Gwirfoddolwyr Mannau Gwyrdd
Mae gwirfoddoli yn ffordd dda o ddysgu sgiliau newydd, cadw’n heini a chymdeithasu, gan helpu’r amgylchedd ar yr un pryd.
Ceir llu o grwpiau gwirfoddoli ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae gwirfoddoli yn yr awyr agored yn ffordd wych o gysylltu â phobl, cadw’n heini a gwella eich iechyd corfforol a meddyliol.
Cyswllt
Grwpiau gwirfoddoli
Ceir llu o grwpiau gwirfoddoli ar draws y fwrdeistref sirol. Mae gan bob grŵp gwirfoddol dasg benodol. Efallai y byddwch yn:
- torri coed
- creu rhestrau rhywogaethau neu ddiweddaru cofnodion
- adnabod coed neu rywogaethau
- gosod gwrychoedd
- dysgu am reolaeth coetir
- cofnodi ffyngau, gwneud arolwg o ystlumod neu flodau gwyllt
- Tywys pobl ar deithiau cerdded neu gynnal sgyrsiau
Mae gan y grŵp yma gyfres o ddigwyddiadau rheoli cefn gwlad amrywiol ledled y fwrdeistref sirol. O dan arweiniad yr hyfforddwyr, mae’r gweithgareddau’n cynnwys plygu gwrych a thocio. Hefyd, rydym yn cynnal teithiau a sgyrsiau natur.
Byddwn yn darparu’r holl offer sydd ei angen, ond cofiwch wisgo dillad ac esgidiau priodol ar gyfer tywydd y diwrnod. Rhaid i bob plentyn dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Mae Parc Gwledig Bryngarw yn bwysig oherwydd bod ganddo lawer o goed, blodau, adar, mamaliaid a phryfed. Mae ei gynefinoedd yn cynnwys coetiroedd collddail, gwlybdiroedd, dolydd o flodau gwyllt, Afon Garw a gerddi ffurfiol. Mae’n rhaid rheoli’r rhain i gyd i sicrhau bod ymwelwyr yn gallu eu mwynhau drwy gydol y flwyddyn.
Mae ein gwirfoddolwyr yn hanfodol i’r gwaith yma ac mae eu prosiectau wedi cynnwys y canlynol:
- adfer y berllan
- arolygu ein blodau gwyllt
- tocio’r coetiroedd
- creu tŷ crwn o’r Oes Haearn yn ein gardd natur addysgol
Ar y safle yma, mae’r gwirfoddolwyr yn cyfarfod un dydd Sadwrn o bob mis rhwng 10am a 2pm. I ymuno, cysylltwch â’r grŵp ar y manylion isod.
Cyswllt
E: bryngarw.park@awen-wales.com
Ff: 01656 725155
Mae’r grŵp yma’n ymweld â chefn gwlad. Mae’r tripiau wedi cynnwys y canlynol:
- ymchwilio i safleoedd hanesyddol
- diweddaru cofnodion ar gyfer rhywogaethau llai cyffredin
- edrych ar ardaloedd yr ymwelir â hwy yn llai aml i weld beth sydd yno
- creu rhestr o rywogaethau ar gyfer eu rhoi mewn basau data cenedlaethol a phrosiectau fflora
- cofnodi manylion monitro pellach fel poblogaethau, union leoliadau a nodiadau am gynefinoedd
Hefyd, mae’r grŵp yn fforwm cyfeillgar ar gyfer dysgu am gofnodion botanegol. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau adnabod planhigion, cyfnewid cyngor ar gyfer rhywogaethau a grwpiau anodd, a dysgu mwy am gynefinoedd lleol. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn cofnodi planhigion, boed ddechreuwyr neu arbenigwyr.
Mae’r grŵp yma’n cofnodi ffyngau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n annog diddordeb mewn ffyngau, a gwell dealltwriaeth ohonynt drwy dripiau, sgyrsiau a gweithdai. Mae’r rhain ar agor i’r cyhoedd ac i aelodau. Hefyd, mae’r grŵp yn codi ymwybyddiaeth drwy feithrin cysylltu â grwpiau proffesiynol ac amgylcheddol. Mae’n hybu gwarchod ffyngau a chynefinoedd dan fygythiad o ffyngau prin.
Am fwy o wybodaeth neu i ymuno, cysylltwch â hwy.
Cyswllt:
Gallwch wirfoddoli yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Dyma’r manylion cysylltu am fwy o wybodaeth:
Cysylltu
E: biodiversity@bridgend.gov.uk
Ff: 01656 743386
Mae’r grŵp yn monitro clwydi ac yn arolygu safleoedd penodol yn rheolaidd. Fel rhan o Raglen Monitro Ystlumod Genedlaethol Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Ystlumod, maent yn cynnal arolygon maes, arolygon ar ddyfrffyrdd, ac arolygon machlud-codiad haul.
Hefyd, mae’r grŵp yn cynghori perchnogion tai sydd â chlwydi. Maent yn gofalu am ystlumod sâl ac wedi anafu hefyd. Mae gan y grŵp ystlumod deithiau cerdded rheolaidd i aelodau.
Cyswllt:
Grŵp Ystlumod Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr
Mike Shewring
E: vogbridgendbatgroup@gmail.com
Gwefan Grŵp Ystlumod Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r gwirfoddoli’n digwydd ar ddyddiau Mercher a Gwener. Mae’r ymddiriedolaeth yn awgrymu rhodd o £2 tuag at ei gwaith cadwraeth ym mhob digwyddiad.
Mae pencadlys gwaith gwirfoddoli’r ymddiriedolaeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Slip yr Ymddiriedolaeth Natur. Mae’n cynnwys siop goffi sy’n gweini cinio a byrbrydau, toiledau a maes parcio am ddim.
Cyswllt
E: t.jones@welshwildlife.org
Ff: 01656 724100
Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru
Tim Jones
Canolfan Ymwelwyr Parc Slip yr Ymddiriedolaeth Natur
Heol y Ffynnon
Tondu
Pen-y-bont ar Ogwr
CF32 0EH
Llun i Wener 10am - 4pm
Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.