Gweithredu ynghylch Rheolau Parcio
- arosfannau bws a chlirffyrdd
- ardaloedd parcio dan reolaeth
- meysydd parcio’r cyngor
- baeau parcio anabl
- baeau talu ac arddangos
- croesfannau i gerddwyr a marciau igam ogam, y mae’r heddlu’n gyfrifol amdanynt hefyd
- baeau parcio trigolion lleol
- marciau igam ogam melyn ysgolion
- cyrbiau wedi’u gostwng
- safleoedd tacsis
- llinellau melyn
- cyrbiau wedi’u gostwng neu wrthlifau cerbydau, gan gynnwys materion rhwystro
- troseddau traffig yn symud
- rhwystro ar briffyrdd
- parcio ar y palmant
Dirwyon
Cyfradd uchel | £70 |
Cyfradd isel | £50 |
Apelio yn erbyn PCN
Os ydych yn anghytuno gyda Hysbysiad Tâl Cosb (PCN), mae gwybodaeth ynghylch sut i apelio ar wefan Prosesu Cosbau Cymru:
Mae opsiynau ar gael i chi hyd yn oed os yw eich achos dirwy barcio wedi cael ei drosglwyddo i feili (Asiantau Gorfodi)
Os yw eich achos wedi cael ei drosglwyddo i feili, mae'n rhy hwyr i apelio ynghylch amgylchiadau'r tocyn.
Gallwch:
- dalu'r swm llawn i'r swyddog gorfodi (beili).
- gofyn i gael cynllun talu gyda'r beili (os byddwch yn methu taliad ar y cynllun talu, mae'n bosib y bydd angen ichi dalu costau ychwanegol).
- cysylltu â'r Ganolfan Gorfodaeth Traffig (TEC) ar 03001231059 a gofyn i gael rhoi datganiad tyst i geisio cael mwy o amser - yr unig adeg y cewch roi datganiad fel hyn yw pan nad yw'r drefn gywir wedi cael ei dilyn.
Cysylltu â'r Ganolfan Gorfodaeth Traffig (TEC)
Os ydych am ddewis opsiwn 3 a chysylltu â'r TEC, bydd ffurflen TE7 / TE9 yn cael ei hanfon atoch. Dim ond ar ôl ichi ddychwelyd y ffurflen hon at y TEC a rhoi gwybod am hyn i'r cyngor, bydd yr achos yn cael ei ohirio gyda'r asiant gorfodi nes bod y mater wedi'i ystyried.
Ar y ffurflen TE7 / TE9, mae'n rhaid ichi roi tic yn ymyl un o bedwar opsiwn i ddangos nad yw'r drefn wedi cael ei dilyn yn gywir. Os ydych yn cyflwyno ffurflen TE7 / TE9 i'r TEC, darparwch gymaint o wybodaeth a thystiolaeth â phosib ynghylch eich amgylchiadau, fel y gallant ystyried eich rhesymau.
Canlyniadau posibl
Mae dau ganlyniad posib pan fyddwch yn cyflwyno ffurflen TE7 / TE9. Bydd y TEC naill ai'n trosglwyddo'r achos yn ôl i'r beili i barhau i adennill yr arian sy'n ddyledus am y ddirwy barcio, neu'n trosglwyddo'r achos i'r cyngor, a bydd y cyngor yn delio'n uniongyrchol â chi.
Os nad ydych yn hapus ynglŷn â phenderfyniad y TEC ynghylch eich TE7 / TE9, mae gennych 14 diwrnod o'r dyddiad ar y llythyr gan y TEC atoch chi i ofyn i gael adolygiad o'ch achos gan farnwr rhanbarth. Codir tâl am adolygu achos.
Os na fyddwch yn gwneud dim ynghylch y mater, bydd costau ychwanegol yn ddyledus ac mae'n bosib y bydd eich cerbyd yn cael ei glampio a'i gludo i gompownd ceir neu nwyddau o'r un gwerth â'r ddyled yn cael eu casglu o'ch eiddo.
- parcio’n ddiogel
- parcio yn y gofod a ganiateir sydd wedi’i ddarparu
- edrych ar yr arwyddion am gyfyngiadau amser, oherwydd gall y rhain amrywio, gan gofio y gall arwyddion fod ymhellach i ffwrdd os yw’r ardal mewn parth parcio dan reolaeth
- gadael o fewn y cyfyngiad amser
- defnyddio ac arddangos eich bathodyn person anabl fel y nodir yn y llyfr bathodynnau glas
- llwytho a dadlwytho cyn gynted â phosib
- edrych ar y marciau ffordd cyn parcio
- darllen rheolau’r ffordd fawr i’ch atgoffa am ystyron marciau
- bod yn ymwybodol bod cyfyngiadau aros yn berthnasol i’r briffordd gyfan, gan gynnwys ymylon ffyrdd a phalmentydd
- arddangos pob tocyn talu ac arddangos yn gywir
Peidiwch â gwneud y canlynol:
- parcio ar linellau melyn dwbl a dim ond parcio ar linellau melyn sengl ar amseroedd a ganiateir
- parcio mewn caeau anabl heb ddangos bathodyn glas anabl dilys
- parcio mewn baeau i drigolion lleol heb arddangos trwydded ddilys ar gyfer y lleoliad hwnnw
- achosi rhwystr
- parcio neu stopio mewn arosfannau bws neu ar glirffyrdd, dim hyd yn oed i godi neu ollwng teithwyr
- parcio neu stopio ar linellau igam ogam sy’n arwain i neu o groesfannau i gerddwyr
- parcio neu aros mewn safleoedd tacsis
- parcio neu aros lle mae cyfyngiadau llwytho yn eu lle
- parcio neu stopio ar farciau igam ogam ysgol, dim hyd yn oed i godi neu ollwng rhywun yn sydyn
Mewn mannau eraill ar y we
Car Camera ‘Roly Patroly’
- arosfannau bws
- croesfannau i gerddwyr
- safleoedd tacsis
- lle mae cyfyngiadau llwytho/dadlwytho mewn grym