Dod yn noddwr!
Mae Cartrefi i Wcráin yn gynllun i helpu pobl o Wcráin sydd heb aelodau o’u teulu yn y DU. Mae’n caniatáu i bobl yn y DU noddi rhywun sy’n ffoi o Wcráin i ddod i fyw yn y DU.
Gallwch gofnodi eich diddordeb mewn cynnig cartref fel rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin os ydych:
- yn gallu cynnig llety am o leiaf 6 mis.
- yn ddinesydd Prydeinig neu’n cael aros yn y DU am o leiaf 6 mis
- Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy neu/a dod yn noddwr ffoniwch 08081751058 neu gofrestru eich diddordeb isod.
Gallwch hefyd gofrestru eich diddordeb gyda gwasanaeth ailosod Cartrefi i Wcráin. Mae hwn yn sefydliad noddi cymunedol sy'n helpu i baru teuluoedd yn y DU gydag Wcraniaid cyn iddynt wneud cais i Cartrefi i Wcráin. Maent hefyd yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth.
Gallwch ddarllen mwy am fod yn noddwr, gan gynnwys y cyfrifoldebau, archwiliadau, a sut gallwch gefnogi eich gwesteion.