Ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (Cynllun Adnau 2018-2033)
Daeth yr ymgynghoriad i ben 27 Gorffennaf 2021.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd
Rydym eisiau eich barn ar ein Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd. Cynllun Meistr yw hwn a ddefnyddir i benderfynu pa fathau o ddatblygiadau all ddigwydd ledled yr ardal rhwng nawr a 2033.
Mae'r CDLl, sydd yn y cam adneuo drafft ar hyn o bryd, yn cynnwys yr holl bolisïau y bydd yr awdurdod yn eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol.
Mae'n nodi sut gellir defnyddio tir, a pha rannau o'r fwrdeistref sirol fydd yn cael eu cynnal fel mannau agored neu eu dynodi at ddibenion preswyl, cyflogaeth, manwerthu, gwastraff, datblygu mwynau, cymunedol a thwristiaeth.
Darllenwch ddogfennau Ymgynghoriad y Cynllun Datblygu Lleol Newydd i gael rhagor o wybodaeth:
Mae’r Gofrestr Sylwadau Cynllun Adnau Amnewid yn darparu copi o sylwadau a wnaed yn briodol a gafodd eu derbyn gan y Cyngor yn ystod cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus y Cynllun Adnau. Mae copïau caled o’r Swyddfeyff Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB ac yn yr holl leoliadau Adnau ar ofyn yn sgil maint y gofrestr. Os ydych am weld y gofrestr yn y lleoliadau hyn cysylltwch â’r swyddogion yn y Tîm CDLl gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:-
ldp@bridgend.gov.uk
01656 643633