Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pathewod

Cyfarwyddyd datblygu

Mae pathewod (muscardinus avellanarius) tua’r un maint â llygod eraill. Maent yn pwyso rhwng 17g ac 20g, ond yn gallu pwyso hyd at 30-40g cyn mynd i gysgu dros y gaeaf. Mae corff pathew yn mesur rhwng 6cm a 9cm o’i ben hyd at fôn ei gynffon, a’r gynffon wedyn yn mesur rhwng 5.5cm ac 8cm. Mae ei ffwr euraidd, ei gynffon flewog a’i lygaid duon mawr yn ei wneud yn un o'n cnofilod hawddaf ei adnabod.

Un peth sy'n gwneud y pathew yn unigryw ymhlith mamaliaid bychain Prydain yw’r ffaith ei fod yn gaeafgysgu rhwng mis Hydref a diwedd mis Ebrill, gan fyw ar fraster yr hydref blaenorol. Bydd y creadur bychan hwn yn gaeafgysgu mewn nyth plethedig a chaeedig, yn aml ym môn coeden, o dan bentyrrau o logiau, neu o dan fwsogl neu ddeiliach marw lle mae’r tymheredd a’r lleithder yn sefydlog.

Yn yr haf, bydd pathewod yn gwneud eu nyth mewn llwyni neu dyllau mewn coed. Fel arfer, bydd y nyth yn cael ei wau at ei gilydd o risgl gwyddfid wedi'i dynnu'n ddarnau, neu os nad oes dim ar gael, o ddail neu weiriau.

Creaduriaid y nos yw pathewod. Maent yn byw yn y coed, gan fwydo yng nghanghennau’r coed ac yn y llwyni.  Maent yn gyndyn o groesi tir agored, felly mae’n hawdd iawn iddynt fynd yn ynysig os byddant yn colli eu cynefin.

Fel arfer, gwelir pathewod mewn prysgwydd a choetir collddail. Gellir eu gweld yn arbennig mewn coetir sy'n cynnwys coed cyll cymysg wedi’u bôn-docio, sy'n rhoi deiet amrywiol iddynt drwy gydol y flwyddyn. Serch hynny, gellir dod o hyd i bathewod mewn cynefinoedd eraill sy'n cynnwys prysgwydd a gwrychoedd, a hyd yn oed mewn planhigfeydd conwydd.

Mae gofynion bwyta pathewod yn benodol iawn. Nid ydynt yn byw mewn niferoedd mawr ar un safle, ac nid ydynt yn gallu symud yn hawdd i safleoedd newydd. Maent hefyd yn sensitif iawn i newidiadau yn eu cynefin ac yn yr hinsawdd.

Nodyn cyfarwyddyd un:

Cyfrifoldeb y sefydliad neu’r unigolyn sy’n dymuno bwrw ymlaen â’r datblygiad yw gwneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith.

Mae lladd, anafu, cymryd neu darfu ar unrhyw bathew – neu niweidio neu darfu ar unrhyw loches neu safle magu – yn drosedd. Mae gan bathewod a’u safleoedd magu a’u llochesau warchodaeth statudol lawn o dan y canlynol:

Gyda’i gilydd, mae’r ddeddfwriaeth genedlaethol a’r ddeddfwriaeth Ewropeaidd yn rhoi gwarchodaeth lawn i bathewod, eu safleoedd magu a’u mannau gorffwyso. Heb drwydded, mae’n drosedd i unrhyw un fynd ati’n fwriadol i darfu ar bathewod, eu dal, eu hanafu neu'u lladd. Mae hefyd yn drosedd difetha neu achosi difrod i’w mannau magu neu orffwyso, neu darfu ar eu cysgodfannau neu atal mynediad atynt. Mae hefyd yn drosedd i unrhyw un fod â phathew gwyllt yn ei feddiant, neu werthu un.

Dylai datblygwyr a thirfeddianwyr sy'n bwriadu gwneud unrhyw beth a allai effeithio ar bathewod gael cyngor sy'n benodol i’r safle cyn datblygu dyluniadau a rhaglen. Mae’n rhaid i unrhyw gynigion datblygu neu weithgareddau sy'n effeithio ar bathewod neu'u cynefinoedd ddarparu ar gyfer gwarchod y rhywogaeth a’i gynefin o dan drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Os oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgaredd dan sylw, mae'n rhaid iddo fod yn ei le a chael ei roi i Cyfoeth Naturiol Cymru gyda’r cais am drwydded. Gallai gynnwys pethau fel caniatâd adeilad rhestredig neu drwyddedau gwaredu.

Yn aml iawn, bydd angen trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud gwaith datblygu a chlirio llystyfiant sy’n effeithio ar bathewod neu unrhyw rywogaethau eraill sy'n cael eu gwarchod gan Ewrop. Mae hyn yn wir p’un ai a oes angen caniatâd cynllunio i wneud y gwaith ai peidio. Os na fydd rhywun yn cael trwydded cyn dechrau ar waith datblygu neu glirio safle, gallai hynny arwain at gyflawni troseddau. Gallai hyn, yn ei dro, arwain at ddal gwaith yn ôl, erlyn, dirwyon, atafaelu offer, ffioedd cyfreithiol – a dedfryd o garchar o bosibl.

Caiff trwyddedau eu rhoi o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Cynefinoedd. Cyn y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwydded, rhaid iddo fod yn argyhoeddedig bod y gweithgareddau arfaethedig yn bodloni meini prawf y Rheoliadau Cynefinoedd. Cyfeirir at y meini prawf hyn fel “y tri phrawf”.

Y tri phrawf

Mae’r profion hyn yn ystyried:

  • yr angen am y gweithgaredd/datblygiad arfaethedig
  • opsiynau eraill posibl ar gyfer ffactorau fel gweithgarwch, dull, amseru, cyfnodau, lleoliad
  • cadw statws cadwraeth da poblogaeth y pathewod yr effeithir arnynt

Yn yr un modd, mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn mynnu ein bod yn pwyso a mesur effaith datblygiad arfaethedig ar bathewod cyn penderfynu ar geisiadau cynllunio a fyddai'n gallu effeithio arnyn nhw neu ar eu cynefinoedd. Felly mae’n rhaid i ni hefyd fod yn argyhoeddedig fod y cynigion yn bodloni meini prawf y tri phrawf, fel yr amlinellir yn y Rheoliadau Cynefinoedd, er mwyn rhoi’r caniatâd cynllunio. Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol p’un ai a yw’r cais ar gyfer cynllunio amlinellol, llawn neu faterion a gedwir yn ôl.

Er mwyn helpu Cyfoeth Naturiol Cymru a ninnau i asesu cynigion, mae’n rhaid i ddatblygwyr a thirfeddianwyr roi digon o dystiolaeth i wneud penderfyniad yn erbyn y Rheoliadau Cynefinoedd. Mae hyn yn cynnwys:

  • presenoldeb neu absenoldeb data arolygon cyfredol
  • amcangyfrif o’r boblogaeth, os oes poblogaeth
  • asesiad o gynefin
  • asesiad o effaith
  • strategaeth ar gyfer lliniaru a digolledu
  • cynllun rheoli a monitro

Cosbau:

Y gosb fwyaf y gellir ei rhoi am beidio â chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth uchod yw dirwy o £5000 a/neu chwe mis o garchar, a hynny ar gyfer pob trosedd. Mae’n bosibl y bydd unrhyw offer a ddefnyddir i gyflawni’r trosedd yn cael ei fforffedu. Mae modd dal cwmnïau ac unigolion yn atebol.

Nodyn cyfarwyddyd dau:

Bydd angen arolygon pathewod yn yr achosion hyn:

  • os oes coetiroedd neu ardaloedd sy'n cynnwys prysgwydd cyfoethog ei rywogaethau o fewn ffiniau safle’r datblygiad
  • os oes cofnodion presennol yn dangos bod pathewod ar safle’r datblygiad neu o fewn 500m i ffiniau’r safle

Mae’n rhaid i’r arolwg hwn gael ei gynnal gan ecolegydd cymwys a phrofiadol.

Mae llawer o weithgareddau’n gallu effeithio ar bathewod, gan gynnwys gwaith gwrychoedd, cynlluniau ffyrdd, datblygiadau tai neu waith mewn coetiroedd.

Maent yn byw mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd coediog, gan gynnwys coetiroedd lled-naturiol hynafol gyda choed cyll wedi’u bôn-docio a choed derw safonol, a phrysgwydd cyfoethog ei rywogaethau. Clywir am fwy a mwy o achosion o bathewod yn byw mewn gwrychoedd, planhigfeydd conwydd a gerddi gwledig. Gellir dod o hyd iddynt mewn cynefinoedd amrywiol wrth ymyl coetiroedd hyd yn oed, felly ni ddylid tybio nad oes pathewod ar safle dim ond am nad yw’r cynefinoedd sydd yno yn rhai ‘arferol’ iddynt.

Os ceir cynefinoedd addas ar safle neu o fewn 500m iddo, dylid chwilio drwy gofnodion i weld a oes unrhyw gofnod blaenorol o boblogaethau pathewod lleol.  Wrth chwilio am gofnodion, dylid cynnwys yr ardal o fewn 500m o leiaf o’r safle arfaethedig, ac yn bellach weithiau, gan ddibynnu ar faint y datblygiad. Dylai nodi effeithiau tebygol, ac a allai asesiad poblogaeth ar lefel tirwedd fod yn fuddiol.

Dylid gofyn i Ganolfan Cofnodion Biolegol De Ddwyrain Cymru ymgymryd â’r chwilio. Yn ogystal â hyn, efallai y bydd gan gyrff perthnasol eraill ddata buddiol, gan gynnwys y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r ymddiriedolaeth natur leol.

Dylai datblygwyr safleoedd hefyd gyfeirio at y canllawiau sy'n ymwneud â rhywogaethau a allai fod yn byw yn y cynefin hwnnw:

  • os nad oes cofnod o bathewod o fewn 500m i safle’r datblygiad
  • os nad yw’r arolygon yn cadarnhau bod pathewod yn bresennol, ond fod cynefin addas ar eu cyfer ar safle’r datblygiad ac wrth ei ymyl

Nodyn cyfarwyddyd tri:

Dim ond gwaith asesu/arolygu sydd wedi cael ei wneud gan berson cwbl gymwys o fewn y canllawiau cydnabyddedig ar gyfer cynnal arolygiadau y byddwn yn ei dderbyn.

Gellir gweld canllawiau arolygu cyffredinol ar gyfer rhywogaeth sy'n cael ei gwarchod ar Ddalen Ganllaw B9: Gofynion ar gyfer Arolygon. Mae canllawiau manwl ar gyfer cynnal arolygon ar bathewod ar gael yn:

Dylai’r ecolegydd sydd wedi’i benodi asesu unrhyw gynefin addas ar y safle neu wrth ei ymyl. Byddai hyn o fewn tua 500m, cyn belled nad yw’n cael ei wahanu gan rwystrau mawr a fyddai'n atal pathewod rhag gwasgaru, er enghraifft traffordd neu gefnffordd fawr.

Y gwrychoedd gorau ar gyfer pathewod yw rhai tal a llydan sy'n cynnwys digonedd o lwyni a choed cnau a ffrwythau.

Fel arfer, dylai arolygon rhagarweiniol gael eu cynnal er mwyn gweld a yw’r rhywogaeth yn bresennol ar y safle neu i ddangos ei bod yn debygol nad yw’r rhywogaeth ar y safle.

Nodyn cyfarwyddyd pedwar:

Drwy gynllunio arolygon yn fuan yn fuan yn y broses, gellir lleihau’r costau a’r oedi posibl pe bai'n dod i’r amlwg bod pathewod ar y safle yn ystod y gwaith, ac nad oedd arolygon wedi cael eu cynnal.

Ni ddylid tybio nad oes pathewod yn bresennol mewn unrhyw goetiroedd, ac eithrio coedlannau anaddas llai na 10 hectar sydd â chynefinoedd gwael ac sydd wedi’u gwahanu oddi wrth y cynefin addas agosaf, a hynny o 500m o leiaf.

Fodd bynnag, ni ddylid hepgor y broses arolygu dim ond am fod y cynefin yn ‘anaddas’, a hynny am ein bod yn gwybod bod pathewod yn byw mewn rhai mathau o goetiroedd amwynderol, planhigfeydd conwydd a phrysgwydd, yn ogystal â fforestydd collddail.

Dylai arolygon pathewod i gefnogi cais am drwydded liniaru gynnwys digon o ymdrech i bennu a yw’r rhywogaeth yn bresennol ynteu a yw’n debygol o fod yn absennol. Dylid teilwra’r arolwg i’r safle benodol, a fydd yn newid o un achos i’r llall. Dylid defnyddio’r wybodaeth hon ochr yn ochr â data arolygon cynefinoedd y safle a gwaith ymchwil sydd wedi'i gyhoeddi i roi amcangyfrif o’r boblogaeth y bydd y gwaith yn effeithio arni – bydd angen hyn ar gyfer y drwydded.

Ar gyfer achosion lle mae’r effaith yn fwy, mae’n debygol y bydd angen gweld a oes pathewod yn magu ar y safle. Bydd cynnal arolygon dwys cyn unrhyw newidiadau yn ei gwneud hi’n haws cymharu’n ystyrlon fel rhan o becyn monitro ar ôl i’r gwaith ddod i ben.

Bydd pathewod i’w gweld rhwng mis Ebrill a mis Hydref fel arfer. Fodd bynnag, bydd yr union amseroedd yn amrywio o un flwyddyn i’r llall gan ddibynnu ar leoliad y safle yn y Deyrnas Unedig, y tywydd a’r bwyd sydd ar gael. Dylid anelu at gynnal arolygon yn ystod y misoedd lle mae’n fwyaf tebygol o weld pathewod. Yn ddelfrydol, dylid trefnu i wneud arolygon nythbibellau yn fuan yn y tymor pan fydd y pathewod yn effro gan mai dyma pryd fydd y defnydd ohonynt ar ei uchaf am y tro cyntaf. Dylid cynnal arolygon cnau rhwng mis Medi a mis Rhagfyr fel arfer, oherwydd ar ôl hyn gallai’r cnau golli eu nodweddion diagnosteg, gan ddibynnu ar amodau’r ddaear.

Nodyn cyfarwyddyd pump:

Os yw’r arolygon yn dangos y bydd y cynnig datblygu yn effeithio ar bathewod, bydd angen i ddatganiad dull gael ei gyflwyno i ni gyda’r cais cynllunio cyn iddo gael ei gofrestru. Os nad yw’r mesurau a gynigir ar gyfer osgoi, lliniaru a digolledu yn foddhaol, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn gwrthod y cais cynllunio.

Mae’n rhaid i ddata arolygon pathewod gael eu cynnwys mewn datganiad dull a fydd yn cael ei anfon atom ni er mwyn i ni wneud penderfyniad cynllunio.

Bydd datganiad dull sy'n dilyn canllawiau ar gyfer cynnal arolygon a lliniaru yn The Dormouse Conservation Handbook (ail argraffiad), ynghyd â phapurau sydd wedi’u cyhoeddi, yn gwella siawns eich cais o lwyddo. Os byddwch yn gwyro oddi wrth yr argymhellion yn y llawlyfr, dylid cyfiawnhau hynny yn y datganiad dull.

Cyflwyno’r asesiad o effaith yn y datganiad dull. Dylid categoreiddio effeithiau fel rhai dros dro, tymor byr neu dymor hir, a dylid nodi graddfa pob un hefyd. Dylai’r datganiad dull gynnwys mesurau osgoi ymarferol, ac os nad oes modd gwneud hynny, dylai gyflwyno strategaeth liniaru fanwl, gan gynnwys amserlen.

Dylai’r datganiad dull nodi hefyd a oes angen trwydded cyn cychwyn ar weithgareddau datblygu.

Dylai datblygwyr a thirfeddianwyr nodi na fyddwn yn rhoi amod ar gyflwyno’r datganiad dull. Mae angen i ni gael y wybodaeth yn y datganiad dull er mwyn ein helpu i wneud ein penderfyniadau ynglŷn â’r Rheoliadau Cynefinoedd. Mae’n bur debyg na fydd ceisiadau sy'n rhagweld y bydd y cynigion yn cael effaith ar bathewod, ond sydd ddim yn cynnwys datganiad dull priodol, yn cael eu dilysu.

Os bydd y cais yn cael ei ddilysu ond y gwelir yn nes ymlaen nad oedd y wybodaeth am bathewod yn ddigonol adeg y penderfyniad, gallai hyn effeithio ar ganlyniad y penderfyniad cynllunio.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ffordd safonol o ddelio â cheisiadau am drwyddedau ar gyfer datblygiadau. Yn syml iawn, fel rhan o gais am drwydded, mae’n rhaid i’r datblygwr neu’r tirfeddiannwr a fydd yn ymgymryd â’r gwaith arfaethedig benodi ecolegydd cymwys a phrofiadol. Dylid enwi’r person hwn ar y cais am drwydded. Yr ecolegydd a benodir, fwy na thebyg, fydd yn gyfrifol am gydlynu’r cais am drwydded. Bydd angen llenwi ffurflen gais a darparu datganiad dull fel rhan o’r cais hwn.

Rhaid i'r datganiad dull gyd-fynd â'r fformat a gymeradwywyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (bydd hwn wedi’i ddarparu gyda’r wybodaeth am y cais am drwydded). Bydd yn cyflwyno’r un wybodaeth i raddau helaeth â’r wybodaeth y bydd angen i ni ei chael ar gyfer y cais cynllunio. Fel arfer, bydd yn cymryd hyd at 30 diwrnod i wneud penderfyniad ynglŷn â thrwydded.

Bydd amodau ynghlwm wrth y drwydded, ac ni fydd yn ddilys heb y datganiad dull cymeradwy. Dim ond y gweithgareddau a nodir yn y datganiad dull y bydd y drwydded yn eu caniatáu. Oherwydd hyn, mae’n bwysig bod datblygwyr a thirfeddianwyr yn edrych yn ofalus ar y datganiad dull ac yn cytuno arno cyn ei gyflwyno.

Bwriad y gweithgareddau a’r mesurau yn y drwydded yw gwneud yn siŵr ein bod yn osgoi achosi niwed diangen i rywogaethau sy'n cael eu gwarchod. Os na fydd yr union fesurau yn y drwydded yn cael eu dilyn, gellir cymryd camau i erlyn. Os bydd unrhyw weithgaredd yn gwyro'n sylweddol oddi wrth y datganiad dull a drwyddedwyd, gellir ystyried hyn yn achos o dorri amodau’r drwydded. Mae hyn yn cynnwys gwaith yn cael ei wneud mewn llefydd gwahanol, drwy ddefnyddio dulliau gwahanol, neu ar adeg wahanol i'r hyn a nodwyd yn y datganiad dull.

Os na fydd gwaith yr ymrwymwyd i’w wneud fel rhan o’r datganiad dull yn cael ei wneud fel y nodwyd, gellir ystyried hyn yn achos o dorri amodau’r drwydded hefyd. Gallai hyn gynnwys gwaith archwilio a chynnal a chadw ffensys allgau, gwneud gwaith monitro a rheoli, neu sicrhau bod yr ecolegydd yn goruchwylio mesurau lliniaru ar y safle.

Mae torri amodau’r drwydded yn drosedd. O dan y ddeddfwriaeth bresennol, gellir dal unrhyw un sydd wedi’i awdurdodi i gyflawni gweithgareddau a wneir o dan y drwydded yn atebol am dorri telerau ac amodau’r drwydded. Gallwch ddarllen am y cosbau o dan ‘deddfwriaeth’.

Mae’n bwysig felly bod contractwyr a staff ar y safle yn cael eu briffio'n llawn am y drwydded a’i goblygiadau ar gyfer gweithio ar y safle cyn dechrau arni. Dylid gwneud yn siŵr bod copi cyfredol o’r drwydded a’r datganiad dull cysylltiedig yn cael ei gadw ar y safle bob amser. Dylid cadw unrhyw daflenni adnabod a allai fod yn fuddiol i weithwyr y safle, a manylion cyswllt yr ecolegydd, ar y safle hefyd.

Mae gan drwyddedau ddyddiad dod i ben. Os bydd angen i waith fynd yn ei flaen ar ôl y dyddiad dod i ben, rhaid gwneud cais am estyniad. Ni ellir rhoi estyniad ar gyfer trwydded sydd wedi dod i ben. Pan fydd trwydded wedi dod i ben, rhaid gwneud cais am drwydded newydd. Gan ddibynnu ar faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i’r drwydded ddod i ben, efallai y bydd angen cynnal arolygon ychwanegol er mwyn gwneud yn siŵr bod y wybodaeth sy’n cefnogi'r cais am drwydded yn gywir.

Nodyn cyfarwyddyd chwech:

Mae’n rhaid i ddatblygwyr/ymgeiswyr roi digon o dystiolaeth i ddangos nad oes modd cymryd camau osgoi cyn i fesurau lliniaru neu ddigolledu gael eu hystyried yn opsiwn posibl.

Os bydd mesurau osgoi wedi’u cynnwys yn y cynigion datblygu, gallai hyn ddileu’r angen am gynnal gwaith arolygu manwl. Byddwn yn cael cyngor arbenigol gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrth benderfynu ar achosion lle mae hyn yn berthnasol.

Gellir disgrifio mesurau osgoi fel mesurau y gellir mynd ati’n rhesymol i’w rhoi ar waith er mwyn atal troseddau rhag digwydd. Felly, gall y Mesurau Osgoi Rhesymol hyn yn aml iawn olygu nad oes angen trwydded. Mesurau Osgoi Rhesymol sy’n cael eu ffafrio wrth ystyried dyluniad cynllun. Gall y mesurau hyn amrywio, er enghraifft:

  • diwygio’r ffordd y mae’r safle wedi'i osod allan er mwyn osgoi colli nodwedd bwysig
  • cyflawni gwaith ar adeg sy'n llai tebygol o arwain at darfu
  • newid dulliau gweithio er mwyn lleihau'r effeithiau i lefel dderbyniol

Os yw Mesurau Osgoi Rhesymol yn ymarferol mewn cynllun, mae’n rhaid iddynt gael eu nodi'n fanwl mewn datganiad dull o hyd, a bydd hwn yn cael ei anfon atom ni i’w gymeradwyo. Mae’n debygol y bydd rhoi’r mesurau a amlinellwyd yn y datganiad dull ar Fesurau Osgoi Rhesymol yn un o amodau’r caniatâd cynllunio dilynol.

Os yw’r Mesurau Osgoi Rhesymol yn atal pob un o’r effeithiau a ragwelir ar bathewod a’u cynefinoedd i lefel resymol, nid yw’n debygol y bydd angen trwydded. Yn aml iawn, gall hyn arbed neu leihau oedi rhag dechrau’r datblygiad, a lleihau costau hefyd. Felly mae’n bwysig creu sianeli cyfathrebu rhwng eich penseiri (tirlunio neu fel arall) a’r ecolegydd cymwys a ddewiswyd gennych yn ystod y broses uwchgynllunio. Bydd hyn yn helpu i lywio’r dyluniad a’r rhaglen pan mae’n ddigon buan i weld a allai Mesurau Osgoi Rhesymol fod yn addas.

Bydd adnabod a chynnwys asedau seilwaith gwyrdd fel gwrychoedd, coed a phyllau dŵr mewn datblygiad yn helpu i leihau’r effaith fydd yn deillio o ddatblygu’r cynllun, gan roi cyfle i roi Mesurau Osgoi Rhesymol ar waith ac osgoi cynlluniau lliniaru a digolledu mwy cymhleth y byddai angen trwydded ar eu cyfer o bosibl.

Er enghraifft, gallai cadw cynefin y pathew yn nyluniad datblygiad, gyda llain addas ar gyfer llystyfiant, a ffordd o gysylltu â choetir addas, ddangos bod camau'n cael eu cymryd i osgoi effaith ar y rhywogaeth.  Gallai plannu gwrychoedd a blociau o goetiroedd er mwyn gwella cysylltiadau arwain at fantais glir.

Nodyn cyfarwyddyd saith:

Os nad yw Mesurau Osgoi Rhesymol yn gallu osgoi cael effaith ar bathewod yn foddhaol, mae’n rhaid i’r mesurau lliniaru wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu niweidio ac nad oes colledion gwirioneddol i’w cynefinoedd.

Mae gwefan Natural England yn rhoi canllawiau ar liniaru a gwybodaeth ychwanegol am bathewod.

Gan ddibynnu ar faint y datblygiad a’r effeithiau a ragwelir, gall fod yn amhosibl dibynnu ar Fesurau Osgoi Rhesymol ar eu pen eu hunain i fynd i’r afael yn llawn â’r holl effeithiau posibl ar bathewod neu'u cynefinoedd. Os bydd y timau dylunio’n cyfathrebu â’i gilydd o’r dechrau, bydd hyn yn arwain at well dealltwriaeth o’r cyfyngiadau ecolegol ac fel arall, ac yn sicrhau bod y datblygiad yn cael ei ddylunio mewn ffordd gytbwys.

Bydd yr union fesurau angenrheidiol yn dibynnu ar faint y boblogaeth a dosbarthiad, a pha mor agos yw’r pathewod at y gwaith, yn ogystal â maint y gwaith, pryd mae’n cael ei wneud ac am faint o amser y bydd y gwaith yn mynd rhagddo.

Bydd y datganiad dull yn rhoi manylion am y mesurau lliniaru y mae angen eu rhoi ar waith – bydd y rhain yn weithgareddau wedi’u trwyddedu. Felly, mae’n rhaid cadw’n gaeth at y datganiad dull wrth eu cyflawni.

Dylai’r mesurau lliniaru anelu at wneud yn siŵr nad oes dim byd arall yn tarfu ar y boblogaeth, ac y bydd yn destun gwaith rheoli, cynnal a monitro priodol.

Nodyn cyfarwyddyd wyth:

Ni fydd mesurau digolledu’n cael eu hystyried oni bai fod y datblygwr/ymgeisydd yn gallu dangos yn foddhaol nad oes modd defnyddio mesurau osgoi na lliniaru, a bod y mesurau digolledu'n golygu na fydd colledion gwirioneddol i gynefinoedd.

Os nad yw’r mesurau lliniaru'n gallu lleihau’r holl effeithiau posibl i lefelau boddhaol, mae’n debygol y bydd angen mesurau digolledu ychwanegol. Bydd y drwydded yn mynnu bod mesurau digolledu'n cael eu cynnwys. Rhaid cadw at yr holl fesurau digolledu a amlinellir yn y drwydded – mae’n drosedd peidio â gwneud hynny.

Mae gwefan Natural England yn rhoi canllawiau ar ddigolledu a gwybodaeth ychwanegol am bathewod. Dylai mesurau digolledu wneud yn siŵr bod y pathewod y mae’r datblygiad yn effeithio arnynt yn gallu parhau i fyw fel o’r blaen. Y rhesymeg sydd wrth wraidd hyn yw nad oes modd rhagweld derbynioldeb cynefin sydd wedi cael ei greu o’r newydd ar gyfer pathewod. Ar ben hyn, mae’n bosibl na fydd y cynefin newydd i gyd ar gael yn syth oherwydd ei bod yn cymryd amser i goed a llwyni flodeuo a dwyn ffrwyth.

Fel arfer, mae mesurau digolledu'n ymwneud â cholli cynefinoedd. Er enghraifft, os nad oes modd osgoi colli coetir fel rhan o’r datblygiad arfaethedig, dylid creu coetir o’r newydd fel ffordd o wneud iawn cyn cael gwared â’r llall, yn unol â gofynion y drwydded. Os collir cynefin y pathew, rhaid creu rhagor o gynefinoedd er mwyn gwneud iawn am hynny i sicrhau bod y boblogaeth sy'n wynebu effaith y datblygiad yn gallu parhau i fagu a gwasgaru, a bod bwyd a lloches ar gael iddynt. Rhaid cynnal maint y boblogaeth a’r ystod naturiol hefyd. Felly, bydd yn bwysig ystyried y cysylltiadau rhwng cynefinoedd sy’n cael eu cadw, cynefinoedd newydd a chynefinoedd sy'n bodoli'n barod yn yr ardal ehangach.

Mae’n rhaid cydnabod na all dim byd gymryd lle coetiroedd hynafol.

Mae’n rhaid digolledu cyn i unrhyw fesurau perswadio neu drawsleoli gael eu cymryd. Bydd hyn yn caniatáu i bathewod a ffawna eraill symud i’r mannau hyn cyn i’r datblygiad darfu arnynt.

Mae gan safleoedd datblygu mawr gyfle i wella cynefinoedd cyfagos a choridorau cysylltu i bathewod, ynghyd â ffawna a fflora eraill. Gallant fod yn fannau o ddiddordeb naturiol i drigolion hefyd.

Mae gwella cynefinoedd yn cynnwys:

  • ymgorffori rhywogaethau cynhenid o goetiroedd a gwrychoedd mewn datblygiadau newydd, hyd yn oed os nad yw’r datblygiad yn effeithio ar bathewod
  • creu mwy o gynefinoedd i wneud iawn am y colledion lle mae’r datblygiad yn effeithio ar bathewod
  • creu ‘rhwydweithiau’ i helpu i gysylltu ardaloedd sy'n cynnwys cynefinoedd daearol addas

Chwilio A i Y