Ynni a Dadgarboneiddio
Strategaeth Garbon Sero Net
Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r targed Sero Net erbyn 2030, ac yn cydnabod y rôl arweiniol ar lefel ehangach, o safbwynt galluogi busnesau a chymunedau’r sir i gyflawni Sero Net.
Gwnaethom ein datganiad o ran ein hargyfwng hinsawdd ein hunain ym Mehefin 2020, a sefydlwyd ein rhaglen Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd.
Strategaeth Garbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr yw’r cam strategol cychwynnol o safbwynt cyflawni’r ymrwymiad hwn.
Mannau gwefru cerbydau trydan
Mae yna bwyntiau gwefru cerbydau trydan (EV) oddi ar y stryd ar gyfer y cyhoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae yna unedau sydd wedi’u gosod ar y llawr ac unedau wedi’u gosod ar y wal mewn amrywiol leoliadau, ac yn y rhan fwyaf o’r lleoliadau, ceir dewis i wefru’n araf neu’n gyflym.
Mae'r pwyntiau gwefru yn ael eu gweithredu gan Clenergy-ev. Er mwyn eu defnyddio byddwch angen gofrestru drwy'r ap Clenergy-ev.
Cartrefi Gwyrdd Cymru
Helpu perchnogion tai yng Nghymru i arbed ar filiau ynni a lleihau eu heffaith amgylcheddol
Mae Cartrefi Gwyrdd Cymru yn fenter gan Lywodraeth Cymru, a reolir gan Fanc Datblygu Cymru, a gynlluniwyd i gefnogi perchnogion tai cymwys i wneud gwelliannau ynni effeithlon i'w cartrefi.
Mae'r Cynllun yn cynnig cyllid di-log a chymorth arbenigol wedi'i ariannu'n llawn, gan eich helpu i arbed arian ar filiau ynni a lleihau allyriadau carbon.