Diogelu oedolion sydd mewn perygl
Mae oedolyn sydd mewn perygl yn oedolyn:
- sy’n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu sydd mewn perygl o hynny
- sydd ag anghenion gofal a chymorth
- nad yw’n gallu amddiffyn ei hun rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu’r perygl o hynny
Diffiniad o gam-drin ac esgeulustod
Gallai cam-drin fod yn gorfforol, yn rhywiol, yn seicolegol, yn emosiynol neu’n ariannol. Mae’n cynnwys cam-drin sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, boed hynny mewn tŷ preifat, mewn sefydliad neu mewn unrhyw le arall. Mae gan bawb yr hawl i fyw eu bywydau heb ddioddef trais, cam-drin a chamfanteisio. Rydym yn gweithio gydag asiantaethau partner i ddiogelu pobl.
Dyletswydd i wneud ymholiadau
Os yw awdurdod lleol yn amau bod rhywun yn ei ardal yn oedolyn mewn perygl, mae’n rhaid iddo wneud ymholiadau. Bydd hyn yn ei helpu i benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau. Os bydd angen cymryd camau, mae’r ymholiadau hyn hefyd yn ei helpu i benderfynu beth sydd angen ei wneud a phwy ddylai ei wneud.
Beth i’w wneud os ydych chi’n amau bod oedolyn mewn perygl
Rhaid i chi roi gwybod i’r awdurdod lleol am oedolyn sydd mewn perygl.
Gallwch gysylltu â Thîm Diogelu Oedolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen yma.
Bydd yn gallu trafod eich pryderon gyda chi a’ch cynghori ynghylch pa gam i’w gymryd.
Bydd rhywun yn gwrando arnoch chi ac yn eich cymryd o ddifrif.