Trwydded barcio ymwelydd ar wyliau
Gall trigolion sydd ag ymwelwyr sydd fel arfer yn byw y tu allan i ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac a fydd yn aros yn eu heiddo am o leiaf 3 diwrnod ddefnyddio un o’r trwyddedau parcio hyn i barcio mewn man parcio preswylwyr tra byddant yma.
Sylwch, bydd y trwyddedau hyn yn ddilys am gyfnod o bythefnos, a gallwn roi uchafswm o 2 drwydded y flwyddyn, fesul eiddo. Dim ond ar gyfer y parth parcio y mae'r preswylydd yn byw arno y bydd y drwydded yn ddilys ac nid yw'n ddilys ar gyfer unrhyw leoliadau eraill neu gyfyngiadau parcio.
Gwnewch gais am drwydded barcio ymwelydd ar wyliau
Nid oes tâl am ardaloedd trwydded presennol, fodd bynnag, codir £20 am bob trwydded ar gyfer cynlluniau trwyddedau newydd.
Rhaid i'r cais am drwydded gael ei lenwi gan y preswylydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n gwneud cais ar ran y sawl sy'n ymweld ag ef a fydd yn defnyddio'r drwydded.
Os caiff trwydded bapur ei cholli neu ei dinistrio, codir tâl o £20 am un arall.
Pryd fyddwch chi’n derbyn eich trwydded?
Wedi i chi gyfwyno’ch cais, os yw eich cais am drwydded yn dderbyniol byddwch yn cael e-bost yn cadarnhau gyda’r dyddiadau dilys.
Noder: Ni fydd angen i chi argraffu neu arddangos trwydded wyliau ar eich cerbyd.
Os nad ydych chi wedi rhoi'r holl dystiolaeth angenrheidiol, bydd eich cais am drwydded yn cael ei wrthod.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gais am drwydded barcio, cysylltwch â: