Gwobrau Ysbrydoliaeth Oes 2020
Mae Gwobrau Ysbrydoliaeth Oes 2020 yn chwilio am drigolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi cyfrannu at wella iechyd a lles pobl eraill neu’r gymuned.
Os ydych chi’n nabod rhywun sy’n haeddu gwobr, mae pump ar gael. Darllenwch y meini prawf ar gyfer pob categori yma:
Bydd y wobr hon yn amlygu cyflawniadau neilltuol sydd wedi cael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n agored i unigolion, grwpiau, partneriaethau, projectau neu fusnesau sydd wedi gwneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedwch wrthon ni:
- pa gyflawniad eithriadol mae eich enwebai wedi’i sicrhau rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Hydref 2019
- sut mae’r cyflawniad hwn wedi gwneud gwahaniaeth yn y gymuned a rhagori ar ddisgwyliadau
- am yr effaith mae hyn wedi’i chael ar iechyd a lles ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- am wybodaeth o ddiddordeb penodol a fydd yn gwneud eich enwebiad yn unigryw
Bydd y wobr hon yn cael ei chyflwyno i enwebai sydd wedi gwneud ymdrech fawr i wella bywydau a chymunedau ym Mhen-y-bont. Bydd enwebeion wedi mynd i'r afael â materion llesiant a nodwyd drwy wrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud gan drigolion lleol.
Mae’r wobr yn agored i unigolion, grwpiau, partneriaethau, projectau a busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dywedwch wrthon ni:
- pa gyflawniad eithriadol mae eich enwebai wedi’i sicrhau rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Hydref 2019
- sut mae’r cyflawniad hwn wedi rhagori ar ddisgwyliadau
- sut mae’r cyflawniad hwn wedi gwella bywydau a chymunedau
- pa wersi sydd wedi’u dysgu yn ystod y 12 mis diwethaf
Mae’r wobr hon ar gyfer gwirfoddolwr ifanc sydd wedi dangos arweiniad ac ymroddiad cryf ac sydd wedi cyfrannu at wella llesiant eraill. Rhaid i enwebeion fod yn 24 mlwydd oed neu iau ac wedi rhoi o’u hamser i wella llesiant trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedwch wrthon ni:
- beth yw'r cyfraniad a wnaed gan eich enwebai er mwyn gwella llesiant
- dyfodol pwy y mae eich enwebai wedi’i helpu i’w wneud yn ddisgleiriach, a sut
- sut mae eich enwebai wedi ysbrydoli eraill a buddion hirdymor ei gyfraniad
Bydd y wobr hon yn llongyfarch unigolyn sydd wedi mynd gam ymhellach, gan amlygu ei hun fel dylanwad pwysig o ran gwella llesiant. Yn 25 mlwydd oed neu hŷn, bydd yr enwebeion wedi ennill parch pobl eraill gyda phŵer eu cyflawniadau.
Dywedwch wrthon ni:
- y cyfraniadau a wnaed gan eich enwebai a'u buddion i bobl a chymunedau
- pwy maen nhw wedi’i ysbrydoli a sut y maent wedi cyflawni hynny
- eu cyflawniadau dros y 12 mis olaf
- yr effaith a gawsant ar iechyd a lles Pen-y-bont ar Ogwr
Caiff y wobr hon ei chyflwyno i enwebai sydd wedi dangos gallu i wneud gwahaniaeth drwy wneud pethau'n wahanol. Mae’r wobr yn agored i unigolion, grwpiau, partneriaethau, projectau a busnesau, a bydd eu dyfeisgarwch a chreadigedd wedi cael effaith amlwg ar wella llesiant.
Dywedwch wrthon ni:
- sut mae eich enwebai wedi llwyddo i dangos dulliau meddwl a gweithredu arloesol
- beth maen nhw wedi'i gyflawni a sut y gall eraill ddysgu ganddyn nhw gyda golwg ar wella llesiant
- pwy sydd wedi elwa o gyfraniad yr enwebai, ac ym mha ffordd
Os ydych yn credu bod eich enwebai chi’n bodloni’r meini prawf, gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais.
Rhaid derbyn enwebiadau erbyn 5pm 15 Ionawr 2020. Anfonwch eich ffurflenni wedi’u llenwi at: