Rheoli coed
Dwy ffordd o ddelio â choed peryglus
I roi sylw i goeden beryglus ar dir cyhoeddus, gallwch anfon e-bost i’r adran Gynllunio a gofyn am gyngor cyfreithiol.
Anfon e-bost i’r adran Gynllunio am help
Yn eich e-bost, nodwch yr union leoliad a natur y broblem. Ein cyfeiriad e-bost yw planning@bridgend.gov.uk.
Cael cyngor cyfreithiol pellach
I wybod sut orau i weithredu mewn achosion cymhleth, mae posib i chi gael cyngor cyfreithiol. Gallai cyfreithiwr eich cynghori chi, neu gallwn ni ddarparu rhywfaint o gyngor ar y mater drwy ddefnyddio’r manylion isod.
Cyswllt
Gwener: 8.30am tan 4.30pm
T: 017581 157014 (ar gyfer cwsmeriaid byddar a thrwm eu clyw).
Croesewir galwadau yn Gymraeg.
Hefyd gallwch wylio’r fideo yma i ddod i wybod mwy am SignVideo BSL Live.
Beth na fyddwn yn ei wneud
Rydyn ni’n rheoli’r holl waith cynnal a chadw hanfodol ar goed ac yn rhoi sylw i goed peryglus. Ond eto, ni fyddwn yn addasu coed:
- am resymau cosmetig neu ymddangosiad
- am eu bod yn blocio golau
- er budd panelau solar
- oherwydd colli neu darfu ar signal teledu neu loeren
- os ydynt yn blocio golygfa
- oherwydd colli dail, ffrwythau neu weddillion eraill, ac ni fyddwn yn cael
- gwared ar y rhain chwaith
- oherwydd canghennau’n hongian dros dir cyfagos
- am eu bod yn dal neu’n siglo’n agos at eiddo
Gwybodaeth am blannu coed
Rydyn ni’n gweithredu prosiect plannu a thrin coed mawr. Edrychwch ar ein herthygl ‘Gwaith i gadw “fforest drefol” y fwrdeistref sirol mewn cyflwr da’ am fwy o wybodaeth ac edrychwch ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.
Coed ar dir Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Edrychwch ar wefan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen am fwy o wybodaeth am y degau o erwau maen nhw’n berchen arnyn nhw ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.