Mabwysiedig Cynllun Datblygu Lleol Newydd Pen-y-bont ar Ogwr 2018-2033
Ar 13 Mawrth 2024, fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) 2018-2033 ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Daeth y CDLlN yn weithredol ar ddyddiad ei fabwysiadu.
Mae’n disodli Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig blaenorol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2006-2021.
Y CDLlN a fabwysiadwyd yw’r cynllun datblygu ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a hwn fydd yn sail i benderfyniadau ynglŷn â chynllunio defnydd tir yn yr ardal.
Mae’n nodi polisïau allweddol a dyraniadau defnydd tir a fydd yn trefnu dyfodol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn rhoi arweiniad ar gyfer datblygu hyd at 2033.
Dogfennau’r Cynllun Mabwysiedig
Mae dogfennau’r Cynllun Mabwysiedig i’w gweld isod:
Gellir dod o hyd i fanylion pellach ynghylch Mabwysiadu’r CDLl Amnewid yn yr Hysbysiad Mabwysiadu a’r Datganiad Mabwysiadu.