Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd
Dengys y Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd sut rydym yn bwriadu:
- lleihau effaith llifogydd ar unigolion, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd
- cynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â phobl wrth ymateb i berygl llifogydd ac erydu arfordirol
- rhoi ymateb effeithiol a pharhaus i lifogydd ac erydu arfordirol
- blaenoriaethu buddsoddiad yn y cymunedau sydd fwyaf agored i niwed.
Mae’r strategaeth yn cyfuno polisïau presennol ac unrhyw gamau gweithredu neu bolisïau newydd sydd wedi’u cyflwyno yn sgil Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009. Mae hefyd yn cynnwys camau gweithredu neu bolisïau arfaethedig i’w cyflwyno er mwyn rheoli perygl llifogydd ymhellach.
Cymeradwywyd y Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ym mis Medi 2013.