Ysgolion a thywydd drwg iawn
Gall tywydd drwg iawn effeithio ar ysgolion lleol mewn gwahanol ffyrdd.
Gall orfodi ysgol i gau oherwydd y canlynol:
- eira trwm yn atal athrawon a staff rhag teithio i’r gwaith, sy’n debygol iawn os nad ydynt yn byw yn agos at yr ysgol
- systemau gwresogi’n methu
- pibellau dŵr wedi byrstio’n gallu arwain at ddŵr mewn ystafelloedd dosbarth
I helpu i roi gwybod i rieni, gwarcheidwaid a disgyblion am unrhyw ysgolion yn cau, rydym wedi sefydlu tudalen ysgolion yn cau ar y we. Gall penaethiaid ddiweddaru’r dudalen yma’n uniongyrchol o’u lleoliadau hwy.
Mae posib gwrando am ddiweddariadau ar BridgeFM a gorsafoedd radio lleol eraill i weld a yw ysgol wedi cau, a bydd gwybodaeth ar gael ar BBC Cymru Wales ar-lein.