Llwybrau Teithio Llesol
Cerdded neu feicio teithiau byr bob dydd yw Teithio Llesol Mae’n cynnwys teithio i’r ysgol, gwaith, gwasanaethau a hybiau trafnidiaeth. Hefyd, gall gynnwys defnyddio cadeiriau olwyn trydanol neu sgwteri symudedd. Ond nid yw’n cynnwys teithiau hamdden yn unig, na rhai at ddibenion cymdeithasol.
Dewch o hyd i lwybrau defnyddiol yn eich cymuned
Mae’r llwybrau canlynol yn wych ar gyfer Teithio Llesol. Maent ar y 'Mapiau Llwybr Presennol', sy’n dangos manylion y llwybrau Teithio Llesol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. Nid yw’r mapiau hyn yn dangos pob llwybr cerdded neu feicio mewn ardal, dim ond y rhai rydym wedi eu pennu fel rhai addas ar gyfer Teithio Llesol.
Map Trosolwg
Edrychwch ar y Map Trosolwg i weld yr holl ardaloedd a’r llwybrau sydd yn y Mapiau Llwybrau Presennol ar gyfer yr anheddau.
Cynigion Llwybrau’r Dyfodol
Mae gennym hefyd gynlluniau manwl ar gyfer rhwydwaith o lwybrau a chyfleusterau Teithio Llesol dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’r rhain ar ein Mapiau Rhwydwaith Integredig.
Nodau’r cynigion yw:
- gwella mynediad at wasanaethau allweddol yn cynnwys canol trefi, hybiau trafnidiaeth yn ogystal â chyflogaeth ac ardaloedd manwerthu
- datblygu mynediad at gyfleusterau addysg megis ysgolion a cholegau
- gwella ac ehangu’r rhwydwaith strategol presennol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Gweld ein Mapiau Rhwydwaith Integredig.
Mae gweithredu cynigion y Mapiau Rhwydwaith Integredig yn dibynnu ar gyllido. Hefyd, mynegol yw cynigion y Mapiau Rhwydwaith Integredig ac mae’n bosibl y newidiant wrth i’r cynlluniau ddatblygu.
Ein cyfrifoldebau cyfreithiol
Ym mis Medi 2014, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Llesol (Cymru). Mae’r mesur hwn yn rhoi gofyn cyfreithiol ar awdurdodau lleol Cymru i fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer Teithio Llesol mewn rhai ardaloedd, fel y noda Llywodraeth Cymru.
Gweld rhagor am y Ddeddf Teithio Llesol ar wefan Llywodraeth Cymru. Hefyd, ewch i wefan Llywodraeth Cymru am fanylion ynghylch yr ardaloedd dynodedig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-Bont.
Proses creu’r mapiau
Roedd cam cyntaf y Ddeddf yn gofyn i ni gynhyrchu Mapiau Llwybrau Presennol. Wedi ymgynghoriad cyhoeddus 16 wythnos, bu i ni gyflwyno ein mapiau drafft Llwybrau Presennol ym mis Ionawr 2016 a chadarnhaodd Llywodraeth Cymru nhw ar 12 Awst 2016.
Mae llwybrau’r mapiau wedi eu hasesu yn ôl safonau Llywodraeth Cymru. Er bod rhan fwyaf y llwybrau’n bodloni’r canllaw ac yn addas ar gyfer Teithio Llesol, methodd rhai â tharo deuddeg o fymryn. Fodd bynnag, rydym yn dal i ystyried bod y canlynol yn bwysig ar gyfer Teithio Llesol. Darllenwch ein Datganiad Map Llwybrau Presennol am eglurhad o pam y mae’r llwybrau hyn yn briodol.
Ar gyfer ail gam y Ddeddf, bu i ni gynhyrchu Mapiau Rhwydwaith Integredig. Wedi ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos, bu i ni gyflwyno ein Mapiau drafft ym mis Tachwedd 2017 a chymeradwyodd Llywodraeth Cymru nhw ar 27 Chwefror 2018.
I weld y Mapiau Llwybrau Presennol mewn ffurfiau gwahanol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod:
Cyswllt
Tîm Polisi a Datblygu
Adroddiadau Blynyddol
Mae’n rhaid i ni gynhyrchu adroddiadau blynyddol yn nodi:
- camau gweithredu o’r flwyddyn ariannol gynt i hyrwyddo Teithio Llesol
- costau llwybrau a chyfleusterau Teithio Llesol newydd neu well
- lefelau defnyddio llwybrau Teithio Actif