Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cofrestru adeilad ar gyfer addoli a gweinyddu priodasau

Gwybodaeth am sut i gofrestru adeilad ar gyfer addoli a gweinyddu priodasau.

Cofrestru man addoli

Bydd angen i’r unigolyn sy’n gweithredu fel ‘gweinidog’, ‘perchennog’ neu ‘ymddiriedolwr’ yn y man addoli drefnu apwyntiad â’r Cofrestrydd Arolygol a chyflwyno’r canlynol

  • dau gopi o Ardystio man cyfarfod ar gyfer addoli crefyddol: ffurflen 76 wedi’u cwblhau (dylai’r rhain fod yn union yr un fath ac yn rhai gwreiddiol)
  • braslun o’r cynllun llawr sy’n nodi pa ystafelloedd fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer addoli
  • amserlen wythnosol gyfartalog o sut fydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio er mwyn bodloni’r Cofrestrydd Cyffredinol bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer addoli crefyddol
  • arian i dalu’r ffi statudol o £28.

Noder: Mae hyn yn eithrio eglwysi a chapeli yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys yn Lloegr, oni bai ei fod yn rhannu adeilad eglwysig ag enwad crefyddol arall.

Cofrestru man addoli ar gyfer priodasau

Os hoffech i’ch man addoli ddod yn adeilad ar gyfer cynnal priodasau:

  • mae angen cwblhau a dychwelyd dau gopi o Cofrestru Addoldy Crefyddol ar gyfer Gweinyddu Priodasau: ffurflen 78 i’r cyfeiriad uchod
  • rhaid i bob ffurflen 78 gael ei llofnodi gan 20 o ddeiliaid tai ar wahân sy’n ystyried yr adeilad fel eu man addoli arferol
  • rhaid i’r ffurflenni gael eu cydlofnodi gan ymddiriedolwr neu berchennog yr adeilad.
  • Arian i dalu’r ffi statudol o £120

Os ydych am i’r adeilad gael ei ardystio fel man addoli a’i gofrestru ar gyfer gweinyddu priodasau ar yr un pryd, gellir cyflwyno’r ffurflenni 76 a 78 gyda’i gilydd, ynghyd â’r ffioedd perthnasol ac unrhyw wybodaeth arall y gofynnwyd amdani

Noder: rhaid i’r ffurflenni cofrestru’r adeilad ar gyfer addoli gael eu dyddio cyn y rhai ar gyfer priodasau

Ar ôl derbyn y wybodaeth, byddwn yn ei hanfon i’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO) i’w hawdurdodi. Pan fydd y GRO yn ardystio adeilad ar gyfer addoli, caiff ei gofnodi ar y rhestr o fannau cyfarfod ar gyfer addoli crefyddol a gedwir yn y Gofrestr Gyffredinol a bydd un o’r ffurflenni 76 yn cael ei hanfon yn ôl atoch chi.

Pan fydd y GRO yn cofrestru adeilad i gynnal priodasau, bydd gofyn i Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr anfon tystysgrif o’r cofrestriad at y perchennog neu ymddiriedolwr a gydlofnododd dystysgrifau’r deiliaid tai. Rhaid rhoi hysbysiad cyhoeddus o’r cofrestriad mewn papur newydd lleol ac yn y London Gazette.

Os nad yw man addoli bellach yn cael ei ddefnyddio

Os yw’r ymgynulliad yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’r adeilad, mae rhwymedigaeth gyfreithiol i hysbysu’r Cofrestrydd Cyffredinol.

Bydd angen i chi gwblhau Hysbysiad Man Cyfarfod Ardystiedig Gwag: ffurflen 77. Gall unrhyw berson sy’n cynrychioli’r gynulleidfa ei llofnodi.

Os caiff yr adeilad ei ddymchwel a’i ail-adeiladu ar yr un sylfaeni o fewn blwyddyn a’i ddefnyddio gan yr un gynulleidfa, ni effeithir ar yr ardystiad na’r cofrestriad.

Chwilio A i Y