HyRES
Ar ôl lansio'r prosiect Marchnad Ynni Leol yn llwyddiannus yn Ne Corneli yn 2021, mae’r fenter Cymunedau Carbon Isel yn dechrau ar gam newydd, yn ymchwilio’r defnydd o hydrogen a gynhyrchir yn lleol o fewn ffermio, diwydiant lleol, a chartrefi, lle mae modd disodli rhywfaint o’r nwy naturiol a ddefnyddir ar gyfer gwresogi/coginio.
Fel y gwaith blaenorol ar ffotofoltaeg ac awyru solar, nod ein prosiect newydd yw datgarboneiddio De Corneli gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol.
Mae’n debygol y bydd hydrogen yn rhan allweddol o’n cyflenwad ynni yn y dyfodol, yn cynnig gwres carbon isel i filiynau o dai yn y DU, ac yn bodloni targed Llywodraeth y DU o gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050.
Mae hyn yn golygu lleihau carbon deuocsid ac allyriadau nwyon tŷ gwydr eraill sy’n dod o losgi tanwyddau ffosil, fel glo, disel, a nwy naturiol i bweru diwydiannau, cerbydau ac adeiladau.
Er mwyn bodloni targedau Llywodraeth y DU, mae angen inni ganfod ffynonellau ynni sy’n ystyrlon o'r amgylchedd, ac mae hydrogen yn un opsiwn.
Cwmpas
Roedd ail gam y prosiect, sydd bellach wedi'i gwblhau, yn canolbwyntio ar astudiaeth ddichonoldeb/dylunio sy'n nodi'r dulliau cynhyrchu a dosbarthu gorau posibl ar gyfer y tanwydd. Y nod yw cyflenwi hydrogen gwyrdd i'r gymuned leol drwy ei ddanfon i ffermwyr a diwydiannau lleol a chyfuno â'r rhwydwaith nwy naturiol presennol.
Mae’r astudiaeth dichonoldeb yn pennu’r technolegau ac arferion gorau posibl i gynhyrchu, storio, trosglwyddo a chyflwyno hydrogen. Dyluniwyd y gwaith ymgysylltu â’r gymuned leol i godi ymwybyddiaeth am y prosiect a deall safbwyntiau defnyddwyr lleol.
Wrth symud ymlaen, bydd y gwaith o ddylunio, datblygu ac adeiladu’r cyfleuster hydrogen yn cael ei wneud mewn ymgynghoriad â’r gymuned, wrth flaenoriaethu anghenion a phryderon trigolion. Bydd hyn yn cael ei wneud yn raddol gan ein bod ar y camau cynnar o hyd. Yn y pen draw, nod y prosiect yw ceisio datblygu strategaeth ddatgarboneiddio y gall cymunedau eraill ei dilyn a dysgu ohoni. Dewisir De Corneli i arloesi trawsnewidiad ynni dan arweiniad cymunedol.
Sut fydd hyn yn gweithio
Caiff hydrogen gwyrdd ei gynhyrchu drwy broses o'r enw electrolysis, pan gaiff trydan ei ddefnyddio i hollti dŵr yn hydrogen ac ocsigen. Yn achos hydrogen gwyrdd, caiff y trydan a ddefnyddir yn ystod y broses hon ei gynhyrchu o adnoddau cynaliadwy, fel ynni solar neu wynt, gan olygu bod cynhyrchu hydrogen yn broses garbon niwtral sy’n ystyriol o’r amgylchedd.
Mae hydrogen yn ddewis tanwydd amgen poblogaidd i nwy methan (nwy naturiol) a ddefnyddir mewn cartrefi ar hyn o bryd. Fe'i cyflwynir fel cyfuniad â nwy naturiol – 80% methan, 20% hydrogen – drwy ei ollwng i'r grid presennol. Mae hyn yn cynnig datrysiad gwresogi adnewyddadwy syml, didrafferth, i drigolion: nid oes angen ymgymryd ag unrhyw waith adnewyddu, ac mae eich dyfeisiau eisoes wedi'u cynllunio ar ei gyfer. Mae hydrogen hefyd yn gweithio fel tanwydd glân ar gyfer cerbydau, fel tractors, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer dyfeisiau gwresogi diwydiannol mewn boeleri neu ffwrneisiau. Rydym yn gweithio gyda’r gymuned ddiwydiannol a ffermio lleol i ddeall eu hanghenion a’u pryderon, ac er mwyn ceisio mesur eu hawydd am y tanwydd adnewyddadwy hwn.
Mae’r prosiect hwn yn pwysleisio gwaith datgarboneiddio'r gymuned leol, ac yn blaenoriaethu ei hanghenion. Oherwydd hyn, ein nod yw sefydlu cwmni budd cymunedol (CIC) a fydd yn rheoli’r prosiect. Bydd y CIC yn cynnwys trigolion sy’n gwirfoddoli i gymryd rhan yn y prosiect, a byddant yn pleidleisio ar brif weithgareddau’r prosiect. Mae hyn yn cynnig llais i drigolion pryderus, gan eu galluogi i lywio’r prosiect tuag at fudd y gymuned. Bydd ymuno â'r CIC yn gwbl wirfoddol, nid oes unrhyw rwymedigaethau.
Mae’r prosiect yn ei gyfnod cynnar o hyd, wrth inni barhau i ddysgu o brosiectau blaenorol o bob rhan o'r DU. Byddwn yn parhau i ymgysylltu ac ymgynghori â’r gymuned leol, yn ehangu ar gysyniad y CIC er mwyn deall buddion lleol, a mynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau a phryderon.
Mae gan ddiwydiant nwy y DU record dda iawn o ran diogelwch, a chredwn y bydd y record hon yn gwella wrth bontio tuag at hydrogen Mae’r diwydiant yn cydweithio’n agos â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch er mwyn sicrhau bod y pryderon sy’n gysylltiedig â defnyddio hydrogen i gynhyrchu gwres yn cael eu deall a’u rheoli’n briodol gan y rhwydweithiau nwy. Yn wahanol i nwy naturiol, nid yw hydrogen yn cynnwys carbon, felly bydd hyn yn cael gwared â’r perygl sydd ynghlwm wrth wenwyn carbon monocsid a all ddigwydd wrth i offer nwy naturiol heneiddio.
Mae’r Deyrnas Unedig eisoes wedi defnyddio hydrogen i wresogi cartrefi, yn enwedig yn y 60au a’r 70au, gan yr arferai ‘nwy tref’ gynnwys 50% hydrogen.
Fodd bynnag, ar hyn o bryd rydym yn ystyried cyfuniad o 20% - profodd y prosiect HyDeploy fod hyn yn ddiogel, lle rhoddwyd cyfuniad o 20% i fwy na 600 o gwsmeriaid dros gyfnod o 12 mis.
Mae nifer o fanteision posibl yn perthyn i ddefnyddio hydrogen gwyrdd ar gyfer darparu gwres, yn cynnwys lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella ansawdd yr aer trwy ddisodli tanwyddau ffosil. Hefyd, gall helpu i wneud systemau ynni adnewyddadwy yn fwy dibynadwy a hyblyg trwy gynnig ffordd o storio ynni ychwanegol a’i ddefnyddio pan fo angen.
Bydd y nwy hydrogen yn rhannu’r un piblinellau â’r nwy naturiol a ddefnyddir yn barod, felly ni fydd y cam gosod yn amharu fawr ddim arnoch oherwydd ni fydd angen gosod unrhyw biblinellau newydd i’ch cartref. Gan y bydd Hydrogen Gwyrdd yn cael ei greu’n lleol, bydd gennych well sicrwydd ynglŷn â tharddiad eich ynni.
Gyda chyfuniad o 20%, ni fydd angen newid unrhyw offer oherwydd cânt eu profi eisoes ar gyfer defnyddio 23% o hydrogen. Bydd angen cynnal archwiliad diogelwch nwy arferol er mwyn sicrhau bod yr offer yn cydymffurfio, ond ni ddisgwylir y bydd yn rhaid gwneud unrhyw newidiadau.
Hefyd, ar y cyfan mae boeleri hydrogen yn gweithio yn union yr un modd â boeleri nwy naturiol. Yr unig wahaniaeth yw’r ffaith na fydd boeleri hydrogen gwyrdd yn rhyddhau unrhyw garbon i’r atmosffer.
Wrth gwrs, gweithio ar ddichonoldeb a chynllun y prosiect ydym ni ar hyn o bryd, felly ni fydd angen gwneud unrhyw beth yn eich cartref.
Mae hi’n anodd cyfrifo costau nwy hydrogen ar hyn o bryd gan fod y dechnoleg yn dal i gael ei datblygu. Gwyddom y bydd y gost yn lleihau wrth i’r diwydiant ymdrechu fwyfwy i ddatblygu technoleg newydd.
Mae hi wastad yn cymryd amser inni addasu i dechnoleg newydd. Ers talwm, roedd ynni gwynt, er enghraifft, yn anfforddiadwy; ond ar ôl blynyddoedd o fuddsoddi a datblygu, ynni gwynt bellach yw un o’r ffynonellau ynni rhataf yn y DU. Mae’r un peth yn digwydd gyda hydrogen.
Gwyddom hefyd y bydd sefydlu economi hydrogen yma yn y DU yn diogelu perchnogion cartrefi rhag rhywfaint o’r codi a’r gostwng a welwn ar hyn o bryd mewn costau ynni, oherwydd bydd y wlad yn rheoli ei chyflenwad.
Ac eithrio’r ffordd y caiff ei gynhyrchu a’i effaith amgylcheddol, ni fydd yna unrhyw wahaniaethau amlwg yn y ffordd y caiff eich cartref ei wresogi.