Gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig
5. Cynllun cymorth
Mae’r cynllun cymorth gwarcheidiaeth arbennig yn rhan bwysig o’r broses asesu. Mae’n:
- pennu pwy sy’n gyfrifol am ofalu am y plentyn neu’r plant
- cynnwys gwybodaeth am sut byddwch yn diwallu eu hanghenion o ran iechyd, addysg, cyswllt, emosiynol ac ymddygiadol
- cynnwys gwybodaeth bwysig am bwy y gallwch gysylltu ag ef os oes gennych unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’ch rôl fel gwarcheidwad arbennig
- cynnwys enwau a manylion cyswllt y bobl berthnasol yn yr awdurdod lleol
Adolygu’r cynllun cymorth
Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau yn y cynllun cymorth gwarcheidiaeth arbennig. Y peth lleiaf posibl mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei wneud yw cysylltu â gwarcheidwaid arbennig o leiaf unwaith y flwyddyn.
Efallai mai dim ond galwad ffôn fydd ei hangen pan:
- mae perthynas sefydlog rhwng y gwarcheidwad a’r plentyn
- nad oes unrhyw bryderon nac anawsterau
- mae’r trefniant gwarcheidiaeth arbennig yn gweithio’n dda
Efallai na fydd angen rhagor o gyngor, arweiniad na chefnogaeth.
Fel arall, gall gweithiwr cymdeithasol o’r Tîm Sefydlogrwydd drefnu i ymweld â chartref y gwarcheidwad arbennig. Gallai hyn fod yn berthnasol mewn sefyllfa lle mae angen pecyn cymorth cymhleth, neu lle mae angen adolygu’r cynllun cymorth yn fwy cadarn.
Yn ystod y gwaith o adolygu’r cynllun cymorth, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried yr un ystyriaethau â’r asesiad gwreiddiol.