Talu am ofal preswyl
Mae’r swm y bydd yn rhaid ichi ei dalu am ofal preswyl yn ddibynnol ar eich incwm, eich cynilion ac unrhyw asedau eraill sydd gennych.
Llai na £50,000 ar ffurf cynilion neu asedau cyfalaf eraill
Os oes gennych lai na £50,000 ar ffurf cynilion neu asedau cyfalaf eraill (heb gynnwys eich cartref), ac os yw’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno mai symud i gartref preswyl yw’r ffordd orau o ddiwallu eich anghenion gofal, yna bydd modd ichi wneud cais am asesiad ariannol.
Gan ddibynnu ar ganlyniad yr asesiad ariannol hwn, efallai y bydd modd i’r Gwasanaethau Cymdeithasol gyfrannu at ffioedd eich cartref gofal. Mae ein taflen ‘Paying for Residential Care’ yn esbonio rhagor am hyn.
Unigolion sy’n ariannu eu gofal eu hunain
Os oes gennych asedau cyfalaf sy’n werth mwy na £50,000, fel arfer chi fydd yn gyfrifol am dalu ffioedd llawn eich cartref gofal. Gelwir pobl o’r fath yn unigolion sy’n ariannu eu gofal eu hunain.
Os byddwch yn ariannu eich gofal eich hun, efallai y byddwch yn dewis trefnu’r lleoliad eich hun neu efallai y byddwch yn penderfynu eich bod eisiau i’r Awdurdod Lleol drefnu’r lleoliad ar eich rhan.
Gallwn wneud hynny, ond byddwn yn codi £500 y flwyddyn arnoch. Mae ein taflen Contracting for Self Funders yn esbonio mwy am hyn.
Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun
Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, efallai y byddwn yn ystyried ei werth o’r adeg y dechreuwch fod yn breswylydd parhaol yn y cartref gofal.
Bydd hyn yn ddibynnol ar yr amgylchiadau. Er enghraifft, os yw eich partner neu ryw berthynas mewn oed neu anabl iawn yn dal i fyw yn y cartref, efallai y byddwn yn anwybyddu gwerth y cartref, ac ni fyddai disgwyl ichi ei werthu.
Efallai hefyd y bydd hyn yn berthnasol os oes aelodau eraill o’ch teulu yn byw yno, ond byddwn yn gwneud penderfyniad ynghylch hyn fesul achos.
Ar y llaw arall, os bydd y tŷ’n wag ar ôl ichi symud yn barhaol i gartref gofal, ar ôl 12 wythnos bydd gwerth y cartref yn cael ei gynnwys yn yr asesiad ariannol, felly efallai y dymunwch ei werthu a defnyddio’r arian i gyfrannu at dalu’r costau gofal.
Os byddwch yn gofyn i’r Gwasanaethau Cymdeithasol eich helpu i dalu ffioedd eich cartref gofal, ac os byddwn o’r farn mai cartref preswyl yw’r lle gorau i ddiwallu eich anghenion, byddwn yn cynnal asesiad ariannol. Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, efallai y bydd yn rhaid inni ystyried ei werth. Os nad oes gennych incwm na chynilion nac asedau digonol i dalu ffioedd llawn y cartref gofal, efallai y bydd yn rhaid ichi ryddhau’r cyfalaf sydd gennych yn eich cartref er mwyn talu’r ffioedd.
I rai pobl, gall penderfynu beth i’w wneud gyda’u cartref fod yn benderfyniad anodd, a hwythau hefyd yn symud i gartref gofal ar yr un pryd. Mae gennym ddau drefniant ar gyfer cynorthwyo pobl sydd yn y sefyllfa hon – diystyru’r eiddo am 12 wythnos a chytundeb taliad gohiriedig.
Am 12 wythnos ar ôl ichi symud yn barhaol i ofal preswyl, bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn anwybyddu gwerth eich prif gartref wrth gyfrifo faint o arian y bydd yn rhaid ichi ei gyfrannu at gostau eich gofal, cyn belled na fydd eich cyfalaf (heb gynnwys gwerth eich cartref) yn fwy na £50,000.
Yn ystod y 12 wythnos, bydd y cyfraniad y mae’n ofynnol ichi ei wneud yn cael ei asesu ar sail eich incwm yn unig, ac unrhyw asedau eraill sydd gennych. Bydd y gwahaniaeth rhwng eich cyfraniad chi a chostau llawn y gofal yn cael ei dalu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Nid benthyciad na thaliad gohiriedig mo hwn, ac ni fydd disgwyl ichi ad-dalu’r arian yn ddiweddarach. Fodd bynnag, os gwerthwch eich cartref yn ystod y cyfnod 12 wythnos, bydd y trefniant diystyru eiddo yn dod i ben ar y dyddiad y cafodd eich cartref ei werthu.
Ar ôl 12 wythnos, bydd gwerth eich cartref yn cael ei ystyried wrth gyfrifo faint o arian y dylech ei gyfrannu at eich ffioedd, hyd yn oed os na fydd y tŷ wedi’i werthu. Fodd bynnag, sylweddolwn y gall gymryd mwy na 12 wythnos i werthu tŷ a chael tâl amdano gan y prynwr.
Os bydd eich cartref ar werth, ond os na fyddwch wedi’i werthu erbyn yr adeg y daw’r trefniant diystyru eiddo i ben, efallai y bydd modd inni lunio cytundeb gyda chi i dalu’r rhan o’ch cyfraniad sy’n ymwneud â’ch eiddo. Gallwn ei dalu ar eich rhan dros dro, hyd nes y caiff eich eiddo ei werthu.
Ar ôl ichi gael tâl am eich cartref, byddai’n rhaid ichi ad-dalu i’r Gwasanaethau Cymdeithasol y swm ychwanegol a dalwyd tuag at eich costau gofal o ddiwedd y cyfnod 12 wythnos hyd at yr adeg y cafodd gwerthiant eich tŷ ei gwblhau.
Os na fydd gennych unrhyw gynlluniau i werthu eich cartref yn syth, efallai y bydd modd ichi lunio cytundeb taliad gohiriedig gyda’r cyngor. Fe fydd y Tîm Codi Tâl am Ofal Preswyl wedi cysylltu â chi ynglŷn â hyn, ac mae’n bwysig ichi roi gwybod i’r tîm cyn diwedd y cyfnod diystyru eiddo (sef 12 wythnos) eich bod yn dymuno bwrw ymlaen â Threfniant Taliad Gohiriedig. Os na chaiff trefniadau eu gwneud, efallai mai chi fydd yn gyfrifol am dalu eich ffioedd yn llawn.
Mae cytundeb taliad gohiriedig yn golygu y gallwch ohirio talu’r rhan o’ch cyfraniad gofal preswyl sy’n deillio o berchnogaeth eich tŷ – (tan ar ôl eich marwolaeth, o bosibl) – yn gyfnewid am roi pridiant cyfreithiol i’r cyngor dros eich tŷ. Yn ystod y cyfnod gohirio hwn, bydd y cyngor yn gwneud taliad tuag at ffioedd eich cartref gofal. Fodd bynnag, fe fydd yn rhaid ichi barhau i gyfrannu at gostau eich gofal, a bydd hyn yn cael ei asesu trwy ystyried eich incwm ac unrhyw gyfalaf arall sydd gennych (megis cynilion).
Os byddwn yn cytuno i’ch cais, rhaid llunio dogfen gyfreithiol ffurfiol a fydd yn rhoi pridiant cyfreithiol i’r cyngor dros eich eiddo, a bydd y pridiant hwn yn cael blaenoriaeth ar unrhyw fuddiant neu bridiant arall. Golyga hyn na ellir gwerthu na throsglwyddo’r eiddo i rywun arall heb i ni allu adennill y swm a roddwyd ar fenthyg ichi.
Dim ond hyd at swm gwerth cyfalaf yr eiddo y gallwch ohirio costau. Ar ôl cyrraedd y lefel honno, ni ellir parhau i ohirio taliadau.
Ar hyn o bryd, ni fydd unrhyw log yn cael ei godi yn ystod y cyfnod gohirio taliadau. Ond mae hyn wrthi’n cael ei adolygu ac efallai y codir llog yn y dyfodol.
Cewch. Fe gewch roi eich eiddo ar osod a defnyddio’r incwm rhent net i gyfrannu at ffioedd eich cartref gofal. Bydd hyn yn lleihau’r swm y bydd yn rhaid ichi ei ad-dalu ar ddiwedd y cyfnod gohirio.
Ond fe allai’r incwm ychwanegol hwn effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau, a dylech geisio cyngor ariannol cyn ystyried yr opsiwn hwn.
Bob chwe mis, byddwn yn anfon datganiad ysgrifenedig atoch. Bydd y datganiad hwn yn cadarnhau swm y costau gofal a ohiriwyd hyd yn hyn. Hefyd, bydd yn nodi amcangyfrif o’r ecwiti sydd ar ôl yn eich cartref, nas defnyddiwyd eto mewn perthynas â ffioedd eich cartref gofal.
Yn ôl pob tebyg, bydd eich incwm chi a ffioedd y cartref gofal yn newid bob blwyddyn. Fel arfer, mae hyn yn golygu y bydd swm eich benthyciad yn cynyddu. Byddwn yn eich hysbysu’n ysgrifenedig ynglŷn ag unrhyw newidiadau. Rhaid ichi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau yn eich incwm neu eich cyfalaf / cynilion.
Gallwch derfynu’r cytundeb ar unrhyw adeg trwy roi gwybod inni eich bod yn dymuno gwneud hynny. Hefyd, dylech nodi pa ddyddiad y dymunwch i’r cytundeb ddod i ben. Yr adeg honno, byddai’n rhaid ichi dalu’r swm sy’n weddill yn llawn a dylech gysylltu â ni i ofyn am ddatganiad cyfredol yn nodi’r swm dyledus.
Os penderfynwch werthu’r eiddo, dylech roi gwybod i’r cyngor. Yna, byddai’n rhaid ichi dalu’r swm sy’n weddill yn llawn trwy ddefnyddio’r arian a gawsoch am werthu’r eiddo.
Os bydd y cytundeb yn dal i fod ar waith ar adeg eich marwolaeth, byddwn yn anfon anfoneb at eich perthynas agosaf yn cadarnhau’r swm terfynol sy’n ddyledus. Ysgutor eich ystad a fydd yn gyfrifol am drefnu’r taliad.
Ar ôl talu’r swm dyledus yn llawn, byddwn yn ildio ein pridiant ar yr eiddo a byddwn yn cyflwyno nodyn ysgrifenedig yn cadarnhau bod hyn wedi’i wneud.
Yn ystod y cyfnod gohirio taliadau, disgwyliwn ichi yswirio strwythur eich eiddo a sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a’i gadw mewn cyflwr da.
Os bydd yr eiddo’n wag gan eich bod wedi symud i gartref gofal, dylech gysylltu ag adran y Dreth Gyngor i drafod y swm y bydd yn rhaid ichi ei dalu.
Yn achos unrhyw un sy’n bwriadu gweithredu fel cynrychiolydd ar ran unigolyn sy’n dymuno gwneud cais am gytundeb taliad gohiriedig, dylai sicrhau bod ganddo awdurdod cyfreithiol i wneud hynny, megis trefniant a gydnabyddir gan y gyfraith fel Atwrneiaeth Arhosol / Atwrneiaeth Barhaus / Trefniant Dirprwy. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen we Gov.uk: gov.uk/lasting power of attorney (bydd yn agor ffenestr newydd). Hefyd, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor ichi.
Cynghorwn yn gryf eich bod yn ceisio cyngor ariannol / cyfreithiol annibynnol cyn llunio cytundeb taliad gohiriedig.
Efallai y bydd amgylchiadau unigol yn golygu y bydd y cynllun yn llai addas yn ariannol i rai pobl, o bosibl oherwydd y budd-daliadau a gânt neu oherwydd goblygiadau treth. Hefyd, mae’n bwysig ichi ddeall yn llwyr beth yw goblygiadau cyfreithiol y cytundeb a wnewch gyda’r cyngor.
Costau Ychwanegol / Ffioedd Atodol neu daliadau i drydydd parti
Mae rhai cartrefi gofal annibynnol yn codi ffioedd sy’n uwch na’r uchafswm y gall y Gwasanaethau Cymdeithasol ei gyfrannu.
Os bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfrannu at ffioedd eich cartref gofal, ac os dewiswch symud i gartref â ffioedd uwch, bydd yn rhaid i rywun arall (perthynas, fel arfer) dalu’r gwahaniaeth rhwng y ddau swm – sef y Costau Ychwanegol/Ffioedd Atodol i Drydydd Parti – yn syth i’r cartref.
Fel arfer, ni chaniateir i’r unigolyn sy’n byw yn y cartref dalu’r ffioedd atodol, oherwydd bydd yr unigolyn hwnnw wedi cael asesiad ariannol a bydd eisoes yn cyfrannu cymaint ag y gall ei fforddio ar sail rheolau’r llywodraeth ar gyfer talu ffioedd cartrefi gofal.
Yr uchafswm y byddwn yn ei dalu tuag at ofal mewn cartrefi annibynnol
Rydym yn gosod terfyn ar faint o arian y byddwn yn ei gyfrannu at ofal mewn cartrefi annibynnol. Mae’r ffioedd a godir gan gartrefi preswyl annibynnol yn amrywio o gartref i gartref. Bydd modd i’ch Gweithiwr Cymdeithasol roi rhagor o wybodaeth ichi ynglŷn â hyn.
Os byddwch yn dymuno symud i gartref oddi allan i Ben-y-bont ar Ogwr, yn gyntaf bydd angen inni ganfod beth yw’r cyfraniad arferol a wneir gan yr awdurdod lleol yn yr ardal honno ar gyfer y categori gofal dan sylw. Yna, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno i gyfrifo’r taliad y byddwn yn ei wneud.
Gofal iechyd parhaus y GIG
Os oes gennych anghenion gofal iechyd cymhleth a pharhaus, rhaid i’r tîm sy’n gysylltiedig â’ch gofal, yn cynnwys y gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol, ystyried a ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer gofal parhaus y GIG. Os byddwch yn gymwys i gael y gofal hwn, ni fydd unrhyw dâl yn cael ei godi am wasanaethau a fydd yn ymdrin â’ch gofal personol neu eich anghenion iechyd.
Gellir darparu’r gofal hwn mewn unrhyw leoliad – er enghraifft, yn eich cartref, mewn cartref gofal neu mewn ysbyty.