Cefnogi pobl fregus mewn tywydd drwg iawn
Mae’n bwysig gofalu am ein gilydd mewn tywydd drwg iawn, ac yn enwedig pobl fregus fel cymdogion mewn oed neu anabl. Gallwch wneud hyn drwy ystyried pwy o’ch amgylch chi sy’n wynebu risg a gwneud trefniadau gyda nhw i’w helpu gyda siopa am fwyd neu dasgau pwysig eraill.
Hefyd, gall cymunedau baratoi ar gyfer tywydd drwg iawn drwy benderfynu a oes modd gwneud tasgau ar y cyd yn hytrach nag yn unigol. Gall hyn leihau effeithiau tywydd drwg iawn yn y cartref ac yn y gwaith, drwy glirio eira o fynedfeydd neu lefydd parcio, er enghraifft.
Cadw’n ddiogel yng nghwmni dieithriaid
Dim ond gan bobl rydych chi’n eu hadnabod ddylech chi dderbyn help, ac aelodau o sefydliad gwirfoddol cyfarwydd i chi.
Os nad ydych yn adnabod rhywun, gofynnwch iddyn nhw am fathodyn adnabod a’i wirio cyn eu gadael i mewn i’ch tŷ. Ni fydd cynorthwywyr didwyll yn poeni am orfod aros pan rydych chi’n gwneud hyn, ac mae mwy o wybodaeth am leihau’r risg o ymwelwyr twyllodrus ar gael yma.
Cefnogi eich cymuned
Efallai bod cyfleoedd hefyd i chi ymwneud â chynlluniau gwirfoddoli lleol yn ystod tywydd drwg iawn. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwirfoddoli Cymru.
Am yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i’n tudalen ni ar Facebook, neu fonitro ein diweddariadau drwy chwilio am #BCBCwinter ar Twitter. Hefyd gallwch fynd i’n tudalennau newyddion ni.