Cwynion
Gall unrhyw broblemau a brofir yn ystod profedigaeth gael effaith drawmatig. Gwyddom ba mor bwysig yw hi i gael gwybod beth aeth o’i le, ac i’w gywiro.
Gallwch gwyno mewn person, drwy lythyr neu dros y ffôn yn uniongyrchol â’r Adran Gwasanaethau Profedigaeth.
Staff yr amlosgfa ddylai ddelio â’r mater, ond os nad yw hyn yn bosibl, caiff y weithdrefn gwyno a fabwysiedir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei gweithredu gan Amlosgfa Llangrallo a nodir y manylion isod.
Mae’r broses gwyno’n cynnwys tri cham:
- cam cwyn anffurfiol
- cam cwyn ffurfiol
- cam adolygu
Cam cwyn anffurfiol
Delio â chwynion cyn gynted â phosibl yw’r peth gorau i bawb. Cysylltwch â’r swyddog neu’r unigolyn yr ydych yn delio â nhw fel arfer, a byddant yn ceisio datrys y broblem yn gyflym heb fod angen cwyn ffurfiol.
Cam cwyn ffurfiol
Os na chaiff eich cwyn ei datrys yn ystod y cam anffurfiol, gallwch wneud cwyn ffurfiol. Gallwch wneud hyn naill ai drwy e-bost, llythyr, neu drwy ddefnyddio ffurflen gwyno gorfforaethol. Rhowch wybod i ni beth sydd wedi mynd o’i le a beth ddylid ei wneud i’w gywiro yn eich barn chi.
Yr Ombwdsmon
Mae gennych chi’r hawl i gyfeirio eich cwyn at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sy’n mynd i’r afael â chwynion gwasanaethau cyhoeddus sy’n gweithredu mewn ffordd aneffeithiol neu anonest, er enghraifft annhegwch neu oedi.