Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Rydyn ni wedi llwyddo i gael cyllid gwerth £414,200, diolch i grant gan gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
Mae’r gronfa yma ar gyfer Partneriaethau Natur Lleol, i adfer a gwella byd natur ar garreg eich drws drwy ganolbwyntio ar ‘leoedd bob dydd’ fel lleoliadau lle mae pobl yn byw neu’n gweithio.
Bydd y gronfa yma’n cael ei defnyddio i greu hybiau natur a gwella bioamrywiaeth ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a hefyd gwella’r mannau yma i bobl ymgysylltu â byd natur a threulio amser ynddo.
Gwaith gwella
Mae’r gwaith gwella presennol yn cynnwys:
Caeau Chwarae Llangrallo
Parc natur a hamdden yn cynnwys coed brodorol, llwyni a blodau gwyllt.
Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys pyllau arafu a thwmpathau i wella draeniad y cae, gwella’r amodau ar gyfer hamdden ac atal llifogydd i'r ardaloedd cyfagos, a hefyd creu cynefin gwlybdir pwysig.
Bydd y safle hefyd yn elwa o waith ar lwybrau newydd i ganiatáu mynediad i'r safle ac o'i amgylch.
Parc Chwarae Tondu oddi ar Heol Maesteg
Bydd y parc yn elwa o goed brodorol, llwyni a blodau gwyllt, gan greu rhwystr o'r ffordd brysur a hefyd cynnal golygfeydd i mewn i'r ardal chwarae.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys meinciau i roi lle tawel i ymwelwyr fwynhau byd natur a’r cyfleusterau chwarae, yn ogystal â choed ffrwythau, bocsys adar a gwesty trychfilod.
Sied Dynion Caerau
Sefydlwyd Sied Dynion Caerau ar gyfer dynion sydd angen cyfeillgarwch, cefnogaeth ac ymdeimlad o berthyn.
Mae'r grŵp yn rheoli darn o dir yng Nghaerau sydd ar hyn o bryd yn cynnig ychydig o werth hamdden neu ecolegol.
Drwy’r cynllun hwn, bydd y gofod yn cael ei drawsnewid yn ardd bywyd gwyllt ac ardal tyfu bwyd y gall y gymuned leol, ysgolion, grwpiau a phobl sy’n hoff iawn o fywyd gwyllt gael mynediad iddi.
Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys pwll bach a chuddfan adar.
Stad Blaencaerau
Cymdeithas Tai Cymoedd i’r Arfordir sy’n berchen ar y stad ac yn ei rheoli a bydd yn elwa o ofod tyfu cymunedol pwrpasol, coed brodorol ar hyd y brif ffordd, creu coetir newydd a gardd bywyd gwyllt.
Y gobaith yw y bydd y gwaith yma’n gwella ac yn creu coridorau hanfodol ac yn darparu cysylltedd rhwng cynefinoedd ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau fel pryfed peillio, ystlumod a mamaliaid bychain, yn ogystal â gwella’r ardaloedd ar gyfer cymunedau lleol.