Marchnad Ynni Leol De Corneli
Mae De Corneli wedi cael ei ddewis fel y safle ar gyfer yr arddangosfa Cymunedau Carbon Isel gyntaf, a bydd perchnogion tai yn y pentref yn cael eu gwahodd yn fuan i gymryd rhan yn y treial. Mae ei leoliad a'i strwythur yn ei wneud yn ddelfrydol am y rhesymau canlynol:
- mae'r pentref yn ddaearyddol ungiryw, heb unrhyw ddatblygiad rhuban
- mae'r pentref yn ungiryw o ran trydan - un is-orsaf yng nghanol y pentref sy’n ei wasanaethu (mae'r holl dai'n cael eu bwydo o'r fan hon)
- mae gan y pentref y cyfeiriadedd cywir ar gyfer ynni solar
- mae'r pentref o faint y gellir ei reoli ar gyfer y prosiect arddangos
Sut bydd yn gweithio?
Bydd paneli solar neu offer awyru solar yn cael eu gosod mewn nifer bach o dai yn y pentref a ddewisir. Bydd y trydan a gynhyrchir yn cael ei rannu gyda'r cartrefi eraill sy'n aelodau o'r Gymuned Carbon Isel.
Bydd unrhyw drydan ychwanegol a gynhyrchir yn cael ei storio mewn batris sy'n gysylltiedig â'r cynllun a'i ddefnyddio pan nad yw'r paneli solar yn cynhyrchu digon o drydan. Bydd meddalwedd yn cysylltu'r holl gartrefi gyda'i gilydd ac yn sicrhau y bydd yr holl aelwydydd sy'n cymryd rhan yn derbyn ynni gwyrddach.
Mae’r ddelwedd yn dangos sut mae marchnad ynni leol yn gweithio, gan nodi llif yr ynni a’r data rhwng y gwahanol elfennau ynddi.
Yn y canol mae Cymuned Carbon Isel De Corneli. O’r canol mae dwy saeth ddeugyfeiriol
- Yr Aelwyd
- Y Ganolfan Ynni
Mae gan Yr Aelwyd saeth sy’n cysylltu â’r System Reolaeth Ynni Cartref.
Mae gan y System Reolaeth Ynni Cartref 7 llwybr wedi’u cysylltu iddi, sy’n nodi’r gwahanol lwythau ynni y mae’n rhaid iddi eu hystyried:
- Data Tywydd a’r Farchnad
- PV Solar
- Storfa Fatri
- Offer Cartref
- System Awyru SolarVenti
- Gwresogi
- Gwefru Cerbyd Trydanol
Mae gan Y Ganolfan Ynni 3 llwybr wedi’u cysylltu iddi yn nodi llif egni:
- Storfa Fatri
- Gorsaf Wefru Cerbyd Trydanol
- Grid Pŵer
Yn y lle cyntaf, bydd yn cynnwys nifer bach o aelwydydd cymysg gyda'r meini prawf canlynol:
- cartrefi gyda thoeau sy'n wynebu'r de, y dwyrain neu'r gorllewin - i gael paneli solar wedi'u gosod
- cartrefi sydd eisoes â phaneli solar
- rhai cartrefi heb baneli solar i'w cynnwys yn y gymysgedd â systemau rheoli ynni cartref
- defnyddio canran uwch o drydan adnewyddadwy
- mwy o reolaeth dros eich cyflenwad trydan eich hun
- rhannu buddion ar draws y gymuned, hyd yn oed os nad oes gennych baneli solar wedi'u gosod
"Ie, ond beth allwn ni ei wneud mewn gwirionedd, ar hyn o bryd a nawr, yn ein cymunedau ni, i helpu?"
Mae'r cyngor yn gweithio'n galed i ddarparu ateb gyda'r nod o wneud y fwrdeistref sirol yn rhanbarth sydd wedi'i ddatgarboneiddio ac wedi'i gysylltu'n ddigidol sy'n gweithio i'w drigolion drwy ei fentrau Cymunedau Carbon Isel. Bydd y prosiect arddangos hwn yn darparu gwybodaeth hanfodol ynghylch sut gall marchnad ynni lleol weithio mewn cymuned leol fel De Corneli.
Os bydd yn llwyddiannus, bydd yn cael ei gyflwyno ledled y fwrdeistref sirol a thu hwnt.
Sut i gymryd rhan
Byddwn yn ymweld â De Corneli ar 24 Medi (14:00 - 18:00) i 25 Medi (10:00 - 14:00) i sgwrsio am y prosiect ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan a chofrestru ar y safle.
Fel arall, gallwch gofrestru trwy anfon e-bost i simon.minett@challoch-energy.com
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llwyddo i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Arloesedd Ymchwil Busnes Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio (WBRID) yn seiliedig ar egwyddorion Menter Ymchwil Busnesau Bach.
Partneriaid Cymunedau Carbon Isel:
Mae'r Fenter Cymunedau Carbon Isel yn cael ei datblygu gan y cyngor ar y cyd â sawl rhanddeiliad arall gan gynnwys Challoch Energy, Nuvision Energy (Wales) Ltd a Passiv UK.
Mae Challoch Energy yn ymgynghoriaeth ynni carbon isel sy'n cynorthwyo sefydliadau i ymateb i heriau ynni ac amgylcheddol. Bydd Challoch yn goruchwylio gosod y paneli solar a'r batris yn ogystal â dylunio'r Farchnad Ynni Lleol gyffredinol i sicrhau bod y gymuned yn elwa o drydan adnewyddadwy a gynhyrchir ac a rennir yn lleol.
Bydd Nuvision, cwmni o dde Cymru, yn gosod system awyru solar arloesol mewn cartrefi ynghyd â system monitro ansawdd aer. Ar ôl i’w staff maes proffesiynol gynnal arolygon cyn gosod i ddechrau, bydd ei osodwyr cymwys yn ffitio'r offer. Drwy gydol y cyfnod prawf, cynhelir cyfweliadau byr â pherchnogion tai i gael eu hadborth ar y system ac i gynghori ar welliannau lle bo hynny'n bosibl.
Mae Passiv UK yn arbenigo mewn rheolaeth ddeallus ar dechnolegau a dyfeisiau carbon isel mewn cartrefi drwy ei blatfform rheoli dyfeisiau perchnogol sy'n darparu gwasanaethau cynnal a chadw a diagnostig. Bydd Passiv UK yn efelychu gwahanol agweddau ar y farchnad ynni lleol mewn ymdrech i ddatblygu achos busnes ar gyfer y prosiect.