Cynorthwyo gydag Adfer yn y Gymuned (ARC)
Mae Cynorthwyo gydag Adfer yn y Gymuned (ARC) yn parhau i gynnig cyngor a sesiynau gwybodaeth i bobl sy’n cael anhawster gyda’u lles emosiynol.
Mae Cynorthwyo gydag Adfer yn y Gymuned (ARC) yn darparu cyngor ymarferol, cyfarwyddyd a chefnogaeth strwythuredig i unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Er nad yw ARC yn gallu gweld pobl wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, gallwch eu ffonio neu anfon e-bost atynt am gefnogaeth. Bydd aelod o’r tîm yn trafod eich anghenion gyda chi ac yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi.
Hefyd gall ARC ddarparu galwadau dilynol, hunan-gymorth gydag arweiniad a help gyda deall materion fel gorbryder, straen a phanig.
Mae cyfarwyddyd dros y ffôn a chyngor ar e-bost ar gael rhwng 9.00am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener fel opsiwn yn lle’r clinigau galw heibio nad ydynt yn cael eu cynnal yn ARC ar hyn o bryd.