Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC
Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu’n ymwneud ag annog arferion adeiladu rhagorol a chydnabod adeiladwyr sy’n mynd yr ail filltir. Nid ydynt yn cael eu barnu ar sail harddwch pensaernïol, ond ar y “rhagoriaeth” a ddangosir o bersbectif adeiladu a rheolaeth adeiladu dechnegol.
Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu’n cael eu trefnu gan y Grŵp Rheoli Adeiladu. Mae’r syrfëwyr Rheoli Adeiladu wedi enwebu adeiladwyr sydd wedi cyrraedd safonau uchel yn gyson gyda gwaith adeiladu o ansawdd uchel yn y categorïau canlynol:
- newid defnydd gorau i adeilad presennol neu adeilad wedi’i drawsnewid
- datblygiad tai bach gorau a gwobr cynllunio arbennig
- datblygiad tai dwysedd uchel newydd gorau
- datblygiad tai cymdeithasol newydd gorau
- adeilad gwasanaethau cyhoeddus gorau
- adeilad addysgol gorau
- adeilad masnachol bach gorau
- partneriaeth cwsmeriaid orau LABC gyda thîm rheoli adeiladu awdurdod lleol
- gweithiwr adeiladu proffesiynol gorau’r flwyddyn LABC