Cwynion am wasanaethau cymdeithasol
Cofiwch y gall y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles gymryd mwy o amser i ymateb i unrhyw ohebiaeth neu gwynion. Y rheswm am hyn yw oherwydd prinder staff ac ymateb y Cyngor i’r coronafeirws. Diolch i chi am eich dealltwriaeth.
Os ydych chi’n anfodlon ar y gwasanaeth rydych chi wedi’i gael neu os hoffech chi wneud cwyn ar ran rhywun arall, cysylltwch â’r gwasanaethau cymdeithasol.
Os oes angen cymorth arnoch i wneud cwyn, neu i gynrychioli rhywun i wneud hynny, cysylltwch â'r tîm cwynion.
Rhowch wybod ym mha iaith yr hoffech chi wneud y gŵyn.
Cyswllt
Os oes arnoch chi angen cymorth i fynegi pryder, gall “Llais – eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol” eich helpu i wneud hyn. Mae Llais yn gorff annibynnol sy’n darparu gwasanaeth Eiriolaeth rhad ac am ddim i gefnogi aelodau o’r cyhoedd sy'n dymuno codi pryder. Mae Llais hefyd yn darparu cyngor a gwybodaeth am y camau gweithredu mwyaf priodol. Gallwch gysylltu â’ch swyddfa Llais leol yn y cyfeiriad canlynol:
Beth sy’n digwydd nesaf?
Os oes modd, rhowch wybod i’r person rydych chi wedi bod mewn cysylltiad ag ef/hi am y gŵyn. Bydd yn ceisio ei datrys yn syth. Os nad oes modd, mae dau gam yn rhan o'r broses gwyno.
Cam un – datrysiad lleol
Byddwn ni’n cydnabod eich cwyn o fewn dau ddiwrnod gwaith ar ôl iddi ddod i law. Bydd y person sy’n ymchwilio i’r gŵyn yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod ar ôl y dyddiad cydnabod. Bydd y person hwnnw’n cynnig cwrdd i drafod y gŵyn, neu ffonio i'w thrafod. Bydd y drafodaeth yn fodd i ni wneud yn siŵr ein bod wedi deall eich cwyn a’r canlyniad sydd gennych chi mewn golwg.
Pan fo’r gŵyn wedi’i datrys, byddwn ni’n ysgrifennu atoch chi o fewn pum diwrnod gwaith.
Cam dau – ymchwiliad ffurfiol
Os na fu modd datrys eich cais drwy gam un, gallwch chi ofyn am ymchwiliad i'ch cwyn gan berson sy'n annibynnol o'r Cyngor.
Os rhoddir eich cais, byddwn ni’n ysgrifennu atoch chi gyda chofnod ysgrifenedig ffurfiol o’ch cwyn o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl dyddiad y cais.
Cyn i’r ymchwiliad allu dechrau, gofynnir i chi gadarnhau'n bod ni wedi deall yn gywir y canlyniad sydd gennych chi mewn golwg. Y dyddiad y cytunir ar gynnwys y gŵyn fydd dyddiad dechrau’r ymchwiliad i’r gŵyn.
Dylai ymateb i’r ymchwiliad i’r gŵyn gael ei anfon atoch chi o fewn 25 diwrnod gwaith ar ôl y ‘dyddiad dechrau’. Os nad yw hynny’n bosibl, byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi i nodi'r rheswm, a byddwn ni'n rhoi gwybod i chi pryd y gallwch chi ddisgwyl ymateb. Bydd y dyddiad hwn cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad ymateb 25 diwrnod, ac o fewn chwe mis ar ôl y dyddiad y daeth eich cwyn i law.
Bydd yr ymateb:
- Yn crynhoi'ch cwyn
- yn dweud wrthych ynghylch yr ymchwiliad
- yn nodi bod y gŵyn wedi’i chadarnhau, wedi'i chadarnhau’n rhannol, neu nad yw wedi’i chadarnhau
- yn esbonio’r camau a roddir ar waith, os bydd unrhyw gamau
- yn ymddiheuro os yw'n briodol gwneud hynny
- yn cynnwys copi o Adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol - os oes rheswm na allwn ni gynnwys hwn, caiff honno ei nodi
- yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd i drafod yr ymateb ac Adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol
- yn nodi sut mae cwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru os nad ydych chi’n fodlon ar ganlyniad eich cwyn
Manylion cyswllt defnyddiol
Cyswllt
Arolygiaeth Gofal Cymru
Mae gan CIW ddiddordeb mewn derbyn adborth ar wasanaethau ond ni allant ymchwilio i gwynio.