Cofrestr Risgiau Cymunedol
Yn rhan o’n dyletswydd i asesu’r risgiau y gall cymunedau yn ein hardal leol eu hwynebu, rydym yn gweithio ochr yn ochr ag ystod o asiantaethau ymateb eraill i gydweithio a rhannu gwybodaeth.
Drwy gydweithio, rydym yn creu Cofrestr Risgiau Cymunedol ar gyfer y rhanbarth.
Cofrestr Risgiau Cymunedol De Cymru
Nod y gofrestr risgiau cymunedol yw rhoi sicrwydd i breswylwyr lleol am y cynlluniau sydd ar waith i ymateb i beryglon posibl, a rhoi trosolwg o gyd-destun y risgiau hynny a sut byddant yn cael eu rheoli.
Mae hefyd yn ein helpu ni fel ymatebwyr i gael dealltwriaeth dda o’r risgiau y mae’r ardal yn eu hwynebu. Mae hefyd yn gymorth o ran trefnu ein rhaglen waith yn effeithiol, a sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar adnoddau sydd ar gael inni wrth fynd i’r afael â’r risgiau a nodir. Yn ogystal, mae’n helpu i asesu’r gwaith rydyn ni’n ei wneud, nodi unrhyw fylchau a all fod angen eu cau a sicrhau bod ein cynlluniau’n addas at y diben.