Asesiad a Chynllun Gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Crynodeb o’r asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Dyletswydd Digonoldeb Cyfleoedd Chwarae. Mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol i awdurdodau lleol ac yn cydnabod pwysigrwydd chwarae yn natblygiad plant a phobl ifanc. O ganlyniad, mae’n rhaid i ni gynnal asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn seiliedig ar ansawdd a nifer yr opsiynau chwarae sydd i’w cael yn lleol. Mae ein canlyniadau yn llywio cynlluniau gweithredu blynyddol a dulliau o gydweithio i sicrhau dyfodol chwarae.
Mae’r materion lleol yn cynnwys:
- mannau a lleoedd hygyrch i chwarae
- opsiynau chwarae anffurfiol
- gweithgareddau chwarae a hamdden strwythuredig
Hefyd, rydym yn cydnabod anghenion amrywiol y canlynol:
- cymunedau gwledig
- plant anabl a phobl ifanc anabl
- pobl mewn cymunedau difreintiedig
Meysydd targed y cynllun gweithredu
- Sicrhau cyfleoedd chwarae gwell mewn ysgolion cynradd
- Gwella cyfleusterau chwarae mewn safleoedd strategol gydag offer cynhwysol pan fo'n briodol
- Llunio ystod eang o opsiynau yn ystod gwyliau ysgol gan gynnwys gweithgareddau cost isel neu ddi-dâl
- Datblygu dealltwriaeth y gymuned o ran digonolrwydd cyfleoedd chwarae a gwerth chwarae