Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol 2013
Dechreuodd adolygiad statudol o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Pen-Y-Bont Ar Ogwr yn 2017. Y cam cyntaf oedd cyhoeddi’r Adroddiad Adolygu Drafft. Roedd yn destun cyfnod ymgynghori rhanddeiliad o bedair wythnos o ddydd Llun 30 Ebrill 2018 tan 5pm ar ddydd Gwener 25 Mai 2018. Gellir gweld crynodeb o’r prif faterion a godwyd o’r ymatebion ymgynghori yn Atodiad 7 yr Adroddiad Adolygu terfynol.
Ystyriwyd yr ymatebion o’r ymgynghoriad a chawsant eu cynnwys yn yr Adroddiad Adolygu fel y bo'n briodol. Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd yn yr Adroddiad Adolygu, dylai’r CDLl gael ei ddiwygio drwy weithdrefn adolygu llawn. Mewn geiriau eraill, rhaid cael CDLl newydd. Dylai CDLl Pen-Y-Bont Ar Ogwr gael ei ddiwygio’n unigol.
Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o’r problemau sydd wedi’u hystyried yn rhan o broses adolygu'r CDLl gan nodi’r newidiadau posibl sy'n debygol o fod yn angenrheidiol i unrhyw gynllun diwygiedig. Mae hefyd yn amlinellu’r opsiynau posibl i ddiwygio’r CDLl.