Gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig
4. Adroddiad asesu
Bydd eich adroddiad asesu yn cynnwys:
- hanes cyfraniad yr awdurdod lleol, a beth sydd wedi digwydd i chi ystyried dod yn warcheidwad arbennig
- gwybodaeth am y plentyn neu blant gan gynnwys eu haddysg, iechyd, datblygiad, a’u dymuniadau a’u teimladau
- gwybodaeth am eu rhieni ac aelodau uniongyrchol neu estynedig o’r teulu a’u dymuniadau a’u teimladau
- argymhelliad o ran cyswllt
- gwybodaeth amdanoch chi fel darpar warcheidwad arbennig
- eich profiad o gael eich magu
- sut y gwnaethoch chi fagu eich plant eich hun neu eraill, os yw’n berthnasol
- eich gallu i ddiwallu eu hanghenion, cadw plant yn ddiogel a gofalu amdanynt nes byddant yn 18 oed
- gwybodaeth am yr awdurdod lleol a’r asesydd sy’n gyfrifol am gwblhau’r adroddiad
- gwybodaeth feddygol gan eich meddyg teulu a gwybodaeth gan eich ymgynghorydd meddygol os ydych chi’n ofalwr
- maeth
- gwybodaeth gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a fydd yn dangos pa mor addas ydych chi fel darpar
- warcheidwad arbennig
- rhinweddau gwneud gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig
- gwybodaeth gan dri chanolwr personol, dim ond un ohonynt all fod yn aelod o’r teulu
Cyswllt
Gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
E-bost:
Permanence@bridgend.gov.uk
Ffôn:
01656 642674