Gwerthusiad Cynaliadwyedd
O dan Adran 62(6) Deddf 2004, rhaid i gynlluniau datblygu lleol (CDLlau) sy’n cael eu llunio o’r newydd gael eu gwerthuso am eu cynaliadwyedd. Mae hwn yn ofyniad statudol i lywio’r gwaith o ddewis a datblygu polisïau a chynigion i’w cynnwys yn y CDLlau o ran eu heffeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd posib.
Dywed Rheoliadau Asesiad Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 fel y’u diwygiwyd (y Rheoliadau AAS) ei bod yn ofynnol i awdurdodau cyfrifol, gan gynnwys awdurdodau lleol fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, asesu effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol gweithredu cynlluniau a rhaglenni priodol, fel y diffinnir yn y rheoliadau. Hefyd dywed Rheoliadau AAS ei bod yn ofynnol i awdurdodau cyfrifol astudio effeithiau arwyddocaol tebygol opsiynau amgen rhesymol i’r cynlluniau neu’r rhaglenni sy’n cael eu hystyried. Pan fo angen, rhaid paratoi’r asesiad gan ddilyn proses adrodd yn ôl fesul cam a elwir yn Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS).
Adroddiad Cwmpasu’r Gwerthusiad Cynaliadwyedd (GC)
Mae Adroddiad Cwmpasu’r Gwerthusiad Cynaliadwyedd ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr i gymryd lle’r cynllun blaenorol yn amlinellu’r dull o weithredu arfaethedig gyda Gwerthusiad Cynaliadwyedd (GC) y CDLl, gan gynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS).
Yr adroddiad hwn yw cam cyntaf proses y GC i adnabod, asesu a rhoi sylw i unrhyw effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd o ganlyniad i Gynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr i gymryd lle’r cynllun blaenorol.
Adroddiad Cwmpasu’r Gwerthusiad Cynaliadwyedd (GC)
Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd (GRhC) Cychwynnol
Hefyd mae’r rheoliadau AAS yn cyflwyno cyswllt rhwng AAS a’r angen, mewn rhai achosion, am werthusiad rheoliadau cynefinoedd (GRhC) ar wahân o gynlluniau a phrosiectau, os oes potensial am effeithiau arwyddocaol ar safleoedd Ewropeaidd (Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig).
Gwelir y Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd (GRhC) Cychwynnol o dan eitem chwech ar dudalen y Pwyllgor Rheoli Datblygiadau.
Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd (GRhC) Cychwynnol
Bu Adroddiad Cwmpasu Drafft y Gwerthusiad Cynaliadwyedd a’r Adroddiad Sgrinio GRhC Cychwynnol yn destun cyfnod ymgynghori o bum wythnos gyda rhanddeiliaid rhwng 23 Gorffennaf 2018 a 27 Awst 2018. Derbyniodd yr awdurdod cynllunio lleol naw ymateb i’r ymgynghoriad. Ceir crynodeb o’r materion a godwyd mewn perthynas â’r adroddiadau yn Adroddiad Ymgynghoriad Adroddiad Cwmpasu’r GC.
Penderfyniad Sgrinio
Mae’r ddogfen Penderfyniad Sgrinio’n darparu cofnod o’r penderfyniad ynghylch yr angen neu fel arall am gynnwys asesiad amgylcheddol strategol (AAS) statudol yn y Gwerthusiad Cynaliadwyedd (GC) ehangach sy’n cael ei gynnal mewn perthynas ag adolygu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) cyntaf Pen-y-bont ar Ogwr, y cyfeirir ato fel Adolygiad y CDLl.