Rhwydwaith Natur Cwm Taf
Mae Prosiect Rhwydwaith Natur Cwm Taf wedi llwyddo i gael cyllid o Gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Llywodraeth Cymru.
Nod Rhwydwaith Natur Cwm Taf yw ffurfio cydweithrediad rhwng sefydliadau yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Cwm Taf i reoli seilwaith gwyrdd y rhanbarth er budd pobl, busnesau a chymunedau.
Mae’r prosiect wedi’i rannu’n dair thema sy’n cyd-fynd â Chynlluniau Llesiant Cwm Taf a Phen-y-bont ar Ogwr â themâu gweithredu Cynllun ENRaW:
- Galluogi - Cynyddu mynediad i seilwaith gwyrdd
- Grymuso - Gwella ansawdd yr amgylchedd ar gyfer cymunedau ffyniannus.
- Unith - Creu rhwydwaith cysylltiedig o fannau gwyrdd.
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Plannu Coed
Dydd Sadwrn 18 Chwefror, 10am - 1pm
Parc Maesteg
Ymunwch â Rhwydwaith Natur Cwm Taf wrth iddynt blannu coed ym Mharc Maesteg. Croeso i bawb, cofiwch wisgo dillad cynnes a dewch â dillad gwrth-ddŵr gyda chi. Cwrdd yn y man tyfu cymunedol oddi ar Neath Road.
Plannu Coed
Dydd Sul 19 Chwefror, 10am – 1pm
Craig y Parcau
Ymunwch â Rhwydwaith Natur Cwm Taf wrth iddynt blannu coed yng Nghraig y Parcau. Croeso i bawb, cofiwch wisgo dillad cynnes a dewch â dillad gwrth-ddŵr gyda chi. Cwrdd ym mynedfa Park Court Road.
Arddangosiad adeiladu eich Blwch Adar eich hunan
20 Chwefror, 11am – 1pm
Llyn Wilderness, Porthcawl
I nodi Wythnos Genedlaethol y Blwch Nythu, mae Rhwydwaith Natur Cwm Taf yn cynnal arddangosiad adeiladu blwch adar. Dewch i ymweld â’r tîm ym mhabell Rhwydwaith Natur Cwm Taf i gasglu eich pecyn, ac ewch ati i greu a gosod eich blwch adar eich hun gartref.
Addas ar gyfer pawb o bob oed, rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn drwy’r amser.
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, ond rhaid mynnu lle ymlaen llaw.
Arddangosiad adeiladu eich Blwch Adar eich hunan
21 Chwefror, 11am – 1pm
Parc Bedford, Cefn Cribwr
I nodi Wythnos Genedlaethol y Blwch Nythu, mae Rhwydwaith Natur Cwm Taf yn cynnal arddangosiad adeiladu blwch adar. Dewch i ymweld â’r tîm ym mhabell Rhwydwaith Natur Cwm Taf i gasglu eich pecyn, ac ewch ati i greu a gosod eich blwch adar eich hun gartref.
Addas ar gyfer pawb o bob oed, rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn drwy’r amser.
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, ond rhaid mynnu lle ymlaen llaw.
Helfa Pryfed y Gaeaf
22 Chwefror, 11am - 1pm
Golchfeydd Ogwr, CF32 7AN
Dewch ar helfa pryfed gaeaf dan arweiniad yr arbenigwr lleol, Liam Olds. Chwiliwch drwy’r coed am bryfed a phryfetach y gaeaf. Byddai’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n dechrau arni ac sy’n dymuno gwella eu gwybodaeth am infertebratau.
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, ond rhaid mynnu lle ymlaen llaw.
Arddangosiad Falconry UK
23 Chwefror, 10am - 12pm
Parc Calon Lan
Dewch i ymuno â ni am ddiwrnod gyda Falconry UK a fydd yn cyflwyno arddangosiad statig o adar ysglyfaethus, gan gynnwys Eryrod, Fwlturiaid, Hebogau, Gweilch, Barcutiaid a Thylluanod.
Trin adar gyda llun ar gael am £1.00. Bydd yr holl elw’n mynd i fentrau Achub Adar Falconry UK.
Gweithgaredd i'r teulu, rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn drwy'r amser.
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, ond rhaid mynnu lle ymlaen llaw.
Cwrdd â'r Gwirfoddolwyr
24 Chwefror, 10am – 2pm
Parc Bedford, Cefn Cribwr
Dewch i gwrdd â’n gwirfoddolwyr rheoli mannau gwyrdd ymroddgar, dysgwch sut i ddefnyddio offer llaw i reoli prysgoed a “tree popper” i gael gwared ar brysgoed diangen o’r ddôl, er mwyn gwella bioamrywiaeth.
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, ond rhaid mynnu lle ymlaen llaw.
Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Cyngor Bwrdeistref Siriol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.