Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Effeithlonrwydd Ynni i Gartrefi

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni gwael mewn cartrefi.

Mae uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni AM DDIM (1) ar gael i gartrefi cymwys drwy’r cynllun ECO4.

Nod y Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO), a gefnogir gan y Llywodraeth, yw helpu cartrefi cymwys i sefydlu datrysiadau ynni effeithlon heb unrhyw gost i chi (1), gan leihau biliau ynni a gwella cynhesrwydd cartrefi trigolion o ganlyniad.

Mae’r cynllun wedi cael ei ddiweddaru i sicrhau bod ei fersiwn newydd (ECO4) yn well nag erioed, ac erbyn hyn ei nod yw uwchraddio’r cartrefi mwyaf aneffeithlon drwy osod pecyn o uwchraddiadau gwresogi ac insiwleiddio (2) wedi’i deilwra, a fydd yn gwella sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) eich cartref - Dewch o hyd i’r dystysgrif ynni.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gydag E.ON i helpu cartrefi cymwys yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd E.ON yn rheoli ac yn darparu’r cynllun, ond nid oes angen ichi fod yn gwsmer E.ON i wneud cais ac ni fydd angen i chi ddod yn gwsmer ynni E.ON.

Bydd E.ON yn helpu trigolion cymwys i gyrchu’r cyllid i osod yr uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni, cydlynu â chontractwyr achrededig lleol a chenedlaethol i arolygu’r eiddo, a gosod yr uwchraddiadau a darparu cefnogaeth barhaus drwy gydol y broses.

Pa uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni sydd ar gael?

Bydd contractwyr E.ON yn cynnal arolwg manwl o bob eiddo cymwys i wirio pa uwchraddiadau a fyddai’n addas ar gyfer y cartref. Yna byddant yn cynnig pecyn o welliannau gwresogi ac insiwleiddio wedi’u teilwra a allai helpu i wneud y broses o wresogi eich cartref yn rhatach ac yn haws i’w chynnal. Gallai trigolion elwa o gyfuniad o’r uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni canlynol:

  • Ceudod/ insiwleiddio waliau soled
  • Insiwleiddio croglofft/o dan y llawr
  • System wresogi carbon isel (pwmp gwresogi ffynhonnell aer)
  • Uwchraddiadau boeler
  • PV solar

Pwy sy’n gymwys?

I elwa o’r cynllun hwn, rhaid i drigolion fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Mae eich eiddo wedi cael sgôr D,E,F neu G fel gradd EPC (rhaid i eiddo rhent fod wedi cael sgôr E,F neu G)

ac

  • Rydych yn derbyn un neu fwy o fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd, neu
  • Rydych yn derbyn budd-dal plant (trothwyon incwm yn berthnasol), neu
  • Rydych yn gymwys dan Awdurdod Lleol neu ddatganiad hyblyg cyflenwr.

Sut i wneud cais?

Fel ein partner darparu, bydd E.ON yn eich tywys o’r cais cychwynnol hyd at y gwaith gosod.  Gallwch wneud cais am y cyllid am ddim drwy ffonio’r tîm E.ON ar 0333 202 4422.

Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5.00pm. Fel opsiwn arall, gallwch e-bostio’r tîm E.ON drwy eoncommunityprojects@eonenergy.com gan nodi eich enw, eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt, a bydd un o’r tîm yn cysylltu i drafod eich amgylchiadau.

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi wneud cais?

Cymhwysedd cynllun - bydd E.ON yn penderfynu a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun ECO, ac yn trefnu i chi gael arolwg cartref os felly.   

Arolwg cartref am ddim - bydd E.ON yn trefnu dyddiad ac amser i gontractwr ymweld â’ch eiddo i benderfynu pa welliannau sy’n addas ar gyfer eich cartref. Byddant yn cynnig pecyn pwrpasol o uwchraddiadau ac nid oes unrhyw reidrwydd i barhau â’r argymhellion.

Insiwleiddio - Bydd y gwelliannau effeithlonrwydd ynni ar gyfer eich cartref yn cael eu cynnal gan gontractwyr achrededig E.ON.

Ôl-ofal - Bydd E.ON yn parhau i ddarparu cefnogaeth barhaus ar eich cyfer. Darperir warantïau, gwarantiadau a thelerau ac amodau ar ôl cwblhau’r gosodiadau.

 

Y rhan gyfreithiol

(1) Rhaid i’r holl geisiadau fodloni’r meini prawf cymhwysedd ECO a osodwyd gan OFGEM a bydd pob cais yn amodol ar arolwg cartref annibynnol am ddim. Cynigir y mesurau am ddim os cânt eu gosod yn unol â chwmpas arferol y gwaith.

(2) Bydd y cynnig cyllid ECO4 yn amodol ar becyn o welliannau wedi’i deilwra sy’n angenrheidiol i wella gradd EPC eich eiddo. Tynnir eich sylw at y pecyn o fesurau a fydd yn cael eu gosod er mwyn ichi gytuno iddynt cyn iddynt gael eu gosod.

Chwilio A i Y