Meinciau a phlaciau coffa
Os ydych chi wedi colli anwylyd, efallai y dymunwch gael cofeb megis mainc neu goeden. Gall cofebion ddarparu canolbwynt ar gyfer atgofion personol a chynnig lle i ymweld ag ef a chofio am adegau hapus.
Hefyd, ceir dewisiadau ar gyfer cofebion yn Amlosgfa Llangrallo.
Plac mainc goffa
Gellir lleoli meinciau ym Mharc Gwledig Bryngarw, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, mynwentydd, parciau neu ardaloedd cadwraeth. Bydd y fainc a ddefnyddir yn benodol i’r lleoliad arbennig hwnnw.
Gallwch ddewis o amrywiaeth fach o ddyluniadau placiau. Byddwch yn ymwybodol efallai y byddwn yn newid neu’n gwrthod arysgrif anaddas.
Darperir cymysgedd o feinciau sydd â lle ar gyfer un plac pwrpasol neu hyd at dri phlac unigol. Cyfyngir bob cais i un plac.
Gan fod angen i ni gydbwyso anghenion yr holl ymwelwyr, mae angen i ni ddewis yn ofalus lle y caiff bob mainc ei lleoli. Yn anffodus, ni allwn osod meinciau newydd ym mhob ardal nac mewn ardaloedd lle y mae llawer o feinciau eisoes yn bodoli.
Os bydd angen i adleoli mainc am unrhyw reswm, byddwn yn rhoi gwybod i chi i le y mae wedi’i symud.
Gosodir y placiau meinciau am gyfnod o 10 mlynedd. Ar ôl 10 mlynedd, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi a fydd angen tynnu’r plac, neu gynnig estyniad. Gall estyniad gynnwys tâl, fel y gallwn ni barhau i ofalu am y fainc ac adnewyddu’r plac os bydd angen.
Byddwch yn gallu casglu’r plac os caiff ei dynnu. Os nad ydym yn clywed gennych, caiff y plac ei dynnu a’i gadw am 12 mis. Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch cyfeiriad fel bod modd i ni gysylltu â chi.
Ar ôl gosod y plac ar y fainc, fe ddaw’n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a byddwn yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw waith cynnal a chadw. Peidiwch â gwneud unrhyw waith cynnal a chadw eich hunain, na gofyn i unrhyw un arall wneud hynny.
Peidiwch â gwasgaru llwch, gosod blodau na gwneud unrhyw fynegiannau coffa eraill ar y meinciau coffa neu wrth eu hymyl, oherwydd gall hyn atal pobl rhag eu defnyddio a gwneud i’r ardal edrych yn flêr.
Coeden goffa
Mae cynllun pwrpasol ar gyfer plannu coed coffa ar waith ym Mharc Gwledig Bryngarw ac yn rhai o’n mynwentydd.
Er mwyn sicrhau bod yr ardal yn edrych yn ddeniadol, byddwn yn penderfynu ar rywogaeth y goeden a’i lleoliad yn y parc neu fynwent. Peidiwch â gosod blodau na gwneud unrhyw fynegiannau coffa eraill ar y goeden goffa neu wrth ei hymyl.
Efallai y bydd angen i’r cyngor osod amddiffyniad o amgylch y goeden i’w hamddiffyn rhag difrod, fodd bynnag ni ellir ein dal yn gyfrifol am unrhyw fandaliaeth.
Er y gosodir plac wrth ymyl y goeden mewn rhai mynwentydd, gall hyn fod yn wahanol mewn ardaloedd eraill. Er enghraifft, ym Mharc Gwledig Bryngarw gwneir cofnod yn ‘Llyfr Coed Coffaol Parc Gwledig Bryngarw’ a gedwir gan Dŷ Bryngarw.
Prisiau
- Plac coffa ar un fainc: £2178.95+TAW
- Plac coffa ar fainc a rennir: £726.30 +TAW
- Coeden goffa: £435.80 +TAW
Cais
Byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cais. Os caiff ei dderbyn, bydd angen i chi ddarparu arysgrif plac addas. Ni fydd modd i ni broses eich cais nes telir y tâl llawn. Gall cyflenwi a gosod gymryd hyd at 12 wythnos ar ôl i ni dderbyn eich cais.
Gall fod adegau pan fo’r cynllun wedi’i danysgrifio’n llawn ac efallai na fydd ar gael dros dro. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.
Ni chewch unrhyw hawliau na breintiau eiddo os byddwn yn derbyn eich cais.