Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol

Mae Therapi Galwedigaethol yn ffordd ymarferol o gynorthwyo adferiad a goresgyn rhwystrau sy’n atal gweithgareddau neu alwedigaethau. Gall y gweithgareddau hyn gynnwys dyletswyddau hanfodol o ddydd i ddydd fel hunan-ofal, gwaith neu hamdden. Gall y gwasanaeth wneud byd o wahaniaeth drwy roi ymdeimlad newydd o bwrpas i bobl, agor gorwelion newydd a newid eu teimladau am y dyfodol. Mae’n rhoi hwb i annibyniaeth a boddhad ym mhob maes mewn bywyd.

Dull o Weithredu

Bydd ein therapyddion galwedigaethol yn ystyried holl anghenion unigolyn, boed gorfforol, seicolegol, cymdeithasol neu amgylcheddol. Ar ôl asesiad, mae ein gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn benthyca offer i helpu pobl i fyw yn annibynnol gartref neu i helpu gofalwyr. Mae offer ar gael ar gyfer y canlynol:

  • mynd i’r bath
  • gwisgo
  • diogelwch yn y cartref
  • trin maniwal
  • darparu gofal yn y cartref
  • seddau arbenigol
  • mynd i’r toiled

Hefyd gallwn drefnu ar gyfer addasiadau bychain, a rhoi cyngor a chyllido llwybrau ar gyfer addasiadau mwy.

Pobl gymwys

Mae ein therapyddion galwedigaethol yn gweithio gydag oedolion gydag amrywiaeth eang o gyflyrau. Yn fwyaf cyffredin, y rhain yw salwch meddwl, anabledd corfforol neu anabledd dysgu. Mae rhywun yn addas i gael yr offer os yw:

  • ag anabledd sy’n lleihau ei allu i weithredu; ac
  • yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Efallai y bydd pobl gymwys yn gallu cael offer ar ôl i Therapydd Galwedigaethol Cymunedol eu hasesu. Yn gyffredinol, mae offer yn cael ei roi i ddiwallu anghenion hanfodol yn unig, ac efallai y cewch eich cynghori i wneud eich trefniadau eich hun ar gyfer rhai eitemau.

Mae’r gwasanaeth am ddim

Ni chodir ffi am yr eitemau a gyflenwir a hefyd, mae cynnal a chadw offer am ddim. Fodd bynnag, benthyca yr offer a wneir, ac mae’n bwysig dychwelyd offer nad yw’n cael ei ddefnyddio er mwyn gallu ei roi i eraill sydd mewn angen.

Gofyn am asesiad neu fwy o wybodaeth 

Cysylltu

Tîm Adnoddau Cymunedol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642279
Cyfnewid testun: 18001 01656 642279
Cyfeiriad: Y Gyfarwyddiaeth Lles, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Oriau agor:
8:30am i 17:00pm Llun i Iau
8:30am i 16:30pm Gwener

Ffacs: 01656 724457

Neges destun: 07581 157014 (ar gyfer cwsmeriaid byddar neu drwm y clyw)

Amserlenni

Fel rheol, rydym yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn saith diwrnod gwaith i gynnal asesiad y Therapydd Galwedigaethol. Gellir dosbarthu eitemau sydd eu hangen ar frys yn gyflymach. Bydd dosbarthu eitemau nad ydynt mewn stoc yn cymryd mwy o amser a bydd yn dibynnu ar y cyflenwyr.

Cynnal a chadw

Mae’r holl offer naill ai’n gwbl newydd neu’n cael ei adnewyddu yn llwyr wrth ei roi. Mae’n cael ei archwilio’n rheolaidd am gynnal a chadw gan staff cymwys tra mae ar fenthyciad.

Chwilio A i Y