Ceisiadau am fathodyn glas, adnewyddu, a chael bathodyn cyfnewid
3. Bathodynnau Glas ar gyfer sefydliadau
Gellir rhoi Bathodyn Glas i sefydliadau sy’n gyfrifol am ofalu a chludo pobl anabl. Gellir ei roi pan fydd cerbyd sefydliad yn cael ei ddefnyddio i gludo pobl anabl a fyddai fel arfer yn gymwys i gael bathodyn.
Mae tâl o £10 am bob Bathodyn Glas i sefydliadau.
Mae canllaw Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw tacsis, cerbydau llogi preifat a gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol yn debygol o fod yn gymwys am Fathodynnau Glas sefydliadau. Y rheswm am hyn yw nad ydynt fel arfer yn delio â gofalu am bobl anabl sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Eto i gyd, gall gweithredwyr o’r fath ddefnyddio Bathodyn Glas unigolyn wrth gludo’r unigolyn hwnnw fel teithiwr.