Ardal Rheoli Ansawdd Aer Pen-y-bont ar Ogwr
Ardal Rheoli Ansawdd Aer Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Ardal Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) yn ardal benodol lle mae lefel llygryddion penodol yn uwch, neu'n debygol o fod yn uwch, na’r amcanion ansawdd aer cenedlaethol, fel y pennir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu iechyd pobl. O dan amgylchiadau o'r fath, mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i ddatgan ARhAA. Unwaith y bydd ARhAA wedi'i datgan, rhaid i'r Cyngor wneud gwaith pellach i fonitro ansawdd aer yn yr ardal honno, yn yr achos hwn ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2) a nodi pa gamau y gellir eu cymryd i'w wella. Felly, mae creu ARhAA yn gam cadarnhaol tuag at wella ansawdd aer lleol.
Nodir yr amcanion ansawdd aer sy'n berthnasol i Reoli Ansawdd Aer Lleol (RhAALl) yng Nghymru yn Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000, Rhif 1940 (Cymru 138) a Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2002, Rhif 3182 (Cymru 298).
Mae dau amcan ansawdd aer ar gyfer nitrogen deuocsid; amddiffyn preswylwyr ac eraill a fydd yn anadlu'r aer am amser hir, ac amddiffyn ymwelwyr sy’n pasio drwy'r ardal.
- Yr amcan tymor hir (i breswylwyr) yw 40ug/m3 ar gyfartaledd dros flwyddyn
- Yr amcan tymor byr (ar gyfer ymwelwyr) yw 200ug/m3 ar gyfartaledd dros awr.
Mae allyriadau Nitrogen Ocsidau (NOx) yn cynnwys nitrogen deuocsid (NO2) sylfaenol ac ocsid nitraidd (NO) ac maent yn cael eu ffurfio’n bennaf drwy losgi tanwydd ffosil, fel diesel a phetrol. Mae’r NO a gynhyrchir yn adweithio’n gemegol gyda'r atmosffer sy’n llawn ocsidyddion fel oson (O3) i gynhyrchu NO2 eilaidd.
Er bod ffynonellau NOx nad ydynt yn ymwneud â thrafnidiaeth yn gyfranwyr sylweddol, yn ôl y Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol, dim ond traean o allyriadau NOx y DU mae trafnidiaeth ffordd yn ei greu. Amlinellir cerbydau diesel fel prif ffynhonnell trafnidiaeth ffyrdd sy'n dylanwadu ar y lefelau hyn.
Ceir lefelau uwch o NO2 mewn trefi a dinasoedd yn agos at ffyrdd, fel rheol o fewn ychydig fetrau i'r cyrb. Mae NO2 fel rheol yn gwasgaru'n eithaf cyflym ond os oes adeiladau sy'n agos iawn at y ffordd, gall gronni i lefelau uwch.
Nac ydi, bydd y Cyngor yn parhau i fonitro lefelau nitrogen deuocsid ac os yw'r lefel gyfartalog flynyddol yn gyson is na'r amcan cenedlaethol (tair blynedd o leiaf) ac os profir ei bod yn parhau'n is na'r amcan ar gyfer y blynyddoedd i ddod, bydd yr awdurdod lleol yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gael gwared ar yr ARhAA.
Nac oes, nid oes gofyniad cyfreithiol i'r ARhAA gael ei rhoi ar y gofrestrfa tir yn erbyn eiddo sydd ynddi. Fodd bynnag, rhaid sicrhau bod yr wybodaeth ar gael i'r cyhoedd, a bydd yn cael ei rhoi ar wefan genedlaethol gan DEFRA, yn ogystal ag yn lleol ar wefannau SRS a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae dynodi ARhAA yn ofyniad deddfwriaethol. Nid yw ARhAA yn destun chwiliadau tir arferol ac mae llawer o gynghorau eraill wedi datgan ARhAA. Hyd eithaf ein gwybodaeth, ni chafwyd unrhyw effaith ar werth eiddo.
Do, mae llawer o awdurdodau lleol wedi nodi ardaloedd lle mae angen gwella ansawdd yr aer ar gyfer amrywiaeth o lygryddion aer yn ogystal â nitrogen deuocsid. Gallwch ddod o hyd i Restr lawn o Awdurdodau Lleol gydag ARhAA ar wefan y Llywodraeth.
Gellir gweld enghreifftiau o'r dulliau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael ar wefan Llywodraeth y DU
Datblygu Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer Stryd y Parc.
Daeth gorchymyn ARhAA Stryd y Parc i rym ar 1af Ionawr 2019. Unwaith y bydd ARhAA wedi'i ddatgan, rhaid cynhyrchu Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer Drafft (CGAA) o fewn 18 mis a'i gwblhau o fewn 2 flynedd.
Er bod SRS yn canolbwyntio ar gyflawni'r CGAA TERFYNOL ac yn ymwybodol o bwysigrwydd y ddogfen, mae gweithio drwy'r pandemig presennol wedi cael effaith niweidiol ar gapasiti gwaith ac amserlenni cyflawni prosiectau ar gyfer cynhyrchu'r ddogfen hon. Oherwydd goblygiadau sy'n deillio o'r pandemig presennol, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol i ymrwymiad CBSP/SRS i gyflawni CGAA TERFYNOL cadarn ac felly mae wedi cytuno i ymestyn y dyddiad cau i 30ain Medi 2021.
Sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd:- Darparwyd cyfanswm o bedwar sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd dros gyfnod o ddeuddydd (13eg a 18fed Rhagfyr 2019) gan SRS. Trefnwyd slotiau amser bore (08:30-11:00) a phrynhawn (16:30-19:00). Llogodd SRS ystafell hygyrch yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr gerllaw.
Dadansoddiad cychwynnol a chanlyniadau:- Mae’n ymddangos mai ciwio a llif traffig anghyson yw prif achos y lefelau ansawdd aer gwael a bortreadir (lefelau uwch a mwy na’r lefelau penodol o nitrogen deuocsid (NO2)). Mae canran fawr (tua 40%) o lefelau NO2 a brofir mewn lleoliadau derbynnydd sensitif ar hyd Stryd y Parc yn cael ei briodoli i geir (modelau diesel yn bennaf), yn ogystal â Cherbydau Nwyddau Ysgafn (LGVs) sy'n cyfrif am bron i 20%.
Gan gydweithredu â'r syniadau a'r awgrymiadau a wnaed hyd yma, mae rhestr hir o fesurau lliniaru arfaethedig wedi'i llunio. Cafodd dadansoddiad cost a budd ei gynnal ar gyfer y mesurau, a chytunodd Grŵp Llywio Gwaith Ansawdd Aer Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i flaenoriaethu'r opsiynau lliniaru hynny a fydd yn rheoli ac yn gwella llif traffig drwy ARhAA Stryd y Parc. Mae'r opsiynau sy’n cael eu ffafrio’n cynnwys y canlynol:
- Dim mynediad i Heol Sant Leonard;
- Gweithredu cyffordd newydd wrth droad Heol-y-Nant; a
- Gwneud y defnydd gorau posib o gyffordd Stryd y Parc/ Stryd Angel/Heol Tondu.
Asesiad manwl:- CBSP/SRS wedi penodi ymgynghorwyr proffesiynol allanol i archwilio'r pecyn o opsiynau lliniaru fel y nodwyd uchod, ac wrth wneud hynny bydd yn cynnal dadansoddiad trafnidiaeth ac ansawdd aer manwl. Bydd hyn yn dilysu’r effaith o ganlyniad y bydd y mesurau hynny gyda’i gilydd yn ei chyflawni ar gyfer ansawdd aer yn ARhAA Stryd y Parc a'r ardal gyfagos. Mae gwaith yn mynd rhagddo gan yr ymgynghorwyr i amlinellu'r effeithiau hyn.
Mae'n bwysig nodi y bydd y gwaith asesu manwl yn ystyried y twf disgwyliedig mewn traffig o ganlyniad i ddatblygiad lleol gerllaw.
Bydd SRS yn defnyddio canlyniadau'r gwaith asesu manwl ac yn ystyried hyn yn fersiwn TERFYNOL Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer ARhAA Stryd y Parc. Bydd y ddogfen hon yn cael ei rhyddhau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus cyn ei mabwysiadu'n ffurfiol. Rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Haf 2021.
Heb fod yn awtomatig:- Mae monitro ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2) gyda'r defnydd o diwbiau gwasgariad goddefol nad ydynt yn awtomatig wedi parhau yn ARhAA Stryd y Parc a'r ardal gyfagos. Gosodir y safleoedd hyn mewn lleoliadau perthnasol sy'n cynrychioli derbynnydd sensitif (man preswylio), ac maent yn cydymffurfio â'r gofynion monitro a amlinellir yng Nghanllawiau Technegol Rheoli Ansawdd Aer Lleol Defra (TG16), Ebrill 2018.
Awtomatig:- Yn dilyn caniatâd cynllunio wedi'i gydsynio a chwblhau cytundeb ysgrifenedig cyfreithiol gyda pherchnogion Tŷ Cwrdd y Crynwyr ar Stryd y Parc (87 Stryd y Parc), roedd modd i SRS roi cyfarwyddyd i’r contractwyr i ddechrau gweithio i osod yr uned monitro ansawdd aer newydd yn ei lle. Oherwydd goblygiadau COVID a oedd yn effeithio ar drefniadau gweithio comisiynwyd y gwaith ym mis Hydref 2020.
Pwrpas y safle awtomatig yw gwella'r ddealltwriaeth ar gyfer lefelau ansawdd aer ar Stryd y Parc a nodi unrhyw effeithiau dilynol o ganlyniad i fesurau lliniaru a weithredir. Gweinyddodd SRS leoliad y safle a'i ariannu, ac mae bellach yn gweithredu ac yn cynnal y safle gan gyflawni calibradu rheolaidd ac ymweliadau cynnal a chadw safleoedd a drefnir. Mae'r safle hwn yn darparu data amser real ar gyfer llygryddion nitrogen deuocsid (NO2) a deunydd gronynnol. (PM10). Ewch i wefan Ansawdd Aer yng Nghymru i weld y lefelau ansawdd aer ar Stryd y Parc Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae disgwyl i'r safle aros yn ei le tan fis Hydref 2024 o leiaf a nodir hynny yng nghytundeb y drwydded, ond bydd hyn yn cael ei adolygu pan fydd yr amser hwnnw'n nesáu.
Lleisio eich barn!
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau ei Phapur Gwyn ar gyfer Bil Aer Glân Cymru ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth, gallwch adolygu ac ymateb i'r ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru.