Polisi a strategaeth trafnidiaeth
Ym mis Mai 2015, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru’n Cynllun Trafnidiaeth Lleol (CTLl). Mae’r CTLl ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mae’n amlinellu’n blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth dros 15 mlynedd. Prif ffocws y Cynllun Trafnidiaeth Lleol yw mynd i’r afael â phroblemau cysylltiedig â thrafnidiaeth leol a sut y gall alluogi twf economaidd a newid ymddygiad teithio.
Mae’r CTLl yn disodli’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ac mae wedi’i ysgrifennu yng nghyd-destun diweddariad Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol drafft 2017 Llywodraeth Cymru. Mae ein cynlluniau CTLl yn cynnwys y sawl rydym wedi’u nodi hyd yn hyn. Serch hynny, byddwn ni’n ystyried ar gyfer fersiynau yn y dyfodol unrhyw gynlluniau eraill a nodir sy’n cyd-fynd â gweledigaeth y CTLl.
Oherwydd materion perthnasol y mae angen cynllunio ar eu cyfer ar y cyd, mae ein CTLl wedi gwneud cysylltiadau gyda chynigion ac amserlenni ar gyfer yr awdurdodau lleol cyfagos lle y bo modd. Mae Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg wedi gadael Cynghrair Trafnidiaeth darfodedig De-ddwyrain Cymru ac maen nhw wedi ymuno â ni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ddylanwad economaidd a dylanwad yng nghyswllt trafnidiaeth sylweddol ar Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dogfennau ategol
Mapiau'r cynllun CTLI:
- Map A1, gogledd-orllewin Pen-y-bont ar Ogwr
- Map A2, gogledd-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr
- Map A3, de-orllewin Pen-y-bont ar Ogwr
- Map A4, de-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr
Prosesau blaenoriaethu cynllun:
Adroddiad ymgynghori ar y CTLl
Yr Asesiad o Effaith CTLl Pen-y-bont ar Ogwr ar Iechyd
Dogfennau strategaeth flaenorol
Rhagor am y Cynllun Datblygu Lleol, y ddogfen gynllunio allweddol sy’n dylanwadu ar drafnidiaeth leol.
Cyswllt
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffacs: 01656 642580