Llanw
Gwybodaeth am y sawl y dylid ei hysbysu o lifogydd.
Yn ystod llifogydd difrifol, y gwasanaethau brys yw’r prif ymatebwyr i lifogydd. Byddwn yn gweithio gyda nhw i gynorthwyo pobl i adael eu cartrefi a darparu llety brys a gwasanaethau cymdeithasol eraill iddynt.
Bagiau tywod
Mae bagiau tywod gennym a byddwn yn ceisio eu darparu lle gallant gyfyngu ar effaith llifogydd. Os bydd argyfwng mawr, efallai na fydd modd bodloni pob cais ac felly ni allwn warantu y gellir rhoi bagiau tywod i bob eiddo. I wneud cais am fagiau tywod, cysylltwch â ni:
Draeniau cyhoeddus a ffyrdd dan lifogydd
Cyfrifoldeb y Cyngor yw monitro perygl llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb ffo a dŵr daear. Os oes draen wedi’i rhwystro neu ffordd dan lifogydd, cysylltwch â ni:
Llifogydd o garthffosydd neu brif bibellau dŵr sydd wedi rhwygo
Mae Dŵr Cymru yn gyfrifol am berygl llifogydd o garthffosydd cyhoeddus a phrif bibellau dŵr. Ceir gwybodaeth am adrodd am ac ymdrin â’r fath lifogydd ar wefan Dŵr Cymru:
Llifogydd o afonydd neu’r môr
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am fonitro’r perygl llifogydd o’r prif afonydd a’r môr. Gallwch gael gwybod am berygl llifogydd o afonydd a’r môr ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru:
Atal llifogydd
Cyfrifoldeb y perchennog yw atal llifogydd ar eiddo preifat. Fodd bynnag, os bydd llifogydd byddwn yn ceisio rhoi cymorth.Petai lifogydd mawr, byddwn yn ceisio diogelu a helpu’r bobl a’r seilwaith sydd fwyaf agored i niwed yn gyntaf.
Digwyddiad naturiol yw llifogydd. NI all unrhyw system ddraenio neu fesurau amddiffyn rhag llifogydd warantu na fydd llifogydd.
Os ydych yn pryderu am lifogydd, efallai bydd y National Flood Forum yn gallu eich helpu: