Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ceisiadau am fathodyn glas, adnewyddu, a chael bathodyn cyfnewid

Bydd angen i chi, neu rywun sydd ag atwrneiaeth drosoch, gytuno i’r datganiad.

Tystiolaeth

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:

  • llun diweddar safon pasbort
  • prawf o’ch cyfeiriad
  • prawf o’ch budd-daliadau, os ydych chi’n cael rhai
  • prawf o bwy ydych chi
  • tystiolaeth ategol yn profi eich bod yn gymwys
  • manylion unrhyw Fathodyn Glas cyfredol
  • eich rhif Yswiriant Gwladol, os yn bosib

Hefyd, bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth sy’n nodi manylion eich amgylchiadau. Gellir cyflwyno’r dystiolaeth ar-lein wrth gwblhau eich cais, neu gallwch ei hanfon drwy e-bost. Neu, gall perthynas i chi ddod â hi i’r swyddfa.

Bydd eich proses adnewyddu’n cael ei hystyried fel un awtomatig, yn ôl disgresiwn, neu wybyddol. Bydd ymgeiswyr dros dro sydd angen ailymgeisio’n cael cais yn ôl disgresiwn.

Cyflwynwch yr isod.

  1. Llythyr budd-dal cyfredol, cymwys, gyda dyddiad yn ystod y 12 mis diwethaf. Gall hwn fod yn llythyr hawl i Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) llawn gyda’r adran pwyntiau, neu’n llythyr elfen symudedd cyfran uwch y Lwfans Byw i’r Anabl.
  2. Tystiolaeth o gyfeiriad
  3. Tystiolaeth prawf adnabod.

Cyflwynwch yr isod.

  1. Tystiolaeth o gyfeiriad.
  2. Tystiolaeth prawf adnabod.
  3. Unrhyw dystiolaeth sy’n cefnogi’r cais fel prawf o wasanaethau ategol, neu lythyr meddyg ymgynghorol.

Tystiolaeth sydd ei hangen i adnewyddu’n wybyddol:

  1. Prawf o’r nam gwybyddol a chyfradd uwch elfen gofal y lwfans byw i’r anabl, wedi’i ddyddio yn ystod y 12 mis diwethaf.
  2. Tystiolaeth o gyfeiriad.
  3. Tystiolaeth prawf adnabod.
  4. Unrhyw dystiolaeth sy’n ategu’r cais megis cynllun gofal.
  1. Llythyr ategol gan eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol fel meddyg ymgynghorol neu arbenigwr, yn nodi manylion eich cyflwr presennol ac am ba mor hir mae’n debygol o bara.
  2. Prawf o’ch cyfeiriad.
  3. Prawf o bwy ydych chi.

Ni fydd pob cais i adnewyddu’n llwyddiannus. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am eich amgylchiadau unigol, cysylltwch â ni.

Cael bathodyn newydd yn lle un sydd ar goll neu wedi’i ladrata

Os yw eich bathodyn ar goll neu wedi’i ladrata, dylech e-bostio, ffonio neu fynd i’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid i gyflwyno cais arall. Os yw eich bathodyn wedi’i ladrata, bydd angen i chi ddweud wrthym y cyfeirnod trosedd a gawsoch gan yr heddlu pan roesoch wybod iddynt am y lladrad. Os caiff ei roi, efallai y bydd rhaid i chi dalu £10 am un newydd.

Efallai y bydd angen i chi ddarparu dogfennau eraill hefyd os yw manylion eich anabledd wedi newid.

Pryd i adnewyddu

Dyddiad dod i ben y bathodyn wedi’i nodi’n glir ar ei flaen. Gall ymgeiswyr adnewyddu hyd at chwe wythnos cyn y diwedd.

Dychwelyd bathodynnau sydd wedi dod i ben

Rhaid i chi ddychwelyd eich bathodyn sydd wedi dod i ben. Gall methu gwneud hynny arwain at dynnu eich bathodyn yn ôl.
Dylech ddychwelyd bathodynnau i’r cyfeiriad canlynol:

Cyswllt:

Cynllun Bathodynnau Parcio Anabl

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont at Ogwr
Ffôn: 01656 643643
Cyfnewid testun: Rhowch 18002 cyn unrhyw un o’n rhifau ffôn.
Cyfeiriad: Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Oriau agor:
Dydd Llun i ddydd Iau: 8:30am tan 5pm
Dydd Gwener 8:30am i 4:30pm

SMS: 07581 157014 (i gwsmeriaid byddar a thrwm eu clyw).

Croesewir galwadau yn Gymraeg.

Gallwch hefyd wylio’r fideo hwn i ddysgu mwy am SignVideo BSL Live.

Ceisiadau a wrthodir

Nid oes proses apelio statudol ar gyfer ceisiadau a wrthodir. Yn gyffredinol, rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, ond ni all ymyrryd mewn achosion unigol.

I herio penderfyniad ynghylch eich cymhwysedd, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth newydd. Ni ddylai fod wedi’i chynnwys gyda’ch cais gwreiddiol, a dylech ei hanfon atom o fewn un mis calendr i’ch cais. Byddwn yn adolygu’r penderfyniad yng ngoleuni’r wybodaeth newydd rydych chi’n ei darparu. Er hynny, ni fyddwn yn adolygu’r penderfyniad ynghylch eich cymhwysedd os na fyddwch chi’n cyflwyno gwybodaeth neu dystiolaeth newydd.

Chwilio A i Y