Rhywogaethau ymledol
Cyngor cynllunio
Mae llawer o rywogaethau estron yn y DU, ond dim ond ychydig iawn sy’n ymledol. Mae rhywogaeth estron ymledol yn unrhyw anifail neu blanhigyn sy’n gallu lledaenu a difrodi’r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a’n ffordd o fyw.
Mae’r problemau a achosir gan rywogaethau ymledol yn effeithio arnom ni i gyd. Maent yn costio tua £1.7 biliwn bob blwyddyn i’r DU ac mae eu heffaith mor fawr fel eu bod yn cael eu hystyried fel un o’r bygythiadau mwyaf i fioamrywiaeth yn fyd-eang. Maent yn cael eu hystyried fel mwy o fygythiad na llygredd neu newid hinsawdd.
Yn ogystal ag effeithio ar ein bywyd gwyllt, gall rhywogaethau ymledol effeithio ar ein ffordd o fyw. Mae rhai rhywogaethau’n cael effaith uniongyrchol ar ein hiechyd, fel efwr enfawr, ac mae eraill yn cael effaith lai amlwg ond yr un mor ddifrifol, fel llifogydd. Credir fod llawer o blanhigion ymledol dyfrol ac ar lannau afonydd yn cynyddu’r risg o lifogydd. Maent yn gwneud hyn drwy dagu dyfrffyrdd gyda llystyfiant neu, fel gyda Ffromlys Chwarennog a chanclwm Japan, drwy erydu glannau afonydd sy’n arwain at waddodi mewn dyfrffyrdd. Hefyd mae gwaddodion yn symud yn cael effaith negyddol ar bysgodfeydd ac ecoleg cyffredinol afonydd.
Ar ôl cyflwyno rhywogaeth, mae canlyniadau drwg a chostau’n cynyddu’n flynyddol. Mewn lleoliadau trefol, gall rhywogaethau ymledol wneud ardaloedd preswyl yn annymunol yr olwg a llai apelgar. Gall planhigion dŵr ymledol dagu pyllau, gan leihau eu hapêl, ac mae rhai rhywogaethau fel canclwm Japan yn diraddio amgylcheddau adeiledig drwy annog llygod a sbwriel.
O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Atodlen 9, Adran 14 (fel y’i diwygiwyd), mae’n drosedd mynd ati’n fwriadol i achosi i’r rhywogaethau ymledol sydd wedi’u rhestru o dan Ran II Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (WAC) 1981 dyfu yn y gwyllt.
Hefyd mae’r rhywogaethau ymledol sydd wedi’u rhestru o dan Ran II Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn dod o dan Adran 34 Deddf Gwarchod yr Amgylchedd (1990) ac maent wedi’u dosbarthu fel ‘Gwastraff a Reolir’. O ganlyniad, dylid eu gwaredu mewn safle tirlenwi trwyddedig o dan Reoliadau EPA (Dyletswydd o Ofal) (1991).
Ystyrir deunyddiau planhigion ymledol fel ‘gwastraff a reolir’. Rhaid cael gwared arnynt yn unol â thrwydded amgylcheddol a gyhoeddir o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007. Hynny yw, oni bai fod un o’r eithriadau yn Atodlen 3 y rheoliadau hyn yn berthnasol, ond rhaid cofrestru eithriadau gydag Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd.
Dim ond cludwr trwyddedig sy’n gallu symud a chael gwared ar rywogaethau ymledol. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw safleoedd gwaredu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gwaredu cyfreithiol
Dim ond cludwr trwyddedig sy’n gallu symud a chael gwared ar rywogaethau ymledol. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw safleoedd gwaredu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cosbau:
Y gosb fwyaf am beidio â chydymffurfio ag Adran 14 WCA 1981 am bob trosedd yn y Llys Ynadon yw:
- dirwy o £5000 a/neu chwe mis o garchar a dirwy ddigyfyngiad yn unol â disgresiwn y llys
- a/neu ddwy flynedd yn y carchar yn Llys y Goron
Os na waredir y rhywogaethau hyn yn gywir, byddai’n drosedd sifil a gall Cyfoeth Naturiol Cymru erlyn. Gall mynd yn groes i Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd arwain at ddirwy ddigyfyngiad.
Cynlluniau tirlunio
Rhaid i gynlluniau tirlunio sicrhau nad yw’r rhywogaethau sydd wedi’u rhestru yn Atodlen 9 yn cael eu cynnwys yn y cynllun.
Am gyngor pellach am y rhywogaethau a ffafrir mewn perthynas â chynlluniau tirlunio, edrychwch ar Ganllawiau Cynllunio Tirlun a Chymeriad Lleol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Nodyn cyfarwyddyd un:
Os oes gan safleoedd datblygu blanhigion ymledol, rhaid i chi gyflwyno cynllun rheoli rhywogaethau ymledol i’r cyngor. Dylid gweithredu’r cynllun rheoli rhywogaethau ymledol ar gyfer graddfa’r datblygiad. Bydd y cynllun yn helpu datblygwyr i adnabod yr ardaloedd ble ceir y planhigion ac os ydynt yn agos i’r safle, yn ogystal â lefel y llygredd. Rhaid i’r cynllun gynnwys manylion llawn am raglen ar gyfer dileu a/neu reoli’r planhigion. Rhaid i’r cynllun gael ei gymeradwyo gan y cyngor a’i weithredu cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle.
Mae cynllun rheoli rhywogaethau ymledol yn helpu datblygwyr i ddelio â goblygiadau rhywogaethau ymledol ac yn nodi arferion gwaith da ar gyfer atebion effeithlon a chost effeithiol. Hefyd, mae cynllun rheoli’n nodi’r gweithdrefnau ar gyfer symud pridd sydd wedi’i lygru o bosib oddi ar y safle. Byddai hynny o dan ddarpariaethau:
Arolwg ecolegol
Os canfyddir y rhywogaethau hyn ar eich safle neu’n agos iddo yn ystod arolwg ecolegol, dylid tynnu sylw atynt ar gynllun cyfyngiadau. Dylech drefnu i’w symud a chael gwared arnynt gan ymgynghori ag ecolegydd a chontractwr cymwys, a chan gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth uchod.
Mae llawer o safleoedd datblygu’n cynnwys rhywogaethau ymledol. Y planhigion ymledol a welir amlaf yn natblygiadau trefol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Canclwm Japan a Ffromlys chwarennog. Os yw’n bresennol neu’n agos i’r safle, mae’n hanfodol adnabod y rhywogaeth o blanhigyn ymledol cyn dechrau ar y gwaith.
Datganiad dull
Dylai’r cynllun rheoli rhywogaethau ymledol gynnwys datganiad dull i sicrhau bod pawb sy’n gweithio ar y safle’n ymwybodol o hylendid safle da ac yn cadw ato. Gellir gwneud hyn drwy gyfrwng y canlynol:
- marcio ardaloedd llygredig
- sicrhau nad yw cerbydau gyda thraciau rhychog yn gweithio yn yr ardaloedd llygredig os yw hynny’n bosib
- trin priddoedd llygredig yn ofalus i sicrhau bod peiriannau neu offer llygredig o bosib yn cael eu glanhau
Goblygiadau planhigion ymledol o amgylch safleoedd datblygu
Mae’r Adroddiad Annibynnol, Cost Economaidd Rhywogaethau Estron Ymledol i Brydain Fawr (2010) XCIX yn amcangyfrif bod costau blynyddol Rhywogaethau Estron Ymledol i Gymru yn £125,118,000.
Nid oes ffigurau pendant ar gyfer y diwydiant cyfan am gost planhigion ymledol yn y DU. Ond hyd yn oed ar safleoedd cymharol fach, gall y costau rheoli fod yn gannoedd ar filoedd yn flynyddol ledled y DU, ac maent yn debygol o fod yn filiynau lawer. Mae cost dileu Canclwm Japan ym Mhrydain drwy ddulliau confensiynol wedi’i amcangyfrif fel £1.56 biliwn.
Cyngor i blanhigion ymledol
Mae sawl opsiwn ar gyfer rheoli a dileu planhigion ymledol. Mae cyngor am ddefnyddio opsiynau priodol yn dibynnu ar sawl ffactor, fel:
- yr amserlen ddatblygu
- presenoldeb cyrff o ddŵr/draeniau tir gerllaw
- gofynion tirlunio
- problemau gyda rhywogaethau dan warchodaeth eraill
Anfonwch e-bost i planning@bridgend.gov.uk i drafod eich sefyllfa.
Cyn triniaeth
Y cam cyntaf fyddai adnabod yr holl leoliadau gyda rhywogaethau ymledol ar y safle neu’n agos iddo. Wedyn, diogelu eu lleoliadau. Os yw’n bosib, gellid plotio’r lleoliadau gyda GPS, ond hefyd argymhellir eu ffensio.
Gall trin rhywogaethau ymledol mwy cyffredin ar safleoedd datblygu, fel canclwm Japan a Ffromlys Chwarennog, fod yn syml, ond bydd yn cynnwys trin sawl gwaith i sicrhau dileu. Ond mae gan efwr enfawr oblygiadau iechyd a diogelwch ychwanegol y mae’n rhaid eu hystyried.
Contractwyr
Gall dangos gwybodaeth am rywogaethau lle mae contractwyr yn mynd i mewn i safle annog gwyliadwraeth. Gall taflenni adnabod Asiantaeth yr Amgylchedd helpu gyda hyn.
Dylai datblygwyr gael cyngor gan weithredwr plaladdwyr cymwys neu gynghorydd plaladdwyr cofrestredig BASIS cyn dechrau ar raglen o drin gyda phlaladdwyr.
Trin canclwm Japan
I ladd canclwm Japan yn effeithiol, fel rheol mae unrhyw bla angen rhaglen drin am dair blynedd gan chwistrellu ar ddiwedd y tymor tyfu, sef Awst/Medi fel rheol. Ar ôl y tair blynedd gyntaf o chwistrellu, dylid cynnal ymweliadau monitro blynyddol yn ystod Ebrill/Mai am dair blynedd. Os gwelir unrhyw aildyfiant, dylid gweithredu trefn chwistrellu flynyddol.
Trin Ffromlys chwarennog
Rhaid trin Ffromlys chwarennog cyn iddo fwrw had a phan mae’r planhigyn wedi tyfu digon i dreulio’r plaladdwr yn ddigonol. Mae hyn fel rheol tua mis Mai a dechrau Mehefin, gan ddibynnu ar y tymor tyfu. Mae gan Ffromlys chwarennog gronfa hadau hyfyw am ryw ddwy flynedd felly dylech ystyried rhaglen chwistrellu o dair blynedd. Dylid cynnal ymweliadau monitro blynyddol yn ystod Ebrill/Mai am dair blynedd ar ôl y tair blynedd gyntaf o chwistrellu. Os gwelir unrhyw aildyfiant, dylid ailddechrau’r drefn chwistrellu flynyddol.
Er hynny, y ffordd fwyaf effeithiol o reoli Ffromlys chwarennog yw cyn i’r planhigyn flodeuo drwy strimio a, gyda phla llai, tynnu gyda llaw.
Trin efwr enfawr
Mae’n debygol y bydd angen trin am o leiaf bum mlynedd a monitro am bum mlynedd bellach. Mae’r rhaglen drin a monitro flynyddol angen amserlen waith fanwl. Rhaid cynnal ymweliadau monitro blynyddol yn ystod Ebrill/Mai am bum mlynedd ar ôl y bum mlynedd gychwynnol o chwistrellu. Os gwelir unrhyw aildyfiant, dylid gweithredu’r drefn chwistrellu flynyddol.
Rhaid i’r cynllun rheoli rhywogaethau ymledol gynnwys mesurau rhagofalol i osgoi chwistrellu ar wasgar a all effeithio ar fflora/ffawna brodorol y safle.
Dylai monitro blynyddol a chwistrellu wrth weld tyfiant newydd barhau nes na welir unrhyw aildyfiant. Dylai ecolegydd archwilio’r aildyfiant yn ystod y tymor tyfu canlynol a rhoi cyfarwyddyd i gontractwyr tirwedd gwblhau’r gwaith dilynol a argymhellir.
Dylid dewis plaladdwr priodol gan ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru ac, os oes cyfyngiadau bywyd gwyllt ar y safle, ecolegydd a benodir gan yr ymgeisydd.
Os yw’r planhigion yn agos at ddŵr, dim ond plaladdwyr wedi’u hawdurdodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer eu defnyddio gyda’r glymog ar/yn agos at ddŵr ddylid eu defnyddio. Dylai contractwr cymwys wybod beth sy’n briodol.
Gall cloddio gael gwared ar rywogaethau ymledol ar unwaith yn amodol ar Adran 34 Deddf Gwarchod yr Amgylchedd (1990) a’r Rheoliadau EPA (Dyletswydd o Ofal) (1991). Mae’r dull hwn yn addas ar gyfer clystyrau sydd wedi’u heffeithio gan aildrefnu’r safle.
Dull
Rydym yn argymell bod rhywogaethau ymledol sydd wedi’u targedu gan waith aildrefnu’n cael eu chwistrellu gyda phlaladdwr priodol, ac wedyn cloddio’r planhigion gwannach. Ar ôl cloddio rydym yn argymell pentyrru neu gladdu’r deunydd llygredig.
Rhaid cludo deunydd planhigion wedi’i gloddio o’r safle yn briodol i leihau’r risg o blâu pellach ar y safle.
Cloddio ffromlys chwarennog a’r glymog fawr
Prif gyfrwng sefydlu canclwm Japan yw drwy ledaenu ei risomau, system o goesynnau o dan y ddaear. Gall y rhisomau hyn gyrraedd dyfnder o 3m a 7m i’r ochr o’r coesynnau uwch ben y ddaear. I sicrhau nad oes unrhyw aildyfiant, rhaid cael gwared ar y system gyfan o wreiddiau.
Cloddio ffromlys chwarennog a’r glymog fawr
Mae ffromlys chwarennog ac efwr enfawr yn lledaenu drwy hadau. Felly, dylid symud eu pridd i’r ochr ac yn unol â’r dyfnder y cytunwyd arno gydag ecolegydd y datblygwr a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Ar ôl cloddio
Ar ôl cloddio, rhaid monitro’r ardal yn rheolaidd i adnabod unrhyw aildyfiant. Os oes aildyfiant, rhaid gweithredu trefn chwistrellu.
Rhaid i gerbydau a ddefnyddir i gloddio deunydd llygredig gael eu golchi i atal lledaenu’r rhywogaethau hyn o blanhigion. Dylai unrhyw ddŵr a ddefnyddir i lanhau’r cerbydau hyn gael ei gasglu. Os yw’r dŵr wedi’i lygru gyda hadau neu ddeunydd planhigion, ni fydd yn bosib ei roi mewn dyfrffordd. Dylai dŵr llygredig gael ei basio drwy danc setlo i gael gwared ar unrhyw bridd cyn i ridyll mân iawn gael gwared ar yr hadau neu ddeunydd planhigion.
Gall deunydd a gaiff ei ridyllu o ddŵr a ddefnyddir ar gyfer golchi cerbydau gael ei waredu mewn ardal dan reolaeth o’r safle a’i fonitro am aildyfiant.
Mae dau opsiwn ar gael ar ôl cloddio:
- Gellir symud y deunydd oddi ar y safle i safle trwyddedig, yn amodol ar Adran 34 Deddf Gwarchod yr Amgylchedd (1990) a’r Rheoliadau EPA (Dyletswydd o Ofal) (1991).
- Gellir ei adael ar y safle mewn ardal dderbyn wedi’i pharatoi i gael ei bentyrru neu ei gladdu.
Os yw’r deunydd planhigyn ymledol i gael ei gadw ar y safle, gellir ei bentyrru neu ddefnyddio dull bwnd.
Os oes gan y safle ardaloedd ble gellir gadael deunydd planhigyn ymledol am o leiaf dair blynedd, mae pentyrru yn bosib. Ar ôl cloddio, byddai’r deunydd yn cael ei gludo i’r ardal wedi’i pharatoi a’i bentyrru yno i adael i driniaeth y plaladdwr barhau.
Gall byndiau gael eu codi neu eu cadw mewn twll i gynnwys y pentyrru. Yn y naill achos neu’r llall, rhaid i’r ardal wedi’i hamgáu fod yn ddigon mawr i ddal yr holl bridd llygredig sydd wedi’i gloddio a rhaid iddi gael ei leinio â philenni atal gwreiddiau. Mae hyn yn gwarchod y pridd o amgylch rhag trawslygru anfwriadol.
Mewn unrhyw bentwr wedi’i gloddio neu fwnd, y nod yw canolbwyntio’r deunydd planhigion mewn haenen uchaf denau o bridd heb fod yn fwy na metr o ddyfnder. Os yw dal yn fyw, bydd yn galluogi i’r planhigyn dyfu, er mwyn derbyn mwy o blaladdwr yn nes ymlaen.
Hefyd, rydym yn argymell tarfu rhywfaint ar y bwnd neu’r deunydd wedi’i bentyrru drwy ei droi drosodd ar ôl un neu ddwy driniaeth gyda phlaladdwr. Bydd y tarfu’n ysgogi aildyfiant. Wedyn gall yr aildyfiant gael ei drin yn gemegol gyda phlaladdwr priodol.
Fel rheol, mae’r dull yma’n anaddas i’r efwr enfawr a’r Ffromlys chwarennog gan fod ganddynt lawer iawn o hadau a gallant gael eu gwasgaru gan y gwynt. Fodd bynnag, os bydd triniaeth yn digwydd cyn y gall aildyfiant fwrw had, gall fod yn addas.
Ar ôl cael cytundeb y rheoleiddiwr amgylcheddol, gallwch gloddio a chladdu deunydd planhigyn ymledol ar y safle mewn cell wedi’i leinio neu dwll dyfnach.
Mae’r dull cyntaf yn cynnwys creu cell a’i leinio gyda deunydd atal gwreiddiau, o dan lefel y ddaear. Wedyn, mae’r deunydd llygredig yn cael ei roi yn y gell, wedi’i selio gyda leinin atal gwreiddiau a’i gorchuddio gydag o leiaf ddwy fetr o ddyfnder o rwbel a/neu bridd.
Gellir gweithredu dull claddu heb ddefnyddio pilenni atal gwreiddiau. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, rhaid i’r claddu fod yn is na dyfnder o bum metr o leiaf o’r arwyneb gorffenedig. Rydym yn argymell bod deunydd sy’n cynnwys canclwm Japan, Ffromlys chwarennog ac efwr enfawr yn cael ei drin yn gemegol gyda phlaladdwr amharhaol cyn ei gladdu.
Rhaid arolygu’r ardal sy’n cynnwys deunydd wedi’i gladdu bob blwyddyn am o leiaf tair blynedd. Bydd hyn yn sicrhau nad oes unrhyw dyfiant newydd wedi digwydd drwy lygru damweiniol ar ddeunydd arwyneb.
Mae’n bwysig hysbysu’r tîm Adnoddau Naturiol lleol cyn claddu. Efallai y bydd angen archwilio’r deunydd sydd i gael ei gladdu a’r lleoliad claddu.
Efallai y bydd claddu ar y safle angen trwydded o dan Reoliadau Tirlenwi 2002. Rydym yn cynghori bod datblygwyr yn holi a oes angen iddynt gael trwydded cyn dechrau ar y gwaith.
Hefyd bydd rhaid i chi fapio a chofnodi lleoliad y safle claddu yn fanwl gywir. Mae hyn yn galluogi cadw manylion gyda gweithredoedd fel bod perchnogion diweddarach yn cael gwybod am ei leoliad. Bydd hyn yn helpu i atal difrod damweiniol ac ail-lygru’r safle drwy waith yn y dyfodol.
Safleoedd tir llwyd a rhywogaethau ymledol
Yn aml, gall gweithgareddau blaenorol ar safleoedd tir llwyd penodol achosi problemau gyda datblygu. Efallai y bydd rhaid dadlygru’r tir cyn bwrw ymlaen i ddatblygu. Mae problemau rheoli gydag integreiddio datblygiad newydd mewn datblygiad trefol presennol. Un esiampl yw Polisi ENV7 Gwarchod Adnoddau Naturiol a Datblygu Iechyd Cyhoeddus. Nid yw’n caniatáu cynigion oni bai fod modd dangos yn glir na fyddai risg newydd, neu annerbyniol waeth, o niwed i iechyd, bioamrywiaeth a/neu ddymunoldeb lleol.
Credyd llun: 'Japanischer Staudenknöterich (Fallopia Japonica)' by Maja Dumat. Credyd trwydded.