Cynllun Rheoli Traethlin
Dogfen polisi anstatudol yw’r Cynllun Rheoli Traethlin sy’n rhoi cyngor ar sut dylai’r arfordir newid yn y tymor hir. Mae’n helpu cynllunwyr a rheoleiddwyr i gynllunio ar gyfer sut bydd yr arfordir yn newid ac i reoli hyn. Gellid gwneud hyn trwy:
- gynnal a gwella amddiffynfeydd
- galluogi prosesau naturiol
- creu cynefinoedd newydd
- cyfyngu ar effaith llifogydd.
Mae’r cynllun yn gwneud hyn trwy:
- nodi peryglon i’r amgylchedd datblygedig, hanesyddol a naturiol wrth i’r arfordir newid
- creu polisïau i reoli’r peryglon yn gynaliadwy
- asesu’r arfordir a rhagfynegi sut bydd yr arfordir yn newid dros amser.
Mae’r Cynllun Rheoli Traethlin yn amlinellu polisi ar gyfer rheoli amddiffynfeydd arfordirol yn unig. Nid yw’n pennu polisi ar gyfer unrhyw ffyrdd eraill o reoli perygl llifogydd (megis draenio tir) neu reoli adnoddau arfordirol.
Gofynnir i awdurdodau lleol a rheoleiddwyr sy’n gyfrifol am reoli’r draethlin fabwysiadu’r Cynllun Rheoli Traethlin. Bydd rhaid iddynt wneud eu penderfyniadau ar sail y cynllun. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad yw datblygiadau yn y dyfodol mewn perygl uwch o lifogydd neu erydu arfordirol.