Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr
Nod Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr yw ailgysylltu pobl â natur.
Mae'r bartneriaeth yn dod â chymunedau at ei gilydd i archwilio, darganfod a rhannu natur ar garreg eu drws. Gall hyn yn ei dro fod o fudd i'n bywyd gwyllt lleol.
Mae PNL Pen-y-bont ar Ogwr yn dod ag amrywiaeth eang o sefydliadau at ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys unigolion sydd â diddordeb mewn byd natur lleol a chynrychiolwyr o:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Prifysgol Abertawe
- Plantlife
- Yr Ymddiriedolaeth Natur
- Parc Bryngarw
- Cadwch Gymru'n Daclus
Mae'r PNL yn rhan o rwydwaith adfer natur sy'n cynnwys 23 o bartneriaethau natur lleol ledled Cymru. Gyda'i gilydd, nod y partneriaethau hyn yw creu Cymru sydd â chyfoeth o fyd natur i bawb drwy rannu gwybodaeth, profiad ac arfer gorau.
Mae PNL Pen-y-bont ar Ogwr yn bodoli i:
- codi ymwybyddiaeth a diddordeb mewn cadwraeth natur
- cynnal a gwella bioamrywiaeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- cynyddu ymgysylltiad â gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur a datblygu sgiliau
- hybu camau gweithredu ac ymddygiadau i leihau'r pwysau ar rywogaethau a chynefinoedd lleol.
Cymerwch Ran
Mae gan Bartneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr gyfarfodydd rheolaidd, ac mae ei haelodau yn derbyn diweddariadau drwy gylchlythyron rheolaidd. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais i ymuno â’n rhestr bostio, cysylltwch â:
Mae yna hefyd nifer o gyfleoedd gwirfoddoli o fewn byd natur ar hyd a lled y fwrdeistref sirol.