Cynefinoedd blaenoriaeth
Cyngor datblygu
Trawsysgrif fideo Rheoli Adnoddau Naturiol yng Nghymru.
Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sawl safle o bwysigrwydd rhyngwladol, cenedlaethol a lleol i gadwraeth natur a daearegol. Maent yn hynod bwysig i’r fwrdeistref sirol ac yn ffurfio rhwydwaith ecolegol craidd sy’n hanfodol i’n treftadaeth naturiol a’n hadnoddau hamdden ni.
Mae’n bwysig deall effeithiau eich datblygiad ar warchod cynefinoedd anhepgor a safleoedd presennol o bwysigrwydd rhyngwladol, cenedlaethol a lleol a chymeriad y dirwedd. Mae polisi cenedlaethol a lleol yn cydnabod pwysigrwydd gwarchod a gwella’r ardaloedd dynodedig hyn o dirwedd arbennig a/neu bwysigrwydd bioamrywiaeth.
Hefyd rydym eisiau sicrhau bod ardaloedd sy’n bwysig i gadwraeth natur yn cael eu gwarchod. Mae’r safleoedd yma wedi cael eu dynodi ac mae Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr ‘CHP 4: Gwarchod a Gwella’r Amgylchedd’ yn eu gwarchod. Mae ardaloedd sydd ag ansawdd amgylcheddol uchel a/neu unigryw yn cael eu gwarchod rhag datblygiadau anaddas sy’n cael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol arnynt.
Mae safleoedd wedi’u dynodi’n hanfodol, er mai dim ond llochesi bychain ac ynysig maent yn eu darparu. Mae’n hanfodol ein bod yn cynnal ac yn creu cysylltiadau rhwng y safleoedd hyn fel bod bywyd gwyllt yn gallu symud rhyngddynt a gwahanol boblogaethau.
Os yw eich datblygiad chi’n agos at ardal dan warchodaeth ac yn lleihau ei effaith niweidiol, gall gael budd positif mewn gwirionedd. Er eu bod yn llochesi pwysig i gynefinoedd a’u rhywogaethau, safleoedd dan warchodaeth yw’r sylfaen ar gyfer ein seilwaith gwyrdd. Fodd bynnag, mae’r safleoedd yma’n dod yn gynyddol ddarniog ac nid ydynt yn gweithio cystal ag y gallent. Hefyd, maent yn dod yn llai abl i wrthsefyll newidiadau fel cynhesu byd-eang.
Rydym yn hybu seilwaith gwyrdd sy’n meithrin rhwydweithiau ecolegol, coridorau gwyrdd a llwybrau gwyrdd gyda manteision cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae’n fecanwaith ar gyfer penderfyniadau doethach a meddwl yn ‘unedig’ am gynllunio amgylcheddol trefol a rhanbarthol.
Mae’r gofynion ar ein hadnoddau naturiol yn cynyddu. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni feithrin perthnasoedd iachach â’r amgylchedd. Drwy reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, gallwn greu swyddi a chefnogi tai a seilwaith cynaliadwy, a fydd hefyd yn helpu ein heconomi i ffynnu.
Dylai effeithiau niweidiol ar safleoedd wedi’u dynodi fod yn ddewis olaf, a rhaid gwneud iawn amdanynt drwy eu newid am nodwedd o werth ecolegol cymharol neu uwch.
Drwy gynnal neu greu nodweddion naturiol fel gwrychoedd neu ddarparu gofod agored naturiol wedi’i gynllunio’n dda, gallwch ddarparu cysylltiadau hanfodol sy’n rhoi hwb i seilwaith gwyrdd.
Er enghraifft, gyda’i gilydd, gall deiliaid tai gyfrannu’n enfawr at seilwaith gwyrdd a chysylltiadau â choetiroedd drwy blannu coed brodorol. Hefyd, bydd tai’n cael manteision uniongyrchol o goed, fel cysgod, aer glanach a gwerth o ran dymunoldeb. Edrychwch ar adroddiad Cymdeithas Ymchwil a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu (CIRIA) ‘C712 The Benefits of Large Species Trees in Urban Landscapes’ am fwy o wybodaeth.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am wasanaethau ecosystemau gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.
Mae penderfynu ynghylch arwyddocâd unrhyw niwed neu fanteision amgylcheddol yn gofyn am adolygu’r adnodd(au) sy’n cael ei effeithio ac effeithiau posib y cynnig.
Mae BS 42020 2012 yn cyfeirio at “effaith arwyddocaol” fel effaith sy’n bwysig, yn nodedig, neu â chanlyniad, o ran ei chyd-destun. Mae arwyddocâd yr effaith yn dibynnu ar sensitifrwydd yr adnodd a effeithir a maint debygol yr effaith.
Mae proses fesul cam yn cael ei defnyddio i sicrhau nad yw cynlluniau a phrosiectau’n cael effaith niweidiol ar ddidwylledd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).
Rhaid i unrhyw gynllun neu brosiect sydd â photensial i effeithio ar Safle â Dynodiad Ewropeaidd (EDS) gael ei asesu’n gyfreithiol o dan broses yr Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd (HRA). Mae safleoedd EDS yn cynnwys ACA, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a safleoedd Ramsar.
Prawf sgrinio
Mae’r prawf hwn yn sefydlu a yw’r cynllun neu’r prosiect arfaethedig yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar Safle â Dynodiad Ewropeaidd, naill ai ar ei ben ei hun neu fel cyfuniad. Mae effaith yn arwyddocaol os oes posibilrwydd y gellid tanseilio amcanion cadwraeth cyhoeddedig y safle.
Os mai’r ateb i brawf 1, yr ‘arwyddocâd’, yw ‘ie’ neu ‘anhysbys’, rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol (a elwir yn Awdurdod Cymwys) wneud ‘asesiad priodol’.
Asesiad priodol
Mae’r prawf effaith arwyddocaol debygol yn arwain at ‘asesiad priodol’, sy’n cadarnhau a fydd effaith niweidiol ar ddidwylledd y safle ai peidio.
Mae graddfa a chwmpas ‘asesiad priodol’ yn amrywio’n sylweddol, gan ddibynnu ar y math o gynllun neu brosiect sy’n cael ei asesu. Fel yr awdurdod cymwys, efallai y bydd rhaid i ni gael gwybodaeth ychwanegol gan ymgeiswyr cynllunio ar gyfer ‘asesiad priodol’ o geisiadau cynllunio.
Wrth gynnal ‘asesiad priodol’, rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ymgynghori yn ffurfiol â Chyfoeth Naturiol Cymru, ac ystyried ei safbwyntiau wrth wneud penderfyniad. Yng ngoleuni gwrthwynebiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar sail HRA, ni ellir dyfarnu caniatâd cynllunio nes bod y gwrthwynebiad wedi cael sylw a’i dynnu’n ôl yn ffurfiol.
Casgliadau asesiad rheoleiddio cynefinoedd
Nodyn cyfarwyddyd dau:
Dim ond os nad yw’r cynllun neu’r prosiect arfaethedig yn cael effaith niweidiol ar ddidwylledd safle Ewropeaidd fydd awdurdod cynllunio lleol yn dyfarnu caniatâd cynllunio.
Os nad yw’n bosib sefydlu hyn y tu hwnt i unrhyw amheuaeth wyddonol resymol, ni ellir dyfarnu caniatâd cynllunio yn gyfreithiol.
Effaith arwyddocaol
Gall effaith niweidiol arwyddocaol fod mor ddifrifol fel bod rhaid gwrthod y cynllun neu’r prosiect yn awtomatig, heb fudd cyhoeddus tra phwysig hanfodol.
Mae polisi cynllunio fel rheol yn dynodi bod effaith niweidiol arwyddocaol datblygiad yn un na ellir rhoi sylw iddi drwy’r hierarchaeth lliniaru. Er enghraifft, ni ellir ei hosgoi drwy reoli neu ddylunio/adleoli i osgoi effaith, lliniaru’n ddigonol, neu fel dewis olaf gwneud iawn amdani.
Dylai datblygwyr wybod y gall y cais gael ei wrthod os anfonir gwybodaeth annigonol am HRA gyda’r cais. Dylai datblygwyr ddefnyddio ymgynghoriadau cyn ymgeisio i gael sicrwydd gan gyrff statudol perthnasol bod yr holl effeithiau posib wedi cael sylw mewn manylder digonol cyn cyflwyno.
Sylwer
Rhaid gwirio prosiectau’n ofalus am yr angen am asesiad o dan y Gyfarwyddeb Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA), yn ogystal â’r Rheoliadau Cynefinoedd, oherwydd mae eu meini prawf yn wahanol. Os yw prosiect sy’n amodol ar AEA yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd hefyd, dylid cynnal ‘asesiad priodol’ y Rheoliadau Cynefinoedd hefyd, yn ogystal â’r AEA. Dylid nodi y bydd angen Asesiad Amgylcheddol Strategol ar gyfer cynlluniau a rhaglenni sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd.
O ran pob safle sydd wedi’i ddynodi, bydd yr hierarchaeth lliniaru yn dilyn y rheolau isod.
Osgoi
Mae’r cam cyntaf yn gofyn a oes modd rheoli neu gynllunio’r datblygiad i osgoi effaith. Os nad oes modd osgoi effaith, efallai bod cwmpas ar gyfer lliniaru drwy ddyluniad ac amseriad y datblygiad. Mewn rhai sefyllfaoedd, gall y datblygiad gael ei ganiatáu, hyd yn oed os yw’n cael effaith niweidiol ar ddidwylledd y safle. Ym mhob sefyllfa, dylid dilyn proses fanwl a fformiwlaig o adrodd yn ôl er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth Ewropeaidd a chenedlaethol.
Dylai gwarchod cynefinoedd presennol o ansawdd uchel, fel glaswelltir heb ei wella a chynefinoedd anhepgor fel coetiroedd hynafol, gael blaenoriaeth dros greu cynefinoedd newydd. Rhaid i adnoddau ar gyfer gwarchodaeth a rheolaeth yn y tymor hir gael sylw a’u cynnwys mewn cynllun cytunedig gan ddefnyddio gwybodaeth berthnasol a diweddar, ac arbenigedd ecolegol.
Lliniaru/iawndal
Rhaid i unrhyw gynigion lliniaru neu iawndal gael ystyriaeth ofalus i warantu eu heffeithiolrwydd a bod modd eu cyflawni. Gall hyn olygu y bydd angen trafodaeth faith rhwng datblygwyr, cynllunwyr, cyrff cadwraeth natur a pherchnogion tir. Gall trafod medrus nodi datrysiadau rhagweithiol sy’n diwallu anghenion pob parti a galluogi datblygiadau gan warchod safleoedd hefyd.
Credyd llun: 'Spider' gan paraflyer.