Cynllun adfer natur
‘Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: Asesu ac Adolygu Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau 2014’ yw ein cynllun adfer natur. Mae’n rhestru ein cynefinoedd yn ogystal â’r risgiau iddynt, ac yn cyflwyno awgrymiadau ar gyfer eu gwarchod. Mae ‘Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: Asesu Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau, Adroddiad Technegol’ yn cefnogi’r ddogfen hon. Gyda’i gilydd maent yn cael eu hadnabod fel y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl).
Gwasanaethau am ddim gan fyd natur i bobl
Mae’r CGBLl yn nodi’r lles mae byd natur yn ei greu i bobl, a chyfeirir at hyn yn aml fel ‘gwasanaethau ecosystemau’. Er enghraifft, mae’r tir yn rhoi gwasanaeth i ni drwy buro dŵr glaw i bobl ei yfed. Mae byd natur yn gwneud y pethau gwerthfawr hyn am ddim. Pe na bai’n gwneud hynny, byddai’n rhaid i bobl dalu am greu’r gwasanaethau hyn yn artiffisial.
Mae’r ddogfen asesu ac adolygu bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystemau, 2014, yn argymell sut gellir gwella’r gwasanaethau hyn. Yn y cyfamser, mae’r ddogfen dechnegol yn disgrifio’r gwasanaethau ecosystemau ym mhob rhan o’r sir yn fanwl.
Sut i ddefnyddio’r dogfennau
Nod y CGBLl yw gweithio gyda pholisïau allweddol eraill sy’n cefnogi polisi cynllunio lleol. Yn benodol, dylid darllen y CGBLl ochr yn ochr â’r adroddiad ar yr Ardal Cymeriad Tirwedd (ACT) gan Ymgynghorwyr Defnydd Tir (LUC, 2013). Mae’r ACT yn disgrifio gwahanol ardaloedd ein sir a beth sy’n eu gwneud yn unigryw.
Cefndir y dogfennau
Mae’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl) hwn yn ddiweddariad o’r ddwy gyfrol o’r CGBLl a ysgrifennwyd yn 2002. Mae’r ddogfen dechnegol newydd yn nodi sut cafodd gwasanaethau ecosystemau eu gwerthuso a’u mapio.