Cais am gyflwyno darpar safleoedd
Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd i’r Fwrdeistref Sirol. Cam nesaf proses y CDLl yw gweithio ar baratoi cynigion ar adnau. Y cam cyntaf yw gofyn i ddatblygwyr, tirfeddianwyr a’r cyhoedd enwebu ‘Safleoedd Posibl’ a allai gael eu dyrannu'n y CDLl sy'n cael ei greu.
Gallai hyn fod ar gyfer unrhyw ddefnydd tir gan gynnwys:
- preswyl
- cyflogaeth
- manwerthu
- mannau cyhoeddus agored
- datblygu mwynau
- datblygiadau gwastraff
- defnyddiau cymunedol
- defnyddiau twristiaeth
Nid oes gwarant y caiff y safleoedd a awgrymir ar y cam hwn eu mabwysiadu, ond bydd eu cyflwyno’n galluogi’r Cyngor i asesu argaeledd safleoedd wrth ffurfio Gweledigaeth i’r Cynllun ac Opsiynau Strategol dilynol i’w datblygu ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Mae’r Holiadur Asesu Safle Posibl wedi ei lunio i sicrhau integreiddio rhwng y Gwerthusiad Cynaliadwyedd a’r broses dewis safle. Bydd yr holiadur yn helpu i sicrhau bod partïon â diddordeb yn cynnwys gwybodaeth a data digonol i alluogi’r Awdurdod Cynllunio Lleol i gynnal asesiad trylwyr.
Os hoffech enwebu safle i’w ystyried, dylech gyflwyno cynllun yn amlinellu’r safle gydag Arolwg Ordnans ynghyd â holiadur yr asesiad. Mae copïau o’r Holiadur Safleoedd Posibl ar gael gan yr Adran Gynllunio, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont Ar Ogwr, CF31 4WB yn ystod oriau swyddfa arferol neu mewn unrhyw lyfrgell yn y Fwrdeistref Sirol.
Ni chaiff unrhyw safleoedd a gyflwynir heb holiadur asesu wedi’i gwblhau eu hystyried.
Rhaid dychwelyd y cynlluniau a’r ffurflenni erbyn 5pm ar 9 Tachwedd er y byddem yn gwerthfawrogi eu cael ynghynt na hyn.
Gall Swyddogion o dîm Cynllunio Datblygu'r Cyngor gynorthwyo wrth gwblhau'r holiadur os oes angen.
Ni allwn drin y wybodaeth a roddir fel gwybodaeth gyfrinachol a bydd pob safle posibl ar gael i’r cyhoedd ei archwilio.
Cyswllt
Cynllunio datblygiad
Dogfennau
- Hysbyseb Leol Galw am Safleoedd Posibl (PDF 299Kb)
- Ffurflen Holiadur Asesu Safleoedd Ymgeisydd (PDF 318Kb)
- Gweithdrefn Asesu Safleoedd Posibl (PDF 114Kb)