Cynllunio ar gyfer Argyfyngau
Er nad yw argyfyngau mawr yn digwydd yn aml, mae’n hanfodol bod y cyngor wedi paratoi i ymateb yn effeithiol pan fyddant yn digwydd er mwyn cefnogi ein cymunedau i ymdopi ac adfer ar ôl digwyddiad.
Mae’r Gwasanaeth Cynllunio ar gyfer Argyfyngau yn gyfrifol am gefnogi gweddill y cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl (2004) drwy:
- Asesu risgiau lleol fel ein bod yn gwybod ar gyfer beth i gynllunio.
- Ysgrifennu a chynnal cynlluniau ar gyfer argyfyngau.
- Sicrhau bod gennym gynlluniau ar waith fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ystod argyfwng.
- Rhoi cyngor i fusnesau lleol i’w helpu nhw i barhau i redeg eu busnes yn ystod digwyddiadau sy’n tarfu.
- Cyfathrebu â’r cyhoedd drwy rybuddio a rhannu gwybodaeth am argyfyngau posibl, a rhoi gwybod iddynt beth allent wneud gartref i baratoi.
- Gweithio’n agos gydag asiantaethau partner megis y Gwasanaethau Brys ac Iechyd, a rhannu gwybodaeth berthnasol â nhw am y risgiau a wynebwn ledled y Fwrdeistref Sirol.
Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth ar ddyletswydd 24 awr y dydd, ac yn cydlynu ymateb cychwynnol y cyngor.
Yn ogystal â Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, mae’r rheoliadau statudol penodol canlynol hefyd yn berthnasol:
- Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015 (COMAH)
- Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996
- Rheoliadau (Parodrwydd a Gwybodaeth Gyhoeddus) Argyfyngau Ymbelydrol 2001 (REPPIR)