Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr
Maethu plentyn ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr! Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yw ein gwasanaeth maethu lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydym yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 wasanaeth maethu awdurdodau lleol nid-er-elw ledled Cymru.
Yn ymrwymedig i greu dyfodol gwell i blant lleol, mae tîm Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio’n galed i sicrhau bod gan bob plentyn gartref diogel, cariadus a sefydlog i ffynnu ynddo.
Gan ganolbwyntio ar ddiben gofal maeth, yn hytrach nag elw, mae ein tîm yn ymroddedig i helpu bob plentyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd ein hangen ni, a gwnawn ein gorau i ddod o hyd i drefniant sy’n gweddu’n berffaith i’r gofalwr maeth a’r plentyn, er mwyn iddo gael aros yn ei gymuned a’i ysgol ei hun ac yn agos at deulu os yn bosib.
Gyda rhwydwaith cefnogi enfawr, ac ystod o wahanol opsiynau maethu ar gael, ewch i Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr i ddysgu mwy am ddod yn ofalwr maeth.