Arbed.
Yn anffodus, yn y blynyddoedd ers i’r gwaith effeithlonrwydd ynni gael ei gwblhau, mae rhywfaint o’r inswleiddio waliau mewnol ac allanol a wnaed o dan y cynlluniau CESP ac Arbed wedi methu.
Nod y prosiect hwn yw mynd i’r afael â’r sefyllfa hon a bydd yn sicrhau’r buddion effeithlonrwydd ynni a addawyd yn wreiddiol i drigolion.
Sefyllfa Bresennol
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i ddatblygu cynllun newydd a all unioni’r broblem insiwleiddio wal ddiffygiol.
Mae'r datrysiad hwn wedi’i anelu nid yn unig at eiddo lle darparodd y cyngor arian o dan Arbed, ond mae hefyd yn cynnwys cartrefi lle gwnaed gwaith o dan CESP.
Derbyniodd tua 79 o gartrefi waith inswleiddio waliau allanol neu fewnol o dan CESP, a 25 o dan Arbed.
Mae’r cyngor yn paratoi i lansio’r prosiect hwn a fydd yn amodol ar arolygon cartref a chaniatâd perchennog y tŷ. Yn sgil y gwaith, bydd y prosiect hwn yn cael gwared ar inswleiddio waliau mewnol ac allanol diffygiol o eiddo yr effeithir arnynt, sychu’r gofod wal, gosod inswleiddiad wal ecogyfeillgar o ansawdd uchel, ac adfer yr un buddion ynni-effeithlon a addawyd yn wreiddiol i ddeiliaid tai yn ôl yn 2012-2013.
Y camau nesaf
Mae’r Cyngor wedi penodi Warmworks i ddarparu Gwasanaeth Cefnogi Cyswllt Cymunedol a fydd yn ateb ymholiadau gan drigolion ac yn diweddaru’r gymuned am gynnydd y cynllun.
Gall trigolion sydd wedi derbyn llythyr gan y Cyngor gofrestru eu diddordeb mewn ymuno â’r cynllun trwy glicio ar y ddolen a ganlyn:
Bydd Warmworks yn mynd ati wedyn i gysylltu â thrigolion sydd wedi cofrestru eu diddordeb yn y cynllun, i roi gwybod iddynt am amserlen y gwaith a fydd yn ofynnol i osod y deunydd inswleiddio newydd.
Bydd y trigolion cymwys yn cael cyfle yn y lle cyntaf i gael arolwg o’u cartref gyda golwg ar benderfynu pa waith y mae angen ei wneud. Ni fydd cael arolwg yn ymrwymo unrhyw un i unrhyw waith pellach, ond bydd yn rhoi gwybod i berchnogion cartrefi beth yw’r ateb gorau ar gyfer eu cartrefi.
Dylid cyfeirio ymholiadau trigolion at [insert contact details]