Amddiffyn plant
Dywedwch am achos brys
Cysylltwch â’r heddlu ar 999
Dywedwch am blentyn sydd mewn perygl
I wneud adroddiad llawn, defnyddiwch ein ffurflen yn Atodiad F y Polisi Diogelu Corfforaethol: Amddiffyn Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Perygl’.
Polisi Diogelu Corfforaethol, a Ffurflen Cais am Gymorth.
Anfonwch ffurflenni am gymorth cynnar at:
Cyswllt
Cymorth cynnar
Anfonwch atgyfeiriadau amddiffyn plant at:
Cyswllt
Amddifyn plant
I siarad â rhywun am les plentyn, defnyddiwch y wybodaeth gyswllt isod:
Cyswllt
Tîm Dyletswydd Brys
Tîm Dyletswydd Brys (tu allan i oriau swyddfa)
NSPCC
Proses diogelu
Mae diogelu yn golygu amddiffyn iechyd, llesiant a hawliau dynol. Mae’n galluogi pobl i fyw yn rhydd rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Mae diogelu plant a’i lles yn cynnwys:
- eu diogelu rhag cael eu cam-drin, neu bethau sydd yn wael i’w hiechyd neu ddatblygiad
- sicrhau eu bod yn tyfu gyda gofal diogel ac effeithiol
Diffiniadau o gam-drin plant
Caiff plentyn ei gam-drin pan fo rhywun yn ei niweidio, neu’n methu ag atal niwed. Gall plant gael eu cam-drin o fewn teulu, sefydliad neu gymuned gan bobl maen nhw’n eu hadnabod neu, yn fwy anarferol, gan ddieithryn. Gall camdriniaeth neu esgeulustod effeithio ar bobl ifanc hyd at 18 oed, y byddai gofyn iddynt gael eu hamddiffyn drwy gynllun amddiffyn plant rhyngasiantaeth.
Gall cam-drin fod yn:
- gorfforol fel taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi, sgaldio, boddi, mogi, neu niwed corfforol arall gan gynnwys peri salwch
- emosiynol fel cam-drin emosiynol parhaus ar blentyn a fyddai’n peri effeithiau niweidiol parhaus ar eu datblygiad
- esgeulustod drwy fethiant parhaus i ateb gofynion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol plentyn, sy’n debygol o amharu ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn
- rhywiol drwy orfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, boed y plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ai peidio
- cam-fanteisio’n rhywiol ar blant lle defnyddir plant yn rhywiol er mwyn arian, grym neu statws
- ariannol, a allai gynnwys gamddefnyddio taliad uniongyrchol plentyn, neu lwfans cynhaliaeth addysg
Darllenwch fwy am gam-drin yn Atodiad B ein Strategaeth Ddiogelu Gorfforaethol.
Bwrdd Diogelu Cwm Taf
Ymgymerir â diogelu plant gan Gwm Taf. Mae’r sefydliad hwn yn bartneriaeth rhwng y canlynol:
- Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Heddlu De Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
- Ymddiriedolaeth y GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
- Interlink Rhondda Cynon Taf
- Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
- Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru
Dogfennau
- Polisi Diogelu Corfforaethol (PDF 1448Kb)
- Diogelu mewn Addysg, Canllawiadau Llywodraeth Cymru (PDF 997Kb)