Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diwrnod y Cofio 2024

Mae Sul y Cofio yn gyfle i gofio am wasanaeth ac aberth pawb sydd wedi amddiffyn ein rhyddid ac wedi diogelu ein ffordd o fyw.

Mae cynnal digwyddiadau cofio yn un ffordd o helpu i sicrhau nad yw aberthau'r unigolion hynny a wasanaethodd yn mynd yn angof.

Gweler isod restr o rai o'r digwyddiadau Cofio sy'n cael eu cynnal ledled y fwrdeistref sirol.

Gwasanaeth Coffa

Dydd Gwener 8 Tachwedd, 10.30am

Neuadd Bentref Llangynwyd

Cynhelir Gwasanaeth Coffa gyda gosod torchau wrth y gofeb ryfel i ddilyn. Bydd lluniaeth ar gael yn y neuadd wedyn.

Trefnir gan Gyngor Cymuned Canol Llangynwyd.

Cyngerdd Y Lleng Brydeinig Frenhinol 

Dydd Gwener 8 Tachwedd 2024, 7pm

Clwb Rygbi Nantyffyllon

Mae tocynnau’n £5 wrth y drws.

Trefnir gan Gangen Lleng Brydeinig Frenhinol Maesteg  

Gwasanaeth a Gorymdaith Coffa ar gyfer Plant a Theuluoedd

Ddydd Sadwrn 9 Tachwedd, 10.20am

Stryd Wyndham, Pen-y-bont ar Ogwr 

Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu’n arbennig ar gyfer plant iau a theuluoedd a bydd yn rhoi cyfle i blant oed ysgol gynradd i ddysgu am bwysigrwydd Cofio.  

Bydd plant yn chwarae rhan weithredol yn y digwyddiad drwy ymgynnull ar ben Stryd Wyndham o 10.20am yn barod i orymdeithio at y Gofeb Ryfel yn Dunraven Place, lle bydd y Parchedig Rachel Wheeler yn cynnal Gwasanaeth Goffa fer.

Cynhelir gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Gwasanaethau Coffa

Ddydd Sadwrn 9 Tachwedd, 10.45am

Canolfan Gymunedol Corneli

Gwasanaeth Coffa yng Nghanolfan Gymunedol Corneli, yn cynnwys gosod torchau wrth y Gofeb y tu allan i Ganolfan Gymunedol Corneli.

Gorymdaith a Gwasanaeth Coffa

Dydd Sul 10 Tachwedd 2024, 10.25am

Bydd gorymdaith, dan arweiniad Band Pibau Dinas Abertawe, yn dod ynghyd ar Stryd Adare ar y gyffordd â Stryd Wyndham am 10.25am.

Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 10.40am ac yn mynd heibio'r Gofeb Ryfel, Dunraven Place ar gyfer gwasanaeth gan y Parchedig Rachel Wheeler. Bydd Côr Meibion Pen-y-bont ar Ogwr a Band Pres Lewis-Merthyr yn darparu cymorth cerddorol.

Cynhelir gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Gwasanaethau Coffa

Dydd Sul 10 Tachwedd, 10.50am

Neuadd Goffa Williams, Llangrallo

Bydd cymuned Llangrallo yn cynnal Gwasanaeth Coffa yn Neuadd Goffa Williams o 10.50am.

Gwasanaethau Coffa

Dydd Sul 10 Tachwedd 2024, 10am

Mynydd Cynffig

Bydd Gwasanaeth Coffa Mynydd Cynffig yn Eglwys Sant Theodore, Stryd Fawr, am 10am ac yna bydd gwasanaeth a gosod torchau i ddilyn yn senotaff y pentref ym Moriah Place am 10.45am. Mae croeso i bawb yn yr eglwys ac wrth y senotaff.

Nodwch os gwelwch yn dda: Bydd y ffordd yn cael ei chau dros dro rhwng Eglwys Sant Theodore a’r senotaff rhwng 10am a 11.30am er mwyn cynnal y gwasanaeth.

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i drefnu gan Gyngor Cymunedol y Pîl

Gwasanaethau Coffa

Dydd Sul 10 Tachwedd, 10.50am

Sgwâr Pricetown, Lloches Goffa, Nantymoel  

Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys y Rhestr Anrhydedd, y Caniad Olaf, Gwasanaeth Coffa a Gosod Torchau

Sul y Cofio yn Lleng y Pîl

Dydd Sul 10 Tachwedd 2024, 10.30am

Tir Lleng y Pîl, y Pîl

Cynhelir gwasanaeth coffa, yn cynnwys gosod torchau pabi, wrth y gofeb ryfel newydd ar dir Lleng y Pîl am 10.40am. Mae croeso i bawb a gofynnir i bawb fod yn y Lleng erbyn 10.30am. 

Cafodd y gofeb ryfel newydd, a adeiladwyd gan Gymdeithas Cyn-filwyr Mynydd Cynffig mewn partneriaeth â Llynges y Pîl, ei dadorchuddio’n swyddogol yr haf diwethaf. Bydd lluniaeth ar gael yn y clwb ar ôl y gwasanaeth.

Trefnir y digwyddiad hwn gan y Gymdeithas Cyn-filwyr gyda chefnogaeth Lleng y Pîl.

Gwasanaethau Coffa

Dydd Sul 10 Tachwedd, 9.45am

Eglwys Sant Cynfelyn, Caerau

Caiff y gwasanaeth hwn ei ddilyn gan wasanaeth wrth gofeb rhyfel y pentref ar Sgwâr Caerau am 10.55am.

Gorymdaith a Gwasanaeth Diwrnod y Cofio

Dydd Sul 10 Tachwedd 2024, 9.15am

Pencoed

Yn dechrau yng Nghlwb Cymdeithasol Pencoed am 9.30am gyda gorymdaith i wasanaeth yng Nghapel Salem, dan arweiniad y Rheithor Ian Hodges ac yna ymlaen i’r Senotaff yng nghanol y dref.

Gwasanaeth Coffa

Dydd Sul 10 Tachwedd, 11am

Y Gofeb Ryfel, Victoria Street, Pontycymer

Gwasanaeth Coffa

Dydd Sul 10 Tachwedd, 11am

Y Gofeb Ryfel, Heol yr Ysgol, Coety

Trefnir gan Eglwys St Mary's

Gwasanaeth Coffa

Dydd Sul 10 Tachwedd, 10.45am – 11.20am

Senotaff Melin Ifan Ddu

Gwasanaeth coffa yn cynnwys gosod torchau a gweddïo.

Gwasanaethau Coffa

Dydd Sul 10 Tachwedd 2024, 2pm

Canolfan Gymunedol Philip Squire, Goetrehen

Gwasanaeth Sul y Cofio

Dydd Sul 10 Tachwedd, 10am

Eglwys Fethodistaidd Wesleiaidd (y capel ger Comin Mynydd Bach), Cefn Cribwr

Caiff y gwasanaeth hwn ei ddilyn gan wasanaeth wrth y gofeb rhyfel am 10.55am.

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i drefnu gan Gyngor Cymunedol Cefn Cribwr Mae croeso i bawb yn yr eglwys ac wrth y senotaff.

Gwasanaeth Sul y Cofio

Dydd Sul 10 Tachwedd 2024, 9.30am

Eglwys St Michaels, Maesteg

Gwasanaeth eglwys yn Eglwys St Michaels 9.30am, gorymdaith i lawr i’r senotaff gyda gwasanaeth byr a gosod torchau i ddilyn.

Trefnir gan Gangen Lleng Brydeinig Frenhinol Maesteg

Gwasanaeth Coffa

Dydd Sul 10 Tachwedd 2024, 2.30pm

Neuadd Goffa Bryncethin

Yn draddodiadol, cynhelir Gwasanaeth Coffa am 2.30pm yn y neuadd. Mae hyn yn caniatáu i bobl ymweld â’r Gwasanaethau am 11am yn y dref neu yn Abercynffig os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Chwilio A i Y